Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 23 Mawrth 2010
[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
Cynnwys
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Fusnes a'r Gyllideb
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Gofyn i'r Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar draws cyfrifoldebau portffolio’r Gweinidog i gymryd rhan yn y digwyddiad Awr Ddaear ar 27ain Mawrth 2010. (WAQ55912) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Menter fyd-eang WWF yw Awr Ddaear gyda'r nod o ddangos cefnogaeth pobl i weithredu er mwyn atal newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ddod ynghyd a gwneud datganiad am eu pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan ddangos i arweinwyr y byd ei bod yn bosibl cymryd camau cadarnhaol, yn enwedig ar ôl negodiadau Copenhagen y llynedd ar newid yn yr hinsawdd. Mae WWF yn ymgyrchu i gael sefydliadau, prif adeiladau a strwythurau amlwg, cymunedau ac unigolion i ddiffodd eu goleuadau am awr am 8.30 pm ar 27 Mawrth.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cymorth uniongyrchol i WWF i hyrwyddo'r digwyddiad yn eang yng Nghymru, ac i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo yn y ddwy iaith yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys llunio tri phecyn cymorth wedi'u llunio'n bwrpasol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol er mwyn eu galluogi i ymuno a chymryd rhan. Rydym wedi darparu arian sydd wedi cefnogi'r prif ddigwyddiad ar gyfer y min nos ym Mae Caerdydd, ac wedi galluogi creu deunyddiau cyhoeddusrwydd a marchnata dwyieithog, gan gynnwys cardiau post ymuno.
Byddwn yn cymryd rhan yn uniongyrchol drwy ddiffodd y goleuadau yn ein hystad ac rydym yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill ledled Cymru i wneud yr un fath.
Bydd y goleuadau'n cael eu diffodd ar adeiladau hanesyddol amlwg gan gynnwys Castell Caernarfon, Castell Coch, Abaty Tyndyrn, Castell Cydweli, a Chastell Rhuddlan ymysg eraill.
Rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cymryd rhan hyd yn hyn a'u hannog i wneud hynny. Er mwyn hyrwyddo'r ymgyrch ledled Cymru, rhoddwyd tortsh panda a gaiff ei weindio i bum ysgol o bob rhanbarth o Gymru, a byddant yn cynnal gweithgareddau'r wythnos hon gan gadw'r dortsh ynghynn yn ystod amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio i dynnu sylw'r gymuned ehangach at Awr Ddaear.
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar draws cyfrifoldebau portffolio’r Gweinidog i gymryd rhan yn y digwyddiad Awr Ddaear ar 27ain Mawrth 2010. (WAQ55911) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Menter fyd-eang WWF yw Awr Ddaear gyda'r nod o ddangos cefnogaeth pobl i weithredu er mwyn atal newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ddod ynghyd a gwneud datganiad am eu pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan ddangos i arweinwyr y byd ei bod yn bosibl cymryd camau cadarnhaol, yn enwedig ar ôl negodiadau Copenhagen y llynedd ar newid yn yr hinsawdd. Mae WWF yn ymgyrchu i gael sefydliadau, prif adeiladau a strwythurau amlwg, cymunedau ac unigolion i ddiffodd eu goleuadau am awr am 8.30 pm ar 27 Mawrth.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cymorth uniongyrchol i WWF i hyrwyddo'r digwyddiad yn eang yng Nghymru, ac i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo yn y ddwy iaith yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys llunio tri phecyn cymorth wedi'u llunio'n bwrpasol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol er mwyn eu galluogi i ymuno a chymryd rhan. Rydym wedi darparu arian sydd wedi cefnogi'r prif ddigwyddiad ar gyfer y min nos ym Mae Caerdydd, ac wedi galluogi creu deunyddiau cyhoeddusrwydd a marchnata dwyieithog, gan gynnwys cardiau post ymuno.
Byddwn yn cymryd rhan yn uniongyrchol drwy ddiffodd y goleuadau yn ein hystad ac rydym yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill ledled Cymru i wneud yr un fath.
