Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Mawrth 2013 i’w hateb ar 21 Mawrth 2013
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa brotocolau neu reolau ac eithriadau sy’n berthnasol i weision sifil Llywodraeth Cymru wrth iddynt gyfathrebu’n ysgrifenedig neu ar lafar ag Aelodau'r Cynulliad. (WAQ64355)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Yn dilyn y datganiad llafar ar 12 Mawrth 2013 ynghylch yr Adroddiad Diweddaru ar Hwyluso’r Drefn, a wnaiff y Gweinidog a) cadarnhau tâl llawn yr ‘arbenigwr cyfathrebu’, a b) darparu copi o’r swydd-ddisgrifiad ar gyfer yr ‘arbenigwr cyfathrebu’, a fydd yn cael ei recriwtio ar gyfer prosesau cyfathrebu Glastir a Diwygio'r PAC. (WAQ64356)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
David Melding (Canol De Cymru): Pryd gafodd y dosbarthiadau presennol o ardaloedd coetiroedd eu sefydlu, ac a oes unrhyw gynlluniau i’w diwygio. (WAQ64351)
David Melding (Canol De Cymru): Faint o darged Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coetiroedd sydd wedi cael ei gyflawni, a beth yw’r cynlluniau presennol i gyrraedd y targed hwnnw. (WAQ64352)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael yn haws i sipsiwn a theithwyr. (WAQ64350)
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wario ar hysbysebu ym mhob un o’r 5 mlynedd diwethaf, gan rannu’r swm hwnnw yn ôl hysbysebu i) ar y radio, ii) mewn papurau newydd, a iii) ar y teledu. (WAQ64357)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo’r syniad o'r teulu cyfan yn gwella eu ffitrwydd. (WAQ64349)
David Melding (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cymru wedi gwerthuso'r rhesymau sydd wrth wraidd y ffaith fod llawer mwy o bobl yn hawlio taliadau uniongyrchol yn Lloegr o gymharu â Chymru. (WAQ64353)
David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ystyried cynnwys cwestiwn ar dueddiadau a chaethiwed i hapchwarae yn Arolwg Iechyd Cymru. (WAQ64354)