Atebion a roddwyd i Aelodau ar 22 Mehefin 2007
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Cynnwys Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaladwyedd a Datblygu Gwledig
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
Alun Ffred Jones (Arfon): Beth yw costau gweinyddol y Cynllun Ardrethi Annomestig? (WAQ50084)
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus (Andrew Davies): Mae’r costau gweinyddol yn isel iawn ac ni chânt eu cofnodi ar wahân gan y cânt eu talu o gostau rhedeg a chostau staffio ategol presennol awdurdodau lleol. Mae’r Cynllun Rhyddhad Trethi Busnesau Bach yn haws i’w weinyddu na’r hen Gynllun Rhyddhad Trethi Gwledig, felly dylai’r costau gweinyddol fod yn is.Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gynaladwyedd a Datblygu Gwledig
Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y rhaniad hirdymor rhwng ailgylchu/compostio ac ynni o wastraff? (WAQ50052)
Y Gweinidog dros Gynaliadwyedd a Datblygu Gwledig (Jane Davidson): Mae ynni o wastraff yn hanfodol i gymryd gwastraff gweddilliol na ellir ei ader a helpu i gyflawni targedau’r UE ar gyfer gwyro o dirlenwi. Mae’r cydbwysedd rhwng ailgylchu a chompostio yn cynnwys compostio gwastraff bwyd ac ynni o wastraff yn arwyddocaol er mwyn sicrhau y caiff gwastraff ei reoli yn y ffordd fwyaf cynaliadwy. Mae arfer gorau ar gyfandir Ewrop yn awgrymu dros amser y dylem anelu at ailgylchu neu gompostio o leiaf 70/75% o wastraff trefol ac ni ddylai mwy na 25/30% fynd i droi gwastraff yn ynni. Mae’r rhain yn wledydd sydd ar hyn o bryd yn cyflawni lefel o hyd at 80% o ailgylchu/compostio. Mae angen i ni hefyd ystyried cynyddu’r gwastraff diwydiannol a masnachol a gaiff ei adfer yn cynnwys pecynnu gormodol gan y diwydiannau manwerthu a bwyd. Caiff y materion hyn eu hystyried yn ein hadolygiad o Strategaeth Wastraff Llywodraeth y Cynulliad Yn Gall gyda Gwastraff. Bydd rhanddeiliaid allweddol yn rhan bwysig o’r gwaith hwn ac rwy’n rhagweld y bydd drafft cyntaf yn barod i ymgynghori arno ddechrau’r flwyddyn nesaf.Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y profion TB cyn symud a gynhaliwyd bob mis ers dechrau’r cynllun, ac a wnaiff hi roi manylion nifer yr adweithyddion a nifer yr adweithyddion a gadarnhawyd mewn profion post mortem? (WAQ50053)
Jane Davidson: Mae nifer y profion Cyn eu Symud a gynhaliwyd fesul mis ers cyflwyno’r mesur yng Nghymru ar 2 Mai 2006, fel a ganlyn:Mis | Gwartheg a Brofwyd |
Mai 2006 | 6,768 |
Mehefin 2006 | 3,912 |
Gorffennaf 2006 | 4,623 |
Awst 2006 | 5,277 |
Medi 2006 | 10,111 |
Hydref 2006 | 12,911 |
Tachwedd 2006 | 6,565 |
Rhagfyr 2006 | 2,286 |
Ionawr 2007 | 5,737 |
Chwefror 2007 | 4,916 |
Mawrth 2007 | 9,797 |
Ebrill 2007 | 14,452 |
Anifeiliaid | |
Nifer yr adweithwyr | 113 |
Briwiau Amlwg a/neu Feithriniad Cadarnhaol | 54 |
O blith y rhain mae | |
Briwiau Amlwg a Meithriniad Cadarnhaol | 35 |
Briwiau Amlwg a Meithriniad Arall | 15 |
Dim Briwiau Amlwg a Meithriniad Cadarnhaol | 4 |
Elin Jones (Ceredigion): Ar gyfer pob blwyddyn er 1999; a wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y buchesi a brofwyd yn flynyddol am TB mewn gwartheg, ac a wnaiff hi roi manylion amlder y profion ar gyfer buchesi eraill? (WAQ50054)
Jane Davidson: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael ar hyn o bryd.Elin Jones (Ceredigion): Ar gyfer pob blwyddyn er 1999; a wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y buchesi a brofwyd am TB mewn gwartheg? (WAQ50055)
Elin Jones (Ceredigion): Ar gyfer pob blwyddyn er 1999; a wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer y buchesi gydag adweithyddion i TB mewn gwartheg? (WAQ50056)
Jane Davidson: Darperir manylion y nifer o brofion ar fuchesi, cyfanswm yr achosion newydd mewn buchesi a’r achosion newydd a gadarnhawyd mewn buchesi yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn yn ystod y cyfnod 1 Ionawr 1999 i 31 Rhagfyr 2006 yn y tabl isod.