Bydd y goleuadau'n cael eu diffodd ar adeiladau hanesyddol amlwg gan gynnwys Castell Caernarfon, Castell Coch, Abaty Tyndyrn, Castell Cydweli, a Chastell Rhuddlan ymysg eraill.
Rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cymryd rhan hyd yn hyn a'u hannog i wneud hynny. Er mwyn hyrwyddo'r ymgyrch ledled Cymru, rhoddwyd tortsh panda a gaiff ei weindio i bum ysgol o bob rhanbarth o Gymru, a byddant yn cynnal gweithgareddau'r wythnos hon gan gadw'r dortsh ynghynn yn ystod amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio i dynnu sylw'r gymuned ehangach at Awr Ddaear.
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd cyfanswm y gwariant ar Gronfa Ddysgu Undebau Cymru ym mhob blwyddyn ers ei sefydlu, a faint sydd yn y gyllideb ar gyfer y Gronfa hon dros weddill y tymor Cynulliad hwn. (WAQ55907) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau
Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010
Y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau (Lesley Griffiths): Er i Gronfa Ddysgu Undebau Cymru gael ei lansio yn 1999, y cofnodion gwariant cynharaf sydd ar gael yw'r rhai ar gyfer 2001-2002. Byddai costau darparu'r wybodaeth ar gyfer y cyfnod cyn 2001-2002 yn afresymol.
Nodir cyfanswm y gwariant ar Gronfa Ddysgu Undebau Cymru ers 2001-2002 yn y tabl isod.
Blwyddyn Ariannol |
Gwariant WULF |
2001-2002 |
£334,600 |
2002-2003 |
£477,956 |
2003-2004 |
£308,094 |
2004-2005 |
£556,270 |
2005-2006 |
£837,481 |
2006-2007 |
£835,653 |
2007-2008 |
£694,228 |
2008-2009 |
£1,031,573 |
2009-2010 |
£947,938 (hyd heddiw) |
Y gyllideb ar gyfer Cronfa Ddysgu Undebau Cymru ar gyfer gweddill tymor y Llywodraeth hon yw £1.3m ar gyfer 2009-2010 a £1.5m ar gyfer 2010-2011.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog restru'r talai, y dyddiad a phwrpas pob taliad a wnaed dan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru ers ei sefydlu. (WAQ55908) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau
Rhoddwyd ateb ar 25 Mawrth 2010
Y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau (Lesley Griffiths): Byddai costau darparu'r wybodaeth hon yn afresymol. Byddai'n cymryd llawer o amser i gasglu'r holl wybodaeth at ei gilydd a byddai angen adnoddau ychwanegol h.y. Swyddog Cymorth Tîm a fyddai'n costio tua £7,000.
Darren Millar (Gorllewin Clwyd): I ba bwrpas y sefydlwyd Cronfa Ddysgu Undebau Cymru. (WAQ55909) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau
Rhoddwyd ateb ar 30 Mawrth 2010
Y Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau (Lesley Griffiths):
Sefydlwyd Cronfa Ddysgu Undebau Cymru er mwyn cynyddu cyfraniad Undebau Llafur i'r eithaf wrth gyflawni amcanion Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu'r gweithlu. Mae'r Gronfa'n ceisio meithrin gallu o fewn mudiad yr Undebau i gynyddu gweithgareddau dysgu gydag unigolion a chyflogwyr i'r eithaf. Cydnabyddir yn gynyddol bod mudiad yr Undebau Llafur mewn sefyllfa unigryw i hybu'r neges ddysgu a hyrwyddo cyfleoedd dysgu ymhlith unigolion a chyflogwyr.
Mae nodau'r gronfa fel a ganlyn:
cefnogi gweithgaredd dysgu o dan arweiniad Undebau Llafur mewn partneriaeth â chyflogwyr ac eraill sy'n ychwanegu gwerth amlwg at fathau eraill o ddysgu a ariennir yn gyhoeddus;
gwella sgiliau'r gweithlu;
annog mwy o bobl nad ydynt wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu yn draddodiadol i ymgymryd â gweithgareddau o'r fath;
goresgyn rhwystrau i ddysgu sy'n deillio o ffactorau strwythurol, personol, galwedigaethol neu ffactorau sy'n ymwneud â gwaith.
