23/10/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 16 Hydref 2013 i’w hateb ar 23 Hydref 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): At bwy y mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu atynt yn Llywodraeth y DU ac yn ngweinyddiaethau Gogledd Iwerddon a'r Alban ynglyn ag ardrethi busnes a monitro gwerthiant nwyddau newydd mewn siopau elusen? (WAQ65684)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i ysgogi galw a phennu targedau newydd ar gyfer nifer y rhai sy'n manteisio ar wasanaeth newydd Cyflymu Cymru? (WAQ65687)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Mewn perthynas â gwasanaethau band eang cyflym iawn, pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu o brofiad Cernyw lle maent wedi bod yn buddsoddi mewn strategaeth i fanteisio ar fand eang? (WAQ65688)

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf pryd y bydd yn cyhoeddi canllawiau manylach ar bolisi Arwyddion Brown Twristiaeth y Llywodraeth? (WAQ65689)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Mewn perthynas â chynllun Allwedd Band Eang Cymru, sut y gwnaethoch chi a'ch swyddogion asesu a phennu'r meini prawf sydd bellach yn cael ei ddefnyddio i alluogi pobl yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth hwn? (WAQ65690)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Mewn perthynas â Cyflymu Cymru, a yw cyflwyniad masnachol BT flwyddyn ers lansio'r rhaglen (a) ar y lefel y dangosodd i Lywodraeth Cymru yn y contract dynodedig a (b) ar y lefel a nodwyd gan y cwmni hwnnw cyn llofnodi'r contract? (WAQ65691)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Croeso Cymru ac Archwilio Canolbarth Cymru ynglyn â phwysigrwydd toiledau cyhoeddus ar lwybrau twristiaid drwy ganolbarth Cymru a mynediad agored iddynt? (WAQ65692)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog nodi a yw cyllid Twf Swyddi Cymru yn cael ei ryddhau wrth greu cyfleoedd swyddi neu ar gyflawni cyfle am swydd? (WAQ65678)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Oherwydd bod yr adroddiad gan weithgor sy'n ystyried Adroddiad Murrison wedi cael ei oedi ers mis Mai 2013, a all y Gweinidog gadarnhau bod adroddiad o'r fath wedi'i dderbyn erbyn y dyddiad cau diwygiedig, estynedig o fis Medi 2013? (WAQ65679)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau bod swyddogion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bellach yn coladu gwybodaeth sy’n nodi cleifion sy'n gyn-filwyr? (WAQ65680)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau bod gwasanaethau prosthetig brys bellach ar gael yn llawn ac yn weithredol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? (WAQ65681)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r anawsterau triniaeth a wynebir gan gleifion sydd ag aelodau prosthetig, neu y mae angen aelodau prosthetig arnynt, yn rhanbarth Gogledd Cymru? (WAQ65682)

Aled Roberts (Gogledd Cymru): Sut y mae'r Gweinidog yn monitro safon darpariaeth y gwasanaeth i gleifion sydd ag aelodau prosthetig, neu y mae angen aelodau prosthetig arnynt? (WAQ65683)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod beth yw cyfanswm y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd a gynhelir ar hyn o bryd gan y 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru? (WAQ65685)

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog roi gwybod beth yw cyfanswm y cronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu a gynhelir ar hyn o bryd gan y 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru? (WAQ65686)