Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 14eg Tachwedd 2008 i’w hateb ar 21ain Tachwedd 2008
R
- Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn
i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog nodi pryd y bydd yn cyhoeddi argymhellion y gweithgor a sefydlwyd i ymchwilio i hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer offer telathrebu symudol a’i hymateb iddynt. (WAQ52772)
Gofyn
i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro’r union ystyr a bwriad y tu cefn i’r pwynt ar dudalen 36 dogfen Cymru’n Un a ddywed, "Byddwn yn parhau â gwaith ymchwil i shifftiau yn y boblogaeth er mwyn hybu cydbwysedd yn y boblogaeth ym mhob rhan o Gymru”. (WAQ52773)
Gofyn
i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl y bydd 96.14% o’r hawliadau yn ôl gwerth wedi cael eu talu dan Gynllun Taliad Sengl 2008. (WAQ52770)
Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa ganran o’r taliadau dan Gynllun Taliad Sengl 2008 y mae’r Gweinidog yn disgwyl y bydd wedi cael eu talu erbyn 25ain Rhagfyr 2008, wedi’i dadansoddi yn ôl (a) gwerth a (b) hawlwyr. (WAQ52771)