20/06/2016 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 14/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/06/2016

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Mehefin 2016 i'w hateb ar 20 Mehefin 2016

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A oes gennych strategaeth yn ei lle i sicrhau gwell ymwybyddiaeth o arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol, gyda ffocws yn benodol ar atal ac ymyrraeth gynnar?  (WAQ70395)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw gynlluniau i feithrin mynediad mwy amserol at driniaethau ar gyfer arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol? (WAQ70396)

Derbyniwyd ateb ar 21 Mehefin 2016

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeo(Vaughan Gething):(Vaughan Gething):
Through the national primary care plan and the service and development directive for arthritis and musculoskeletal conditions we continue to raise awareness and support people to reduce their risk of these conditions and, where they do occur, to assess, diagnose and provide ongoing care as locally and as quickly as possible. We plan to refresh the directive later this year.
The national primary care fund is supporting the development of integrated multi professional teams in the community employing additional physiotherapists. People can access this service directly without waiting to be referred by a GP. This will also enable those patients who need to be seen in secondary care to be seen more quickly.