Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mai 2008 i’w hateb ar 20 Mai 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o ddisgyblion a oedd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol yn barhaol a dros dro yn ystod pob un o’r 5 mlynedd diwethaf gan awdurdod lleol ar sail ymddygiad. (WAQ51778)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi’u cael gyda rheolwyr Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd am wella ei ddatblygiad. (WAQ51776)
Irene James (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog egluro am ba hyd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi darparu cyllid ar gyfer y tri gwasanaeth bws cyswllt rheilffordd ar Reilffordd Glyn Ebwy ac a wnaiff ddatganiad. (WAQ51779)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nick Ramsay (Mynwy): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru’n darparu unrhyw gymorth ariannol ar gyfer teuluoedd na allant gael gafael ar ddeintydd GIG ac mae’n rhaid iddynt gofrestru â phractis preifat. (WAQ51775)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pryd fydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Agenda ar gyfer Newid yn darparu ei adroddiadau rhagarweiniol a therfynol. (WAQ51777)