23/06/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Mehefin 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Mehefin 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Darren Millar (Clwyd West): Ac ystyried y bydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru swyddfeydd newydd yng Nghyffordd Llandudno, pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth y Cynulliad o ran dyfodol ei swyddfeydd ar Ffordd Dinerth ym Mae Colwyn? (WAQ54381)

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Pan fydd swyddfa newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghyffordd Llandudno yn agor, y disgwyl yw na fydd angen swyddfa Ffordd Dinerth, Bae Colwyn. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio ar strategaethau gwaredu posibl ar gyfer safle Ffordd Dinerth a bydd unrhyw strategaeth a fabwysiadir yn cydymffurfio’n llawn â’r holl weithdrefnau a rheolau perthnasol sy’n ymwneud â gwaredu asedau diangen y Llywodraeth.

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brecon and Radnorshire): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i gynyddu presenoldeb staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Tsieina, yn yr India neu mewn economïau eraill sy’n datblygu? (WAQ54349)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Yn Tsieina, mae fy swyddogion yn ystyried recriwtio siaradwr Mandarin i gymryd lle Pennaeth Swyddfa Tsieina. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i recriwtio staff ychwanegol yn India.

Kirsty Williams (Brecon and Radnorshire):Pa fesuriadau penodol mae’r Gweinidog yn eu defnyddio i fesur llwyddiant swyddfeydd tramor Llywodraeth Cynulliad Cymru? (WAQ54351)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Rwy’n sicrhau bod fy swyddogion yn cadw rheolaeth gadarn o fuddiannau ym maes datblygu economaidd, o ran mewnfuddsoddiad a masnach, a ddaw yn sgîl swyddfeydd tramor sydd ym meddiant staff Busnes Rhyngwladol Cymru. Mae’r mesurau yn cynnwys swyddi a grëir gan fewnfuddsoddiad, ansawdd y swyddi hynny a gwerth y fasnach a gefnogir.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Am sawl blynedd mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhagweld y bydd ganddi swyddfa ym mhob un o’r gwledydd lle mae ganddi bresenoldeb ar hyn o bryd? (WAQ54352)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Byddaf yn cynnal presenoldeb datblygu economaidd mewn marchnadoedd dramor cyn belled â’u bod yn parhau i gyflawni ar gyfer Cymru.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i leihau presenoldeb staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn yr Unol Daleithiau? (WAQ54353)

Y Dirprwy Brif Weinidog: Na.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch (a) sawl damwain cerbyd modur (damweiniau difrifol a mân ddamweiniau), yn cynnwys y rheini a oedd yn ymwneud â cherddwyr, a fu yng nghyffiniau Ysgol Syr John Rhys Ponterwyd (1km y naill ffordd a’r llall o’r ysgol) er 2000 a (b) sawl un o’r rhain a oedd yn cynnwys plant? (WAQ54374)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch (a) sawl damwain cerbyd modur (damweiniau difrifol a mân ddamweiniau), yn cynnwys y rheini a oedd yn ymwneud â cherddwyr, a fu yng nghyffiniau Ysgol Mynach (1km y naill ffordd a’r llall o’r ysgol) er 2000 a (b) sawl un o’r rhain a oedd yn cynnwys plant? (WAQ54375)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch (a) sawl damwain cerbyd modur (damweiniau difrifol a mân ddamweiniau), yn cynnwys y rheini a oedd yn ymwneud â cherddwyr, a fu yng nghyffiniau Ysgol Capel Bangor (1km y naill ffordd a’r llall o’r ysgol) er 2000 a (b) sawl un o’r rhain a oedd yn cynnwys plant? (WAQ54376)

Y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth (Ieuan Wyn Jones): Mae’r tabl isod yn dangos nifer yr anafiadau mewn damweiniau ffyrdd i blant (15 oed ac iau) ac oedolion (16 oed a hŷn) yn ôl difrifoldeb yr anafiadau. Mae’n dangos yr holl anafiadau a ddigwyddodd mewn sgwâr sy’n ymestyn 1km i’r gogledd, de, dwyrain a’r gorllewin o bob ysgol.

