21/01/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 21 Ionawr 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 21 Ionawr 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o arian fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei arbed o ganlyniad i dorri TAW? (WAQ53138)

Y Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn amcangyfrif y bydd yn arbed £1.4m yn y flwyddyn ariannol bresennol, a thua £4.5m dros yr holl gyfnod a gynlluniwyd ar y gyfradd TAW is (1 Rhagfyr 2008 i 31 Rhagfyr 2009). Nid yw’r arbedion hyn wedi’u cymryd yn ganolog ac felly byddant o fudd i adrannau yn uniongyrchol.

Trosglwyddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru fantais lawn y gostyngiad mewn cyfradd i’w chwsmeriaid yn syth, ac nid yw hyn yn cael unrhyw effaith ar gyllidebau Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bwriad y gostyngiad mewn cyfradd oedd annog gweithgarwch economaidd ledled yr economi, nid arbed arian i gyrff y llywodraeth. Mae’r rhan fwyaf o wariant Llywodraeth y Cynulliad ar grantiau o ryw fath neu’i gilydd, sydd y tu allan i gwmpas TAW beth bynnag, a dim ond ar bryniannau dan Gontract Allanol fel y diffinnir gan Gyllid a Thollau EM y gall cyrff y llywodraeth adfer TAW.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn WAQ52857 a yw’r Gweinidog wedi penderfynu ynghylch cyhoeddi? (WAQ53126)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Rwyf wedi derbyn adroddiad Abergele gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol. Bwriadaf gyflwyno’r adroddiad o fewn y pythefnos nesaf.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei strategaeth ar gyfer defnyddio ystod ehangach o gyffuriau a therapïau fel rhan o ofal diwedd oes? (WAQ53132)

Edwina Hart: Rwyf wedi gofyn i’r Athro Phil Routledge, Cadeirydd Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), i edrych ar y llu o faterion o ran gwella argaeledd meddyginiaethau i gleifion yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae’n edrych ar fater cyffuriau diwedd oes, gan gynnwys y rhai a elwir yn ‘driniaethau arwrol’. Bydd yr Athro Routledge yn cyflwyno adroddiad i mi yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac ar ôl i mi ystyried ei argymhellion yn ofalus, byddaf yn gwneud datganiad ar y camau nesaf.

Yn ogystal â hyn, mae NICE wedi cyflwyno cyngor atodol i’w Bwyllgorau Arfarnu yn ddiweddar, a fydd yn cael effaith ar benderfyniadau a wneir o ran triniaethau sy’n cynnig manteision goroesi ar gyfer afiechydon terfynol sy’n effeithio ar nifer fach o gleifion, ac sydd yn ddrutach na’r hyn a ystyrir yn dderbyniol o dan ganllawiau NICE. Rwy’n croesawu’r datblygiad hwn i gleifion yng Nghymru.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y caiff clefydau arbennig o brin eu trin yng Nghymru? (WAQ53133)

Edwina Hart: Caiff meddyginiaethau newydd a gynhyrchir ar gyfer clefydau arbennig o brin eu hasesu drwy Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan gan gynnwys Therapïau Disodli Ensymau ar gyfer Anhwylderau Storio Lysosomaidd a chynnyrch Gwrth-gyrff Monoclonaidd ar gyfer anemia hemolytig prin.

Gall pob claf yng Nghymru fanteisio ar ofal iechyd sylfaenol ac eilaidd a ddarperir gan eu Bwrdd Iechyd Lleol. Llywodraethir Gwasanaethau Arbenigol gan WHC (2003) 63 sy’n nodi pa wasanaethau a gomisiynir gan Gomisiwn Iechyd Cymru. Caiff rhai triniaethau arbenigol iawn ar gyfer clefydau prin eu prynu ar gyfer cleifion Cymru ar y cyd â’r Grwp Comisiynu Cenedlaethol.

