Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13eg Tachwedd 2008 i’w hateb ar 20fed Tachwedd 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am wariant AALl ar adnewyddu ysgolion. (WAQ52758)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amrywiaeth mewn cyflogau i gynorthwywyr dosbarth yng Nghymru. (WAQ52759)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Faint o adeiladau ysgol yng Nghymru sydd wedi cael eu hadnewyddu ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52760)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o lefelau cyflawniad sefydliadau addysg bellach bach o’i gymharu â sefydliadau addysg bellach mwy. (WAQ52761)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddisgyblaeth mewn sefydliadau Addysg Bellach. (WAQ52762)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Faint o fyfyrwyr rhyngwladol sydd ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer cymwysterau ym mhob sefydliad addysg bellach yng Nghymru. (WAQ52763)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Faint y mae pob sefydliad addysg bellach wedi’i wario ar weinyddu ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52764)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Pam fod y gronfa ariannol wrth gefn wedi gostwng 7% ar gyfer myfyrwyr addysg bellach, ac ar beth y mae’r arian yn cael ei wario. (WAQ52765)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Ayw’r Gweinidog yn gallu darparu dadansoddiad o’r £10.5 miliwn a glustnodwyd ar gyfer addysg bellach. (WAQ52766)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o unrhyw gynnydd posibl yn nifer y myfyrwyr Addysg Bellach, ac a yw hyn yn cael ei gynrychioli yn rhagolwg y gyllideb. (WAQ52767)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru):
Faint o arian sydd wedi cael ei wario ar adnewyddu adeiladau addysg bellach ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ52768)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr):
Aoes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i ail-leoli’r arian a ddychwelwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin o’i gyllideb ddeintyddiaeth ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2007/8 er mwyn gwneud gwelliannau i wasanaethau orthodonteg yn y flwyddyn ariannol nesaf. (WAQ52757)
Chris Franks (Canol De Cymru):
Awnaiff y Gweinidog a) roi’r wybodaeth ddiweddaraf am brofi ar gyfer canser y coluddyn a b) ystyried a ellir dechrau gwneud profion sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn 60 oed yn hytrach na 65 oed fel y mae ar hyn o bryd. (WAQ52769)