Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Medi 2015 i'w hateb ar 21 Medi 2015
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig bum diwrnod gwaith o leiaf cyn y maent i gael eu hateb. Yn ymarferol, mae'r Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid yw'n orfodol iddynt wneud hynny. Cyhoeddir yr atebion yn yr iaith y'u cyflwynir ynddi, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a roddir yn Gymraeg.
Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut a phryd y bydd triniaethau hepatitis C, fel y'u cymeradwywyd gan y Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan a NICE, yn cael eu hariannu yng Nghymru? (WAQ69158)
Derbyniwyd ateb ar 25 Medi 2015
Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymedithasol (Mark Drakeford):
Funding of £13.8m has been made available by the Welsh Government to ensure patients who meet the clinical criteria have access to the hepatitis C treatments approved by the National Institute for Health and Care Excellence and the All Wales Medicines Strategy Group and to fund a new form of treatment for a rare condition called atypical haemolytic uraemic syndrome. This funding will be made available immediately.