Atebion a roddwyd i Aelodau ar 21 Ebrill 2008
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Ers ei lansio, a) sawl gwaith ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaeth awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn; a b) faint o staff eich adran sydd wedi’i ddefnyddio? (WAQ51605)
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Rwyf wedi bod ar chwe hediad ar wasanaeth awyr Caerdydd i Ynys Môn—dwy daith ddwyffordd a dau hediad unigol. Mae fy Nirprwy Weinidog wedi bod ar dri hediad ar y gwasanaeth hwn—un hediad dwyffordd ac un hediad unigol. Hefyd, mae 10 aelod o staff o’r Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau wedi defnyddio’r gwasanaeth.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am leoliad y cyfleusterau gweinyddol ar gyfer yr Ymddiriedolaethau GIG sydd newydd uno? (WAQ51619)
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Rwy’n trafod lle y caiff pencadlysoedd yr Ymddiriedolaethau unedig newydd eu lleoli gyda’r Cadeiryddion. Yn achos Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda, lleolir y pencadlys dros dro ar hen safle Ysbyty Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Mae’r gwaith o ddewis safle parhaol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth newydd yn parhau.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr oedi cyn penodi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol i’r Ymddiriedolaethau GIG sydd newydd uno? (WAQ51620)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am broses benodi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol i’r Ymddiriedolaethau GIG sydd newydd uno? (WAQ51623)
Edwina Hart: Cynhaliwyd cyfweliadau ar gyfer penodi cyfarwyddwyr anweithredol a Phrif Weithredwyr ar gyfer pob un o’r ymddiriedolaethau unedig cyn iddynt gael eu sefydlu.
Gwnaed bob penodiad gan banel yn cynnwys yr unigolyn y byddant yn atebol iddynt, y swyddog cyfrifyddu ar gyfer y GIG yng Nghymru ac aseswr annibynnol.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer penodi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol i’r Ymddiriedolaethau GIG sydd newydd uno? (WAQ51621)
Edwina Hart: Mae’r manyleb person a’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer y cyfarwyddwyr anweithredol - cymunedol ac arbenigol - yn cael eu cynnwys yn y pecynnau cais.
Cyhoeddir y cymwyseddau gofynnol ar gyfer cyfarwyddwyr gweithredol a Phrif Weithredwyr yn y ddogfen safon aur a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd.
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfansoddiad paneli cyfweld ar gyfer penodi cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol i’r Ymddiriedolaethau GIG sydd newydd uno? (WAQ51622)
Edwina Hart: Gwnaed bob penodiad gan banel yn cynnwys yr unigolyn y byddant yn atebol iddynt, y swyddog cyfrifyddu ar gyfer y GIG yng Nghymru ac aseswr annibynnol.
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud tuag at lunio Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid ac, yn ôl pob tebyg, pa bryd gaiff y Strategaeth hon ei chyhoeddi? (WAQ51618)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae’r Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid wedi’i chwblhau a’i chytuno gan y Cabinet. Caiff ei chyhoeddi yn ystod Wythnos Ffoaduriaid Cymru ym mis Mehefin 2008 gyda Chynllun Gweithredu ategol.