Drwy arloesi a gweithio'n galed ar y cyd, mae'r Undebau Llafur, darparwyr hyfforddiant a Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sicrhau bod pobl yn cael hyfforddiant na fyddai ar gael iddynt fel arall a'u bod yn cael budd o'r hyfforddiant hwnnw.
Jenny Randerson (Canol Caerdydd): O’r tri chais a ddaeth i law ar gyfer tendr y Gwasanaeth Awyr rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn 2006/07, a wnaeth yr ymgeisydd llwyddiannus gynnig y pris isaf a pha ffactorau eraill y rhoddwyd ystyriaeth iddynt wrth ddyfarnu’r tendr. (WAQ55910)
Rhoddwyd ateb ar 30 Mawrth 2010
Cafodd y tri chynnig a ddaeth i law yn ystod y cyfnod tendro gwreiddiol ar gyfer y gwasanaeth awyr eu hasesu yn erbyn gofynion y cymhorthdal ac amrywiaeth o wybodaeth am safon. Tendr Highland Airways a oedd yn cynnig y fantais economaidd orau.
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar draws cyfrifoldebau portffolio’r Gweinidog i gymryd rhan yn y digwyddiad Awr Ddaear ar 27ain Mawrth 2010. (WAQ55914) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010
Y Gweinidog dros yr Amgylched, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Menter fyd-eang WWF yw Awr Ddaear gyda'r nod o ddangos cefnogaeth pobl i weithredu er mwyn atal newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ddod ynghyd a gwneud datganiad am eu pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan ddangos i arweinwyr y byd ei bod yn bosibl cymryd camau cadarnhaol, yn enwedig ar ôl negodiadau Copenhagen y llynedd ar newid yn yr hinsawdd. Mae WWF yn ymgyrchu i gael sefydliadau, prif adeiladau a strwythurau amlwg, cymunedau ac unigolion i ddiffodd eu goleuadau am awr am 8.30 pm ar 27 Mawrth.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cymorth uniongyrchol i WWF i hyrwyddo'r digwyddiad yn eang yng Nghymru, ac i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo yn y ddwy iaith yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys llunio tri phecyn cymorth wedi'u llunio'n bwrpasol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol er mwyn eu galluogi i ymuno a chymryd rhan. Rydym wedi darparu arian sydd wedi cefnogi'r prif ddigwyddiad ar gyfer y min nos ym Mae Caerdydd, ac wedi galluogi creu deunyddiau cyhoeddusrwydd a marchnata dwyieithog, gan gynnwys cardiau post ymuno.
Byddwn yn cymryd rhan yn uniongyrchol drwy ddiffodd y goleuadau yn ein hystad ac rydym yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill ledled Cymru i wneud yr un fath.
Bydd y goleuadau'n cael eu diffodd ar adeiladau hanesyddol amlwg gan gynnwys Castell Caernarfon, Castell Coch, Abaty Tyndyrn, Castell Cydweli, a Chastell Rhuddlan ymysg eraill.
Rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cymryd rhan hyd yn hyn a'u hannog i wneud hynny. Er mwyn hyrwyddo'r ymgyrch ledled Cymru, rhoddwyd tortsh panda a gaiff ei weindio i bum ysgol o bob rhanbarth o Gymru, a byddant yn cynnal gweithgareddau'r wythnos hon gan gadw'r dortsh ynghynn yn ystod amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio i dynnu sylw'r gymuned ehangach at Awr Ddaear.
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar draws cyfrifoldebau portffolio’r Gweinidog i gymryd rhan yn y digwyddiad Awr Ddaear ar 27ain Mawrth 2010. (WAQ55917)
Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010
Menter fyd-eang WWF yw Awr Ddaear gyda'r nod o ddangos cefnogaeth pobl i weithredu er mwyn atal newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ddod ynghyd a gwneud datganiad am eu pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan ddangos i arweinwyr y byd ei bod yn bosibl cymryd camau cadarnhaol, yn enwedig ar ôl negodiadau Copenhagen y llynedd ar newid yn yr hinsawdd. Mae WWF yn ymgyrchu i gael sefydliadau, prif adeiladau a strwythurau amlwg, cymunedau ac unigolion i ddiffodd eu goleuadau am awr am 8.30 pm ar 27 Mawrth.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cymorth uniongyrchol i WWF i hyrwyddo'r digwyddiad yn eang yng Nghymru, ac i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo yn y ddwy iaith yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys llunio tri phecyn cymorth wedi'u llunio'n bwrpasol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol er mwyn eu galluogi i ymuno a chymryd rhan. Rydym wedi darparu arian sydd wedi cefnogi'r prif ddigwyddiad ar gyfer y min nos ym Mae Caerdydd, ac wedi galluogi creu deunyddiau cyhoeddusrwydd a marchnata dwyieithog, gan gynnwys cardiau post ymuno.