Dyddiad | Profion ar Fuchesi (a) | Cyfanswm yr Achosion Newydd mewn Buchesi (b) | Achosion Newydd a Gadarnhawyd mewn Buchesi (c) |
1999 | 5,223 | 282 | 127 |
2000 | 5,433 | 264 | 151 |
2001 | 2,079 | 207 | 132 |
2002 | 8,480 | 618 | 348 |
2003 | 7,422 | 625 | 327 |
2004 | 8,359 | 656 | 324 |
2005 | 8,639 | 734 | 395 |
2006 | 10,615 | 756 | 411 |
(a) Profion ar fuchesi cyfan nad oes cyfyngiad arnynt ar hyn o bryd. Nid yw’n cynnwys profion cyfnod byr ar fuchesi sydd o dan gyfyngiad ar hyn o bryd a phrofion ar anifeiliaid unigol.
(b) Buchesi nad oedd cyfyngiad arnynt yn flaenorol a oedd yn cynnwys o leiaf un anifail a nodwyd fel adweithydd (neu a laddwyd fel anifail heb adwaith pendant).
(c) Buchesi a oedd ag achos newydd a gafodd ei gadarnhau wedi hynny gan feithriniad neu friwiau amlwg yn y post mortem.
Cafwyd y data a ddefnyddir yn yr ateb o’r Ystadegau TB a gyhoeddwyd ar wefan Defra (www.defra.gov.uk/animalh/tb/stats/index.htm) ac mae’n ddata dros dro a allai newid wrth i fwy o ddata ddod ar gael.
Elin Jones (Ceredigion): Ar gyfer pob blwyddyn er 1999; a wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer yr adweithyddion TB mewn gwartheg a gafodd eu lladd? (WAQ50057)
Jane Davidson: Darperir manylion am nifer yr anifeiliaid a laddwyd fel adweithwyr, anifeiliaid heb adwaith pendant a chysylltiadau uniongyrchol o dan fesurau rheoli TB mewn gwartheg yng Nghymru ar gyfer pob blwyddyn ers 1 Ionawr 1999 yn y tabl isod:
Dyddiad | Adweithyddion | Anifeiliaid Heb Adwaith Pendant | Cysylltiadau Uniongyrchol | Cyfanswm |
1999 | 920 | 41 | 398 | 1,359 |
2000 | 986 | 41 | 372 | 1,399 |
2001 | 1,578 | 66 | 430 | 2,074 |
2002 | 4,305 | 99 | 656 | 5,060 |
2003 | 4,809 | 137 | 788 | 5,734 |
2004 | 4,682 | 126 | 707 | 5,515 |
2005 | 5,520 | 138 | 1,119 | 6,777 |
2006 | 5,220 | 101 | 719 | 6,040 |
2007* | 2,360 | 36 | 157 | 2,553 |
Cafwyd y data a ddefnyddir yn yr ateb o’r Ystadegau TB a gyhoeddwyd ar wefan Defra (www.defra.gov.uk/animalh/tb/stats/index.htm) ac mae’n ddata dros dro a allai newid wrth i fwy o ddata ddod ar gael.
Yn cynnwys yr holl anifeiliaid a laddwyd o ganlyniad i TB o fuchesi cyfyngedig ac achosion newydd.Elin Jones (Ceredigion): Ar gyfer pob blwyddyn er 1999; a wnaiff y Gweinidog roi manylion nifer yr adweithyddion TB mewn gwartheg a gafodd eu lladd a oedd wedi cael prawf positif am TB mewn gwartheg mewn profion post mortem? (WAQ50058)
Jane Davidson: Darperir manylion yr anifeiliaid a laddwyd o dan fesurau rheoli TB mewn gwartheg yng Nghymru fel adweithwyr a gadarnhawyd ar gyfer pob blwyddyn yn ystod y cyfnod 1 Ionawr 1999 i 31 Rhagfyr 2006 yn y tabl canlynol:
Dyddiad | Adweithwyr a Gadarnhawyd |
1999 | 418 |
2000 | 461 |
2001 | 627 |
2002 | 1,302 |
2003 | 1,339 |
2004 | 1,224 |
2005 | 1,416 |
2006 | 1,407 |
Cafwyd y data a ddefnyddir yn yr ateb o’r Ystadegau TB a gyhoeddwyd ar wefan Defra (www.defra.gov.uk/animalh/tb/stats/index.htm) ac mae’n ddata dros dro a allai newid wrth i fwy o ddata ddod ar gael.
Yn cynnwys yr holl anifeiliaid a laddwyd o ganlyniad i TB o fuchesi cyfyngedig ac achosion newydd. Yn cynnwys adweithwyr, anifeiliaid heb adwaith pendant a chysylltiadau uniongyrchol.
Gellir dosbarthu anifeiliaid a laddwyd fel achosion "wedi’u cadarnhau”, "heb eu cadarnhau” neu "heb eu dosbarthu”. Ni chaiff anifeiliaid o fuchesi sydd eisoes ag adweithydd wedi’i gadarnhau eu profi fel arfer i gadarnhau bod ganddynt TB ac felly byddant "heb eu dosbarthu”
Adweithwyr wedi’u cadarnhau yw anifeiliaid a gafodd eu cadarnhau ar ôl hynny gan feithriniad neu friwiau amlwg yn y post mortem.