21/10/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14 Hydref 2009 i’w hateb ar 21 Hydref 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau addysg gynradd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2009/10, wedi’u dadansoddi yn ôl cyrsiau i israddedigion ac i raddedigion. (WAQ55006)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau addysg uwchradd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd 2009/10, wedi’u dadansoddi yn ôl cyrsiau i israddedigion ac i raddedigion. (WAQ55007)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau mathemateg a gwyddoniaeth mewn addysg uwchradd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2009/10. (WAQ55008)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar gyrsiau (a) Ieithoedd Modern; (b) Cymraeg; (d) Dylunio a Thechnoleg; (d) TG; (e) Cerddoriaeth; (f) Addysg Grefyddol; ac (g) unrhyw gyrsiau eraill mewn addysg uwchradd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2009/10. (WAQ55009)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Cyn 1 Hydref 2009, a oedd gan Gomisiwn Iechyd Cymru Gynllun Ad-dalu Ariannol ar waith, ac os oedd a) beth oedd lefel y ddyled i’w had-dalu, a b) faint sydd wedi cael ei ad-dalu ers rhoi’r cynllun ar waith. (WAQ55004)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth oedd y gost i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn sgil prynu’r brechlyn tafod glas ar gyfer 2008-09 na chafodd wedyn ei ddefnyddio gan y diwydiant. (WAQ55005)