Byddwn yn cymryd rhan yn uniongyrchol drwy ddiffodd y goleuadau yn ein hystad ac rydym yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill ledled Cymru i wneud yr un fath.
Bydd y goleuadau'n cael eu diffodd ar adeiladau hanesyddol amlwg gan gynnwys Castell Caernarfon, Castell Coch, Abaty Tyndyrn, Castell Cydweli, a Chastell Rhuddlan ymysg eraill.
Rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cymryd rhan hyd yn hyn a'u hannog i wneud hynny. Er mwyn hyrwyddo'r ymgyrch ledled Cymru, rhoddwyd tortsh panda a gaiff ei weindio i bum ysgol o bob rhanbarth o Gymru, a byddant yn cynnal gweithgareddau'r wythnos hon gan gadw'r dortsh ynghynn yn ystod amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio i dynnu sylw'r gymuned ehangach at Awr Ddaear.
Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu’r newyddion diweddaraf am symudiadau tuag at sefydlu Tribiwnlys Cyflafareddu Trigolion Cartrefi mewn Parciau. (WAQ55751) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio
Rhoddwyd ateb ar 26 Mai 2010
Y Dirprwy Weinidog dros Dai ac Adfywio (Jocelyn Davies): Mae fy swyddogion wrthi’n gweithio ar Offerynnau Statudol a fydd yn trosglwyddo’r broses o ddatrys anghydfodau o’r llys sirol i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl. Rhagwelwyd yn wreiddiol y byddai’r ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, yn ddiweddar rwyf wedi penderfynu y byddai o fwy o fudd i Gymru lunio deddfwriaeth ar wahân ar gyfer ein Tribiwnlys Eiddo Preswyl ein hunain a fyddai hefyd yn ein galluogi i amrywio’r ddeddfwriaeth yn y dyfodol i ddiwallu anghenion polisïau cartrefi parc yng Nghymru. Bydd trosglwyddo’r broses o ddatrys anghydfodau o’r llysoedd sirol i’r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yn gwneud y broses yn llai llafurus a disgwylir y bydd mwy o bobl yn dilyn y llwybr hwn yn hytrach na mynd drwy’r llysoedd.
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Brian Gibbons (Aberafan): Fesul Ymddiriedolaeth GIG, beth oedd y gwariant ar nyrsys asiantaeth a banc yng Nghymru dros y tair blynedd ariannol diweddaf yr adroddwyd arnynt. (WAQ55906)
Rhoddwyd ateb ar 30 Mawrth 2010
Nid yw Llywodraeth y Cynulliad yn casglu gwybodaeth am wariant ar nyrsys banc. Mae gwariant pob un o Ymddiriedolaethau'r GIG ar nyrsys asiantaeth dros y tair blynedd ariannol diwethaf a gofnodwyd fel a ganlyn.