Anafiadau ar y ffyrdd(1) o fewn 1km (2) i ysgolion penodol yng Ngheredigion: Plant(3) ac oedolion(4): 2000 i 2007

Nifer yr Anafiadau

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Mehefin 2009
   

2000

2001

2002

2003

2004

2005

2006

2007

Cyfanswm

2000 i 2007

Ysgol Syr John Rhys(5)

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Mehefin 2009

Plant

a Laddwyd

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Anafiadau difrifol

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Mân anafiadau

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Oedolion

a Laddwyd

0

0

0

0

3

0

0

0

3

 

Anafiadau difrifol

5

0

0

0

1

0

3

0

9

 

Mân anafiadau

0

5

4

5

0

6

1

3

24

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm yr Anafiadau

5

5

4

5

4

6

4

3

36

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgol Gynradd Mynach(6)

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Mehefin 2009

Plant

a Laddwyd

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Anafiadau difrifol

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Mân anafiadau

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Oedolion

a Laddwyd

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Anafiadau difrifol

0

0

3

0

0

0

0

0

3

 

Mân anafiadau

0

0

0

0

2

1

0

2

5

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm yr Anafiadau

0

0

3

0

2

1

0

2

8

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ysgol Gynradd Penllwyn(7)

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 23 Mehefin 2009

Plant

a Laddwyd

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Anafiadau difrifol

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Mân anafiadau

0

0

1

0

0

0

2

1

4

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Oedolion

a Laddwyd

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Anafiadau difrifol

0

0

0

0

0

0

0

0

0

 

Mân anafiadau

1

1

1

2

0

0

1

3

9

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm yr Anafiadau

1

1

2

2

0

0

3

4

13

 
                     

Ffynhonnell: Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Nodiadau

1. Cymerir data am ddamweiniau ac anafiadau ar y ffyrdd o ffurflenni anafiadau personol mewn damweiniau ar y ffyrdd Stats19 gan yr heddlu.

2. Yr holl anafiadau a ddigwyddodd mewn sgwâr sy’n ymestyn 1km i’r gogledd a’r de, ac 1km i’r dwyrain a’r gorllewin o’r ysgol honno.

3. 0-15 oed.

4. 16 oed a hŷn.

5. Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd, Aberystwyth, SY23 3JX.

6. Ysgol Gynradd Mynach, Pontarfynach, Aberystwyth, SY23 4QZ.

7. Ysgol Gynradd Penllwyn, Capel Bangor, Aberystwyth, SY23 3LP.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Cyngor Ysgolion y Byd a pha gefnogaeth y gall Llywodraeth Cynulliad Cymru ei chynnig i ddisgyblion ac ysgolion sy’n cymryd rhan yn y cynllun? (WAQ54367)

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau (Jane Hutt): Rwyf yn cymeradwyo menter disgyblion yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt i sefydlu a rhedeg Cyngor Ysgol y Byd—sefydliad o dan arweiniad pobl ifanc sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ifanc drafod a gweithredu ar faterion sy’n effeithio arnynt yn fyd-eang. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi’r fenter hon drwy godi ymwybyddiaeth a rhwydweithiau.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion ynghylch (a) pa mor aml y gwneir Archwiliadau Iechyd a Diogelwch mewn ysgolion bach yng Nghymru a (b) sut mae’r awdurdod lleol cyfrifol yn cyhoeddi’r wybodaeth hon? (WAQ54372)

Jane Hutt: Fel arfer, mae ysgolion yn cynnal arolygiadau ffisegol o’u hamgylcheddau yn rheolaidd ac yn dibynnu ar faint y safle, nifer y disgyblion, a graddau’r risg, gellir cynnal y rhain yn ddyddiol neu’n wythnosol ond rhaid eu cynnal o leiaf unwaith y tymor.

Caiff arolygiadau arbenigol (e.e. diogelwch nwy) a phrofion statudol (e.e. lifftiau) eu rhoi ar gontract gan yr Awdurdod Lleol ar ran yr ysgol.

Mae Awdurdodau Lleol yn ymgymryd â rhaglen dreigl o arolygiadau ac archwiliadau wedi’u cynllunio, ac mae eu hamlder yn dibynnu ar faint yr awdurdod, yn ogystal â nifer a maint yr adeiladau yr ymwelir â hwy.

