24/10/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 17 Hydref 2011 i’w hateb ar 24 Hydref 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ58112, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y mae’n disgwyl sefydlu manylion gweithredu penodol pob lleoliad a gaiff eu ffafrio fwyaf ar gyfer yr Ardaloedd Menter. (WAQ58166)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog amlinellu disgwyliadau ac amodau'r comisiynwyr addysg a benodwyd i Flaenau Gwent, gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt; cylch gwaith, oriau gwaith a ddisgwylir, adnoddau h.y. swyddfeydd ac amser y staff, taliadau ariannol a buddion / gwobrau. (WAQ58167)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y polisi Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol. (WAQ58164)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Yn dilyn WAQ 58094 a WAQ 57551 ac yng nghyswllt polisi Llywodraeth Cymru i ehangu oriau agor meddygfeydd, pryd y mae’r Gweinidog yn disgwyl cyhoeddi'r costau manwl a'r amserlenni ar gyfer cyflenwi. (WAQ58168)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o fusnesau sy’n cymryd rhan yn y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus, a sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo ac yn monitro’r cynllun hwn. (WAQ58163)

Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi yn y seilwaith trafnidiaeth yng Nghwm Aman. (WAQ58165)