£000s
Ymddiriedolaeth y GIG |
2006-07 |
2007-08 |
Abertawe |
224 |
324 |
Bro Morgannwg |
1,317 |
1,234 |
Caerdydd a’r Fro |
7,977 |
8,219 |
Ceredigion a Chanolbarth Cymru |
48 |
107 |
Conwy a Sir Ddinbych |
1,025 |
1,327 |
Felindre |
357 |
184 |
Gofal Iechyd Gwent |
452 |
572 |
Gogledd Ddwyrain Cymru |
741 |
445 |
Gogledd Morgannwg |
576 |
652 |
Gogledd Orllewin Cymru |
3,740 |
4,084 |
Pontypridd a Rhondda |
497 |
870 |
Sir Benfro a Derwen |
811 |
867 |
Sir Gaerfyrddin |
562 |
295 |
Cyfanswm |
18,327 |
19,180 |
Ffynhonnell: Ffurflenni Ariannol Ymddiriedolaethau’r GIG
£000s
Ymddiriedolaeth y GIG |
2008-09 |
Caerdydd a’r Fro |
9,599 |
Cwm Taf |
1,416 |
Felindre |
142 |
Gofal Iechyd Gwent |
2,317 |
Gogledd Cymru |
2,101 |
Gogledd Orllewin Cymru |
4,510 |
Hywel Dda |
964 |
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg |
1,888 |
Cyfanswm |
22,937 |
Ffynhonnell: Ffurflenni Ariannol Ymddiriedolaethau’r GIG
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar draws cyfrifoldebau portffolio’r Gweinidog i gymryd rhan yn y digwyddiad Awr Ddaear ar 27ain Mawrth 2010. (WAQ55915)Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Menter fyd-eang WWF yw Awr Ddaear gyda'r nod o ddangos cefnogaeth pobl i weithredu er mwyn atal newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ddod ynghyd a gwneud datganiad am eu pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan ddangos i arweinwyr y byd ei bod yn bosibl cymryd camau cadarnhaol, yn enwedig ar ôl negodiadau Copenhagen y llynedd ar newid yn yr hinsawdd. Mae WWF yn ymgyrchu i gael sefydliadau, prif adeiladau a strwythurau amlwg, cymunedau ac unigolion i ddiffodd eu goleuadau am awr am 8.30 pm ar 27 Mawrth.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cymorth uniongyrchol i WWF i hyrwyddo'r digwyddiad yn eang yng Nghymru, ac i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo yn y ddwy iaith yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys llunio tri phecyn cymorth wedi'u llunio'n bwrpasol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol er mwyn eu galluogi i ymuno a chymryd rhan. Rydym wedi darparu arian sydd wedi cefnogi'r prif ddigwyddiad ar gyfer y min nos ym Mae Caerdydd, ac wedi galluogi creu deunyddiau cyhoeddusrwydd a marchnata dwyieithog, gan gynnwys cardiau post ymuno.
Byddwn yn cymryd rhan yn uniongyrchol drwy ddiffodd y goleuadau yn ein hystad ac rydym yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill ledled Cymru i wneud yr un fath.
Bydd y goleuadau'n cael eu diffodd ar adeiladau hanesyddol amlwg gan gynnwys Castell Caernarfon, Castell Coch, Abaty Tyndyrn, Castell Cydweli, a Chastell Rhuddlan ymysg eraill.
Rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cymryd rhan hyd yn hyn a'u hannog i wneud hynny. Er mwyn hyrwyddo'r ymgyrch ledled Cymru, rhoddwyd tortsh panda a gaiff ei weindio i bum ysgol o bob rhanbarth o Gymru, a byddant yn cynnal gweithgareddau'r wythnos hon gan gadw'r dortsh ynghynn yn ystod amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio i dynnu sylw'r gymuned ehangach at Awr Ddaear.
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr ymchwil i glefydau prin. (WAQ55919)
Rhoddwyd ateb ar 30 Mawrth 2010
Mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwaith ymchwil i glefydau prin ac maent yn cefnogi gwaith ymchwil yn y maes fel a ganlyn:
• buddsoddiad parhaus ym Mharc Geneteg Cymru;
• cynnig cyfleoedd ariannu i ymchwilwyr yng Nghymru, drwy gynlluniau ariannu ymatebol, agored a chystadleuol, y mae ymchwilwyr sy'n diddori mewn clefydau prin yn gymwys i wneud cais amdanynt;
• ariannu seilwaith ymchwil clinigol Cymru gyfan, sy'n cynnal nifer fawr o dreialon clinigol mewn amrywiaeth eang o feysydd yn ymwneud â chlefydau.