Lle y bo’n briodol, mae Awdurdodau Lleol yn ymgymryd ag ymweliadau ad-hoc hefyd, ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt o gyngor arbenigol a chanllawiau i ysgolion.

Ni chaiff gwybodaeth o arolygiadau ysgolion ei chyhoeddi. Cyflwynir Adroddiadau Arolygu neu Archwilio gan yr Awdurdod Lleol i’r Pennaeth, y Bwrdd Llywodraethu a’r Cyfarwyddwyr Addysg yn unig.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriadu cyflawni argymhellion penodol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn? (WAQ54385)

Jane Hutt: Derbyniwyd Arsylwadau Casgliadol Pwyllgor Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC) ym mis Hydref 2008 ar ôl 2il adolygiad o gynnydd y DU a rhoddir ystyriaeth lawn iddynt. Ers y Gynhadledd 'Gwneud Pethau’n Iawn’ ym mis Mawrth 2009 yng Nghaerdydd, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys plant a phobl ifanc, i flaenoriaethu camau gweithredu Cymru ar yr Arsylwadau Casgliadol, a fydd—ar y cyd â’n blaenoriaethau presennol i Gymru - yn sail i gynllun gweithredu pum mlynedd i Gymru. Bydd hyn yn llunio rhan o gynllun gweithredu ehangach ar gyfer y DU, a chaiff y ddau eu lansio tua diwedd 2009. Rwy’n hyderus y bydd y dull hwn o weithredu yn arwain at gynnydd sylweddol yn ystod oes y Cynllun tuag at weithredu UNCRC yn llawn i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

Mae hwn yn faes polisi trawsbynciol ar draws pob portffolio gweinidogol ac mae gweithredu UNCRC yn gofyn am gamau gweithredu gan ystod eang o sefydliadau ac asiantaethau partner ledled Cymru, yn ogystal â Llywodraeth Cynulliad Cymru ei hun. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn yr Is-adran Strategaeth Plant a Phobl Ifanc yn gweithio i nodi a chytuno ar gyfrifoldebau arweiniol ar gyfer cymryd camau gweithredu yn unol â’r cynllun ac maent yn bwriadu gweithio ar draws Llywodraeth Cynulliad Cymru a’n partneriaid a’n rhanddeiliaid i nodi’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddatblygu’r camau gweithredu hyn.

Mae swyddogion Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi bod yn cydweithio’n agos â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill hefyd (Gogledd Iwerddon a’r Alban). Rydym yn cydweithio i nodi meysydd cyffredin ar gyfer gweithredu, fel mesurau gweithredu cyffredinol, meysydd nad ydynt wedi’u datganoli a chynllun gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer y DU.

Fel Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, roedd yn bleser gennyf gael gwahoddiad i gynnal cyfarfod cyntaf Gweinidogion y Pedair Gwlad dros Blant a Phobl Ifanc yng Nghaerdydd y mis hwn. Mae’r cyfarfodydd hyn yn gam cadarnhaol ac maent yn rhoi cyfle pellach i gefnogi cynnydd cyflymach tuag at weithredu’r confensiwn ar draws y DU.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth i sicrhau’r canlyniadau mwyaf cadarnhaol posibl i blant a phobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU.

O fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda phrif swyddogion polisi o adrannau eraill ac maent wedi cyfrannu at nifer o bolisïau a arweinir gan adrannau eraill Llywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn sicrhau y rhoddir neges gyson am ddull unigryw Cymru o lunio polisïau sy’n seiliedig ar hawliau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei chyfrifoldebau o ran labelu bwyd? (WAQ54384)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Mae fy nghylch gwaith yn cynnwys marchnata a datblygu bwyd drwy’r gadwyn gyflenwi. Credaf fod labelu yn ffordd bwysig o farchnata cynhyrchion o Gymru i ddefnyddwyr yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan eu bod yn dewis bwyd yn ôl pris a blas, yn ogystal â’i darddiad a’i werth o ran bwyta’n iach.