Ar hyn o bryd mae’r Athro Mansel Aylward o Ganolfan Iechyd Cymru yn arwain ymgynghoriad ar ba wasanaethau a gaiff eu dynodi fel Gwasanaethau Arbenigol yn y dyfodol, gan gynnwys cynllunio ar gyfer clefydau prin ac arbennig o brin. Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ymatebion i Ganolfan Iechyd Cymru yw 30 Ionawr 2009.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o fyrddau iechyd lleol sydd â ‘phwyllgorau eithriadau’ a sut y maent wedi’u strwythuro ym mhob bwrdd iechyd lleolŵ (WAQ53134)

Edwina Hart: Nid wyf yn gyfarwydd â’r term ‘pwyllgorau eithriadau’. Os ydych chi’n cyfeirio at y Pwyllgorau Apeliadau a Chyllido Eithriadol mewn BILlau yng Nghymru, sy’n ffordd o ariannu penderfyniadau sydd i’w gwneud mewn amgylchiadau arbennig neu eithriadol, yna mae gan bob BILl un. Penderfyniad BILlau unigol yw strwythur y Pwyllgorau hyn.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan yn cael ei gyllido ac yn cael adnoddau gan ei hadran a sut y mae hyn wedi newid ym mhob blwyddyn ariannol ers ei greu? (WAQ53135)

Edwina Hart: Darperir arian i Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a’r Fro sy’n rheoli swyddogaethau Partneriaeth Meddyginiaethau Cymru (WMP). Mae WMP yn darparu ysgrifenyddiaeth a chymorth i Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) gyflwyno cymorth gweinyddol, technegol a phroffesiynol ar gyfer arfarnu meddyginiaethau newydd ac ar bolisi sy’n hyrwyddo’r defnydd gorau o feddyginiaethau mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.

Ers sefydlu AWMSG yn 2002, mae’r arian canlynol wedi’i ddarparu:

2002/03 - £328,000

2003/04 - £337,000

2004/05 - £337,000

2005/06 - £387,000

2006/07 - £476,000 (ar ddechrau 06/07 cyfunwyd cyllideb sylfaenol AWMSG gyda chyllideb sylfaenol WeMeReC)

2007/08 - £466,000

2008/09 - £456,000

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am Gyngor Celfyddydau Cymru’n caniatáu i Wyl Jazz Aberhonddu 2008 fwrw ymlaen, ac ystyried bod y digwyddiad wedi gwneud colled sylweddol o £50000 yn 2007Ŵ (WAQ53139)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Caiff arian Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y celfyddydau ei sianelu drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, sy’n gweithio o fewn y fframwaith strategol a ddarparwn. Yn unol â’r egwyddor ariannu hyd braich, Cyngor y Celfyddydau fydd yn penderfynu ar ei flaenoriaethau ei hun a faint o arian, os o gwbl, a ddarperir o ystyried galwadau cystadleuol ar ei gyllideb.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi monitro perfformiad Jazz Aberhonddu drwy gyfarfodydd adolygu blynyddol a chraffu ar gyfrifon cyhoeddedig y sefydliad. Roedd y safle yn 2007 yn adlewyrchu diffyg cronedig, nid colled ar unrhyw ddigwyddiad unigol. Cafwyd colled sylweddol (tua £46,000) yn ystod y flwyddyn ariannol 2005/06. Yn y ddwy set ddilynol o gyfrifon y cwmni (ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31/03/2007, a’r cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2007), cofnododd yr Wyl wargedion da. O ganlyniad i hyn, roedd y golled gronedig yn lleihau o flwyddyn i flwyddyn. Roedd rhagamcaniadau ariannol Jazz Aberhonddu yn rhagweld y byddai’r gwarged yn parhau i leihau’r diffyg yn sylweddol dros gyfnod o 3-5 mlynedd.

Gan nad oedd gan Gyngor y Celfyddydau reswm dros gredu na ellid ail-adrodd y gwargedion hyn ac o ystyried pwysigrwydd yr Wyl, roedd y Cyngor o’r farn ei bod yn briodol parhau i ddarparu arian i ganiatáu i Jazz Aberhonddu gael y cyfle i fasnachu ei hun allan o’r anhawster.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y taliadau sy’n ddyledus i ffermwyr dan gynlluniau amaethyddol Cymru? (WAQ53140)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Mae cofnodion taliadau gwledig Cymru yn dangos bod 690 (tua 1.8% o’r holl geisiadau a dderbynnir bob blwyddyn) o hawliadau am daliadau taledig heb eu talu ar hyn o bryd o ran cynlluniau taliad uniongyrchol PAC Ewropeaidd a chynlluniau datblygu gwledig yn seiliedig ar ardal. Ni ellir talu rhai ceisiadau nes y ceir penderfyniad am ymholiadau gydag ymgeiswyr. Nid yw’r ffigwr hon yn cynnwys taliadau Cynllun y Taliad Sengl 2008 gan na chaiff y rhain eu hystyried fel rhai heb eu talu tan ddiwedd y cyfnod talu ar 30 Mehefin 2009.