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drin clefydau prin. (WAQ55920)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth ar gyfer gwasanaethau integredig ym maes clefydau prin. (WAQ55921)
Rhoddwyd ateb ar 30 Mawrth 2010
Mewn cydweithrediad â'r tair Adran Iechyd arall yn y DU, caiff asesiad o'r dull o ymdrin â chlefydau prin ei gynnal gan swyddogion yn unol ag Argymhellion yr UE. Mae hyn yn cynnwys archwilio strategaethau, diffiniadau o glefydau a chodau cyfredol, y defnydd o gronfeydd data a rhwydweithiau cyfeirio ar gyfer clefydau prin unigol.
O 1 Ebrill 2010, y Pwyllgor newydd ar Wasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n gweithio ar ran y saith Bwrdd Iechyd Lleol ac ar y cyd â hwy, a fydd yn gyfrifol am gynllunio pob gwasanaeth arbenigol yn genedlaethol, gan gynnwys clefydau prin. Bydd hefyd yn gyfrifol am ariannu triniaethau ar gyfer clefydau prin yng Nghymru a chleifion o Gymru sy'n cael eu trin mewn canolfannau arbenigol penodol eraill.
Bydd y rhaglenni trin yn cynnwys cyffuriau a gymeradwywyd gan NICE a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan ac a gefnogwyd gennyf yn sgîl hynny.
Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn adolygu strategaethau a pholisïau clinigol gan gynnwys rheoli anhwylderau metabolig, haemoffilia, trawsblannu mêr esgyrn a gwaed, ffibrosis systig a phwysedd gwaed uchel pwlmonaidd.
Bydd y Cydbwyllgor yn sicrhau y caiff gofal ei integreiddio drwy bolisïau penodol, meini prawf clinigol mesuradwy a gwrthrychol y cytunwyd arnynt, a llwybrau pendant i atgyfeirio cleifion at wasanaethau arbenigol.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa amcangyfrif y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o’r cyfanswm gwariant terfynol ar ffliw moch yn y flwyddyn ariannol 2009/10. (WAQ55749)
Rhoddwyd ateb ar 30 Mawrth 2010
Wrth reoli'r pandemig Ffliw Moch yng Nghymru yn ystod 2009-10 aed i wariant o tua £35 miliwn yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf.
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ei wario hyd yn hyn ar ffliw moch ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o sut y cafodd yr arian hwnnw ei wario. (WAQ55750)
Rhoddwyd ateb ar 30 Mawrth 2010
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn dangos bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario tua £35 miliwn wrth reoli'r pandemig Ffliw Moch yng Nghymru. Dangosir y prif eitemau gwariant yn y tabl isod. Nid yw hyn yn cynnwys costau gweinyddol yr aed iddynt gan staff Llywodraeth y Cynulliad.
Gwariant Ffliw Moch 2009-10 |
Byrddau Iechyd - Cynllunio ac Ymateb |
Brechlynnau |
Costau Meddygon Teulu a Fferyllfeydd |
Cyfathrebu |
Offer e.e., peiriannau anadlu ac anadlyddion |
Defnyddiau traul e.e., mygydau wyneb a chyffuriau gwrthfeirysol |
Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar draws cyfrifoldebau portffolio’r Gweinidog i gymryd rhan yn y digwyddiad Awr Ddaear ar 27ain Mawrth 2010. (WAQ55918) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Menter fyd-eang WWF yw Awr Ddaear gyda'r nod o ddangos cefnogaeth pobl i weithredu er mwyn atal newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ddod ynghyd a gwneud datganiad am eu pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan ddangos i arweinwyr y byd ei bod yn bosibl cymryd camau cadarnhaol, yn enwedig ar ôl negodiadau Copenhagen y llynedd ar newid yn yr hinsawdd. Mae WWF yn ymgyrchu i gael sefydliadau, prif adeiladau a strwythurau amlwg, cymunedau ac unigolion i ddiffodd eu goleuadau am awr am 8.30 pm ar 27 Mawrth.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cymorth uniongyrchol i WWF i hyrwyddo'r digwyddiad yn eang yng Nghymru, ac i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo yn y ddwy iaith yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys llunio tri phecyn cymorth wedi'u llunio'n bwrpasol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol er mwyn eu galluogi i ymuno a chymryd rhan. Rydym wedi darparu arian sydd wedi cefnogi'r prif ddigwyddiad ar gyfer y min nos ym Mae Caerdydd, ac wedi galluogi creu deunyddiau cyhoeddusrwydd a marchnata dwyieithog, gan gynnwys cardiau post ymuno.
