Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Chwefror 2015 i'w hateb ar 24 Chwefror 2015
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.
Gofyn i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pa gyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i gorfforaeth datblygu Blaenau'r Cymoedd drwy gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru? (WAQ68388)
Derbyniwyd ateb ar 24 Chwefror 2015
Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (Jane Hutt): The Welsh Government has not provided additional funding to sponsored bodies for the Heads of the Valleys Development Corporation
Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gyllid ychwanegol sydd wedi cael ei sicrhau gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd wrth Weinidogion Cymru drwy ddyledeb 18 Gorffennaf 2014 nad oedd wedi'i gynnwys yn y cyllid a dalwyd i'r cwmni cyn hynny? (WAQ68389)
Derbyniwyd ateb ar 24 Chwefror 2015
Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (Edwina Hart): We have not provided any additional funding through the 18 July 2014 debenture.