Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mawrth 2012 i’w hateb ar 20 Mawrth 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn ei ateb i WAQ58290, pa bryd y bydd y Prif Weinidog yn gwneud cyhoeddiad ar newid rheoliadau’r Cerdyn Bws Cydymaith. (WAQ59948)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella golwg tir diffaith yng Nghymru. (WAQ59949)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i bobl ifanc ddigartref. (WAQ59946)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio atal pobl ifanc rhag mynd yn ddigartref. (WAQ59947)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa bryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cyhoeddi’r cynigion terfynol ar gyfer newid ffiniau Ynys Môn. (WAQ59945)