Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 13 Tachwedd 2009 i’w hateb ar 20 Tachwedd 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog gwrdd â Chynghorwyr Sir yn sir Gaerfyrddin i drafod materion diogelwch sy’n ymwneud â chefnffordd yr A48 yng Nghwmgwili. (WAQ55145)
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wella diogelwch cefnffordd yr A48 yng Ngwmgwili. (WAQ55146)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw pob Bwrdd Iechyd Lleol yn awr yn cydymffurfio â’r gyfarwyddeb oriau gwaith. (WAQ55142)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A roddwyd sylw i’r prinder meddygon iau yn y GIG yng Nghymru. (WAQ55143)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o swyddi gwag ar gyfer meddygon iau sydd yn y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd. (WAQ55144)