Llywodraethir y broses o labelu cynhyrchion bwyd-amaeth gan reoliadau ac offerynnau statudol Ewropeaidd cymhleth. Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn ceisio symleiddio ac egluro rheoliadau ar hyn o bryd. Erys y prif gyfrifoldeb am labelu bwyd gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd, ac mae fy swyddogion yn gweithio’n gynyddol agos gyda’r Asiantaeth er mwyn sicrhau y caiff buddiannau’r diwydiant yng Nghymru eu cynrychioli’n llawn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dal i gymryd rhan lawn yn yr adolygiad presennol o reoliadau ansawdd a labelu cynnyrch yr UE ac mae wedi gweithio’n agos gyda gweinyddiaethau eraill y DU i roi ymateb y DU i Bapur Gwyrdd y Comisiwn. Mae’r rheolau cymorth gwladwriaethol ar labelu yn gymhleth hefyd ac maent yn cyfyngu ar gefnogaeth lywodraethol i frandio cenedlaethol.

Ceir ystod eang o ganllawiau am labelu gwirfoddol ar gyfer y diwydiant sy’n adeiladu ar y rheoliadau a’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael am agweddau eraill ar faeth, a chaiff y canllawiau hyn eu diweddaru’n rheolaidd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Caiff brandiau, sy’n gwneud cynnyrch yn haws ei adnabod, a mentrau i ddatblygu enwau bwydydd a ddiogelir, cynlluniau ansawdd wedi’u hardystio a dulliau o wella’r gallu i olrhain, eu defnyddio i farchnata cynnyrch a chynhyrchion bwyd. Ychydig o ddiddordeb sydd gan gynhyrchwyr mewn Enwau Bwydydd a Ddiogelir (PFNau), er y cynhaliwyd trafodaethau rhwng swyddogion a chynrychiolwyr pysgota i bennu PFNau posibl ar gyfer pysgod a physgod cregyn yng Nghymru; caiff Seidr Cymreig a Pherai Cymreig eu datblygu ar hyn o bryd fel Dangosyddion Daearyddol wedi’u Diogelu, un o’r PFNau. Mae gennym statws Dangosyddion Daearyddol wedi’u Diogelu ar gyfer Cig Oen Cymreig a Chig Eidion Cymreig, sy’n llwyddiannus wrth farchnata’r gorau o gynhyrchion Cymru. Mae brand Gwir Flas Cymru wedi bod yn gadarnhaol ac mae’r gwobrau amlwg yn parhau i dynnu sylw cadarnhaol at y bwyd a diod gorau sydd ar gael yng Nghymru.

Mae materion amrywiol yn codi yn sgîl labelu a bydd yn bwysig, wrth gyflwyno unrhyw newidiadau i’r labeli ar ein bwydydd, ein bod yn ystyried anghenion busnesau a defnyddwyr fel ei gilydd. Efallai na fydd pob cynhyrchydd yn gweld bod labelu tarddiad bwyd yn ddefnyddiol ac efallai y bydd yn anodd talu’r costau cysylltiedig, ac mae angen cydbwyso hyn â’r galw gan ddefnyddwyr sydd angen gwybodaeth glir i lywio eu dewisiadau o ran bwyd a diod. Mewn uwchgynhadledd a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghaeredin gyda chydweithwyr Gweinidogol o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, cytunwyd y byddai’r pedair gweinyddiaeth yn rhannu’r wybodaeth a’r gwaith ymchwil sydd gennym lle y bo’n briodol, er mwyn llywio’r ffordd ymlaen.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio ar draws Adrannau i gydnabod pwysigrwydd labelu, gan gysylltu ag agenda iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru a mentrau ategol fel Cynllun Gweithredu Blas am Oes a’r Strategaeth Ansawdd Bwyd. Yn gysylltiedig â materion sy’n ymwneud â tharddiad bwyd, yn ddiweddar rwyf wedi lansio Cynllun Gweithredu Cyrchu Lleol i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu a hyrwyddo bwyd a diod Cymreig. Yn ddiweddar ailbenodais Bartneriaeth Cynghori ar Fwyd a Diod Cymru a fydd yn datblygu strategaeth newydd ar gyfer bwyd a diod o Gymru ac yn ystyried materion labelu bwyd gan gynnwys labelu. Disgwylir i’r strategaeth ddrafft fod yn barod erbyn diwedd y flwyddyn.