20/08/2007 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Awst 2007

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 20 Awst 2007

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Prif Weinidog Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y protocolau sy’n bodoli o ran chwifio baneri cenedlaethol yng Nghymru yng ngoleuni sylwadau diweddar Prif Weinidog y DU? (WAQ50293) Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Ysgrifennaf atoch a chaiff copi o'r llythyr ei roi ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd. Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Prif Weinidog wedi’u cael ynghylch cael baneri cenedlaethol ar adeiladau cyhoeddus yng Nghymru? (WAQ50294) Y Prif Weinidog: Ysgrifennaf atoch a chaiff copi o'r llythyr ei roi ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd y rhaglen ar gyfer gwella cysylltiadau ffyrdd rhwng y gogledd a’r de, y cyfeirir ati yng nghytundeb 'Cymru’n Un’, yn arwain at roi cynlluniau ar waith yn gynt nag a nodwyd yn y rhaglen cefnffyrdd bresennol fel y’i diwygiwyd gan atodiad 2002? (WAQ50284) Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd unrhyw oedi o ran rhoi’r rhaglen cefnffyrdd bresennol ar waith oherwydd cytundeb 'Cymru’n Un’ yn cael ei nodi a’i esbonio’n glir? (WAQ50285) Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Ysgrifennaf atoch a chaiff copi o'r llythyr ei roi ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion am yr arian canlyniadol a fydd ar gael i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU ar y defnydd a wneir o’r Asedau Banc segur a sut y caiff unrhyw arian canlyniadol ei wario yng Nghymru? (WAQ50289) Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Ysgrifennaf atoch a chaiff copi o'r llythyr ei roi ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw adolygiad a wnaed o Nodyn Cyngor Technegol 6: Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, ac a wnaiff hi roi manylion unrhyw asesiad a wnaed o bryderon a nodwyd ynghylch sut y mae Nodyn Cyngor Technegol 6 yn cael ei weithredu ar hyn o bryd? (WAQ50283) Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Ysgrifennaf atoch a chaiff copi o'r llythyr ei roi ar y fewnrwyd a’r rhyngrwyd.