Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2009 i’w hateb ar 20 Mawrth 2009
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Jeff Cuthbert (Caerffili): Faint o gyllid Cychwyn Cadarn/Cymorth a ddyrannwyd i bob awdurdod lleol er 1999. (WAQ53788)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygiadau tyrbinau gwynt mewn Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. (WAQ53785)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa ymateb a gyflwynir gan y Gweinidog i adolygiad cyfredol y Comisiwn Ewropeaidd i Ardaloedd Llai Ffafriol. (WAQ53786)
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Jeff Cuthbert (Caerffili): Pa brosiectau sydd wedi elwa o gyllid Cymunedau yn Gyntaf, fesul ward, ers i’r cynllun gael ei sefydlu. (WAQ53787)