20/03/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2008 i’w hateb ar 20 Mawrth 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Faint o dai fforddiadwy sydd wedi cael eu hadeiladu ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym mhob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf. (WAQ51528)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A allwch gadarnhau a oes archwiliad yn cael ei gynnal ai peidio ym Mharciau Cenedlaethol Cymru yng nghyswllt eu polisïau cynllunio. (WAQ51529)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i helpu dioddefwyr awtistiaeth yng Nghymru. (WAQ51531)

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud cofnodi nifer yr oedolion sydd ag awtistiaeth yn eu hardal yn ofyniad statudol ar gyfer awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol a chyhoeddi cyfarwyddyd iddynt ynghylch hynny. (WAQ51530)

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn. (WAQ51532)