22/05/2017 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 16/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/06/2017

​Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Mai 2017 i'w hateb ar 22 Mai 2017

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y cwestiwn mewn cromfachau)

Mae'n rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A yw cynghorwyr annibynnol Ysgrifennydd y Cabinet wedi dilysu'r ffigurau ar gyfer effaith economaidd a argymhellir ar gyfer Cylchffordd Cymru gan yr ymgynghorwyr KADA? (WAQ73499)

Derbyniwyd ateb ar 22 Mai 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith (Ken Skates): Officials are currently in the process of due diligence.  The results of that work will be made available to the Cabinet for a final decision on the project.
 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pryd y cafodd Ysgrifennydd y Cabinet ei hysbysu gyntaf o fwriad Swyddfa Archwilio Cymru i gyhoeddi ei hadroddiad ar Gylchffordd Cymru yn hwyr ym mis Ebrill? (WAQ73500)
 
Derbyniwyd ateb ar 24 Mai 2017

Ken Skates: Officials were given unusually short notice of the intention to publish by the Wales Audit Office. On the 13th April WAO staff met with Officials when they were verbally advised that the report was to be published on 24th April. Later the same day the Auditor General wrote to the Deputy Permanent Secretary with a copy of his draft report together with his draft press statement confirming his intended publication date. With Easter falling in the intervening period the advance notice of publication was only 5 working days.


 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A oes gan Ysgrifennydd y Cabinet unrhyw ffigurau is-genedlaethol, rhanbarthol neu leol o ran cymorth ariannol uniongyrchol y llywodraeth i fusnesau yng Nghymru ar sail flynyddol; ac a gaiff y ffigurau hynny eu cyhoeddi? (WAQ73501)
 
Derbyniwyd ateb ar 24 Mai 2017

Ken Skates: Whilst we record certain information, we do not formally collate annual figures in this format.
 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet restru'r pryderon allweddol y cyfeirir atynt yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar 27 Ebrill, ynghylch cynnwys a chasgliadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru nad oeddynt wedi'u hystyried cyn ei gyhoeddi? (WAQ73502)

Derbyniwyd ateb ar 22 Mai 2017

Ken Skates: The key concerns not addressed by the Wales Audit Office prior to publication are fully described in my written statement of 27 April.
 
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaeth adran Ysgrifennydd y Cabinet geisio dylanwadu ar Gylchffordd Cymru mewn perthynas â'r dystiolaeth a ddarparwyd fel rhan o ymchwiliad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru?  (WAQ73503)

Derbyniwyd ateb ar 22 Mai 2017

Ken Skates: Officials did not discuss with the Circuit of Wales or otherwise influence the evidence the company and its senior representatives provided to the Wales Audit Office inquiry.
 

Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau a oes cynllun o Gomin Ogwr ym Mro Morgannwg sy'n tynnu sylw at ardaloedd sy'n destun cynllun cynnal a chadw ac, os felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu copi o'r cynllun hwn? (WAQ73498)

Derbyniwyd ateb ar 22 Mai 2017

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Lesley Griffiths): The requested information is not held by Welsh Government but may be available from the Vale of Glamorgan Council.