Byddwn yn cymryd rhan yn uniongyrchol drwy ddiffodd y goleuadau yn ein hystad ac rydym yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill ledled Cymru i wneud yr un fath.
Bydd y goleuadau'n cael eu diffodd ar adeiladau hanesyddol amlwg gan gynnwys Castell Caernarfon, Castell Coch, Abaty Tyndyrn, Castell Cydweli, a Chastell Rhuddlan ymysg eraill.
Rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cymryd rhan hyd yn hyn a'u hannog i wneud hynny. Er mwyn hyrwyddo'r ymgyrch ledled Cymru, rhoddwyd tortsh panda a gaiff ei weindio i bum ysgol o bob rhanbarth o Gymru, a byddant yn cynnal gweithgareddau'r wythnos hon gan gadw'r dortsh ynghynn yn ystod amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio i dynnu sylw'r gymuned ehangach at Awr Ddaear.
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar draws cyfrifoldebau portffolio’r Gweinidog i gymryd rhan yn y digwyddiad Awr Ddaear ar 27ain Mawrth 2010. (WAQ55913) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Rhoddwyd ateb ar 19 Ebrill 2010
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Menter fyd-eang WWF yw Awr Ddaear gyda'r nod o ddangos cefnogaeth pobl i weithredu er mwyn atal newid peryglus yn yr hinsawdd. Mae'r ymgyrch yn gofyn i bobl ddod ynghyd a gwneud datganiad am eu pryderon ynghylch newid yn yr hinsawdd, gan ddangos i arweinwyr y byd ei bod yn bosibl cymryd camau cadarnhaol, yn enwedig ar ôl negodiadau Copenhagen y llynedd ar newid yn yr hinsawdd. Mae WWF yn ymgyrchu i gael sefydliadau, prif adeiladau a strwythurau amlwg, cymunedau ac unigolion i ddiffodd eu goleuadau am awr am 8.30 pm ar 27 Mawrth.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi rhoi cymorth uniongyrchol i WWF i hyrwyddo'r digwyddiad yn eang yng Nghymru, ac i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hyrwyddo yn y ddwy iaith yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys llunio tri phecyn cymorth wedi'u llunio'n bwrpasol ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol er mwyn eu galluogi i ymuno a chymryd rhan. Rydym wedi darparu arian sydd wedi cefnogi'r prif ddigwyddiad ar gyfer y min nos ym Mae Caerdydd, ac wedi galluogi creu deunyddiau cyhoeddusrwydd a marchnata dwyieithog, gan gynnwys cardiau post ymuno.
Byddwn yn cymryd rhan yn uniongyrchol drwy ddiffodd y goleuadau yn ein hystad ac rydym yn annog cyrff sector cyhoeddus eraill ledled Cymru i wneud yr un fath.
Bydd y goleuadau'n cael eu diffodd ar adeiladau hanesyddol amlwg gan gynnwys Castell Caernarfon, Castell Coch, Abaty Tyndyrn, Castell Cydweli, a Chastell Rhuddlan ymysg eraill.
Rydym wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol yng Nghymru nad ydynt yn bwriadu cymryd rhan hyd yn hyn a'u hannog i wneud hynny. Er mwyn hyrwyddo'r ymgyrch ledled Cymru, rhoddwyd tortsh panda a gaiff ei weindio i bum ysgol o bob rhanbarth o Gymru, a byddant yn cynnal gweithgareddau'r wythnos hon gan gadw'r dortsh ynghynn yn ystod amrywiaeth o weithgareddau wedi'u cynllunio i dynnu sylw'r gymuned ehangach at Awr Ddaear.
Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol
Michael German (Dwyrain De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd ar draws cyfrifoldebau portffolio’r Gweinidog i gymryd rhan yn y digwyddiad Awr Ddaear ar 27ain Mawrth 2010. (WAQ55916) Trosglwyddwyd i’w ateb gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai