Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 15 Awst 2012 i’w hateb ar 22 Awst 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Prif Weinidog
Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Heddlu De Cymru; Cyngor Sir Caerdydd; a sefydliadau rheilffyrdd, ynghylch ymdrin â’r torfeydd mawr o deithwyr ar ôl y gemau pêl-droed Olympaidd yn Stadiwm y Mileniwm. (WAQ61060)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Ers yr etholiadau ym mis Mai 2011, sawl gwaith y mae pob un o Weinidogion neu Ddirprwy Weinidogion Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â’r Gweinidog neu’r Dirprwy Weinidog cyfatebol yn:
a) Llywodraeth y DU; a
b) Llywodraeth yr Alban (WAQ61080)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Faint o weithwyr Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ym mhob un o safleoedd swyddfeydd Llywodraeth Cymru (ee Cyffordd Llandudno, Parc Cathays) a faint sydd ag oriau gweithio hyblyg ym mhob un o’r safleoedd hyn. (WAQ61081)
Russell George (Sir Drefaldwyn): Sawl gwaith yn ystod y tair blynedd diwethaf y mae’r Prif Weinidog wedi cwrdd â chynrychiolwyr o’r Grid Cenedlaethol i drafod ei gynigion ar gyfer Prosiect Cysylltiad Canolbarth Cymru. (WAQ61085)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran gweithredu argymhelliad 14 adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Adfywio Canol Trefi (Ionawr 2012). (WAQ61070) Trosglwyddwyd i'w ateb yn Ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae wedi’u cymryd i bwyso a mesur y ffordd orau o gefnogi arweinyddiaeth leol mewn canol trefi ledled Cymru, fel y nodir yn ymateb y Gweinidog i argymhelliad 14 adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Adfywio Canol Trefi. (WAQ61071) Trosglwyddwyd i'w ateb yn Ysgrifenedig gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa asesiad a fu ynghylch arolygon sy’n asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, yn benodol yn gofyn i rieni ddewis rhwng addysg cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg. (WAQ61072)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar y mae’r Gweinidog neu ei swyddogion wedi’u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch arolygon sy’n asesu’r galw am addysg iaith Gymraeg. (WAQ61074)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau diweddar a fu ynghylch darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn Nhor-faen. (WAQ61075)
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda chyrff y diwydiant ar ddynodi cynlluniau rheoli gwastraff safleoedd a darparu cyfarwyddyd polisi clir ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru. (WAQ61076)
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i symud ymlaen i ddynodi cynlluniau rheoli gwastraff safleoedd a darparu cyfarwyddyd polisi clir ar gyfer y diwydiant adeiladu yng Nghymru. (WAQ61077)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yng nghyswllt polisi cynllunio, a wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae ei adran yn ystyried datblygiadau tai arfaethedig yn y cyngor y mae’n ei roi i awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu cynlluniau datblygu lleol. (WAQ61083)
Russell George (Sir Drefaldwyn): Gan fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Parthau Cadwraeth Morol wedi dod i ben bellach, a wnaiff y Gweinidog nodi faint o ymatebion a gafodd y Llywodraeth. (WAQ61086)
Russell George (Sir Drefaldwyn): A fu angen recriwtio aelodau ychwanegol o staff i ymdrin â’r gwaith o brosesu’r ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch y Parthau Cadwraeth Morol ac, os felly; (a) faint o aelodau ychwanegol o staff a gafodd eu recriwtio; (b) faint o’r aelodau ychwanegol o staff a oedd eisoes yn staff Llywodraeth Cymru ac o ba adrannau y cawsant eu recriwtio; (c) os cawsant eu recriwtio’n allanol, beth yw hyd eu cytundebau; a (ch) beth fydd y gost ariannol i Lywodraeth Cymru. (WAQ61087)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Beth yw costau rhedeg pob un o safleoedd swyddfeydd Llywodraeth Cymru o ddydd i ddydd (y flwyddyn). (WAQ61082)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ystyriaeth a roddwyd i ddatblygiadau pellach yn y Rhaglen Sgrinio am Ganser y Coluddyn gan gynnwys (i) ymestyn y rhaglen i bobl 50-59 oed; (ii) cynnwys sigmoidosgopi hyblyg; a (iii) defnyddio’r Prawf Imiwnocemegol Ysgarthol yn hytrach na’r prawf gwaed ysgarthol cudd presennol. (WAQ60163)
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at lythyr y Gweinidog yn ymateb i WAQ60934, o’r 180 o gleifion o ganolfan Caerdydd a oedd yn aros yn hwy na’r canllaw o 18 mis, faint o’r cleifion hynny oedd yn aros i gael ail gylch o driniaeth IVF. (WAQ61069)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r rhagolygon gwariant dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer y gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru. (WAQ61079)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau diogelwch mewn gweithgareddau awyr agored. (WAQ61061)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael ynghylch dyfodol trwyddedu darparwyr gweithgareddau awyr agored. (WAQ61062)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sefydlu cysylltiad rheilffordd uniongyrchol rhwng Glynebwy a Chasnewydd. (WAQ61064)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pryd y mae Llywodraeth Cymru yn cynnig dechrau’r broses dendro ar gyfer ailosod Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a pha flaenoriaethau y mae’r Gweinidog yn disgwyl a gyflawnir o dan y contract newydd. (WAQ61065)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU ynghylch trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd, a yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau ynghylch ailagor y rheilffordd rhwng Aberdâr a Hirwaun i gludo teithwyr ar yr un pryd â chynnal y gwaith trydaneiddio. (WAQ61066)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A yw’r Gweinidog wedi cael unrhyw drafodaethau gyda Trenau Arriva Cymru ynghylch astudiaeth ar fanteision cyflwyno gwasanaethau cyflym rhwng gorsafoedd allweddol ar Reilffordd y Cymoedd a Chaerdydd Canolog, Heol y Frenhines Caerdydd neu Fae Caerdydd, na fyddent yn aros yn y gorsafoedd tawelach ac felly’n cwtogi ar hyd y siwrnai. (WAQ61067)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu nifer a dosbarth yr unedau trên a gafodd eu prynu/lesio gan Lywodraeth Cymru a/neu Trenau Arriva Cymru er 2003 a chyfanswm nifer yr unedau sydd wedi cael eu lesio gan Trenau Arriva Cymru i weithredwyr eraill, gan gynnwys dyddiadau perthnasol. (WAQ61068)
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): Hyd yn hyn yn 2012, faint o ddyfarniadau/argymhellion yng nghyswllt Awdurdodau Lleol yng Nghymru sydd wedi cael eu gwneud gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. (WAQ61078)
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pa asesiad safonol a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu’r holl gynigion ar ddatblygiadau rheilffyrdd newydd yn ystod y pum mlynedd diwethaf. (WAQ61084)
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pa ddull a ddefnyddiodd Consortiwm Trafnidiaeth Canolbarth Cymru (TRACC) wrth asesu cynigion ar ddatblygiadau rheilffyrdd ar gyfer Gorsaf Carno. (WAQ61088)
Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Comisiwn amlinellu faint sydd wedi cael ei wario ar gynnal a chadw a diweddaru pumed llawr Ty Hywel yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ers mis Mai 2011, gan ddadansoddi’r swm fesul swyddfa pob Gweinidog. (WAQ61073)