25/03/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Mawrth 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Mawrth 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pryd y mae’r Gweinidog yn bwriadu cyhoeddi Strategaeth Ynni gyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru? (WAQ53806)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Cynigiaf i Strategaeth Ynni gyffredinol Cymru gael ei chyhoeddi tua diwedd y flwyddyn. Roedd ymgynghoriad y Trywydd Ynni Adnewyddadwy yn gam pwysig tuag at Strategaeth Ynni gyffredinol ac ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar Gynllun Gweithredu Bio-ynni. Ystyrir yr ymatebion wrth ffurfio a datblygu’r Strategaeth Ynni gyffredinol.

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog egluro’r adran yn y MTAN Glo, ynghylch pwy sy’n penderfynu os 'yw cynnig o’r arwyddocâd pennaf ar gyfer adfywio, cyflogaeth a’r economi yn yr ardal leol.’? (WAQ53811)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu diffiniad o 'sylweddol’ yng nghyswllt y dyfyniad canlynol o’r MTAN Glo 'pan nad yw gwaith tanddaearol a welir ar y wyneb yn cynnwys delio na storio gwastraff mwynau’n sylweddol.’? (WAQ53812)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu mwy o fanylion ynghylch beth a olygir wrth 'ni fyddai gwaith glo yn arwain at effeithiau cronnus sylweddol ac ar y cyd (MTAN Glo).’? (WAQ53813)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog egluro’r hyn a olygir wrth gyfeirio at gynaliadwyedd ym Mharagraff 49 MTAN Glo, a yw hyn yn golygu adfer i gyflwr gwreiddiol? (WAQ53814)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu nifer y meini prawf a ystyrir i benderfynu a ddylid caniatáu cloddio glo brig 500m oddi wrth setliadau? (WAQ53815)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o sut y bydd y broses penderfynu’n gweithredu wrth benderfynu a yw cynnig safle glo brig 'o’r arwyddocâd pennaf ar gyfer adfywio, cyflogaeth a’r economi yn yr ardal leol.’? (WAQ53816)

Jane Davidson: Byddaf yn ymateb i’ch chwe chwestiwn gyda’i gilydd.

Datganiadau eang yw polisi cynllunio a nodiadau cyngor technegol—'ystyriaethau perthnasol’—nid dogfennau rhagnodol. Nod yr MTAN glo yw rhoi cyngor cynhwysfawr i’w ddefnyddio wrth baratoi cynlluniau datblygu a’r broses gwneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio, ond ni all roi cyngor diffiniol a phenodol ar y pwyslais a roddir ar ffactorau amrywiol ym mhob sefyllfa a allai godi.

Dylai awdurdodau cynllunio lleol ac arolygwyr cynllunio ystyried yr ystyriaethau perthnasol a amlinellir yn yr MTAN wrth wneud penderfyniad ar gais cynllunio. Er nad yw gwneuthurwyr penderfyniadau yn rhwym wrth bolisïau, dylent eu harsylwi ac ond gwyro oddi wrthynt os oes rhesymau clir dros wneud hynny.

Gall y pwyslais a roddir ar bolisïau penodol amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’n bosibl nad yw rhannau o ganllawiau sy’n ystyriaeth berthnasol mewn un achos yn ystyriaeth berthnasol mewn un arall, er bod rhai elfennau o’r canllawiau’n berthnasol i bob achos.

Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer ailgyflwyno rhywogaethau bywyd gwyllt yng Nghymru? (WAQ53818)

Jane Davidson: Llywodraeth Cynulliad Cymru, neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru ar ran Llywodraeth y Cynulliad, yw’r cyrff trwyddedu ar gyfer ailgyflwyno rhywogaethau bywyd gwyllt yng Nghymru. Nid ydym yn ystyried unrhyw gynigion penodol am hyn ar hyn o bryd.

Fodd bynnag, mae’r posibilrwydd o ailgyflwyno Eryrod Môr ac Afancod Ewro-asiaidd i Gymru yn cael ei ymchwilio gan dimau prosiect a arweinir gan Brifysgol Bangor ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ar hyn o bryd. Pan fydd canlyniadau’r astudiaethau hyn ar gael, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar y goblygiadau posibl. Agwedd allweddol ar yr ystyriaeth hon fydd sicrhau na fyddai cyflwyno rhywogaeth yn cyfaddawdu hyfywdra unrhyw rywogaeth arall. Byddai hefyd angen ystyried ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol perthnasol. Yna byddai angen trefnu ymgynghori’n llawn â phartïon â diddordeb cyn i unrhyw gynigion ar ailgyflwyno rhywogaeth gael eu datblygu.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Jeff Cuthbert (Caerffili): Faint o gyllid Cychwyn Cadarn/Cymorth a ddyrannwyd i bob awdurdod lleol er 1999? (WAQ53788)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Gweler y tablau atodedig:

Dyraniadau Cychwyn Cadarn

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Mawrth 2009
 

1999-00*

2000-01*

2001-02

2002-03

Ynys Môn

49,200

178,501

183,451

254,949

Blaenau Gwent

60,400

257,712

229,160

337,375

Pen-y-bont ar Ogwr

106,200

307,808

303,754

612,214

Caerffili

185,667

682,550

673,649

935,533

Caerdydd

260,758

961,698

1,120,364

1,885,851

Sir Gaerfyrddin

118,360

537,848

435,956

625,057

Ceredigion

30,000

141,854

136,668

197,570

Conwy

67,000

220,515

246,246

402,072

Sir Ddinbych

52,960

282,574

287,222

375,263

Sir y Fflint

113,000

448,880

658,018

578,353

Gwynedd

86,500

317,730

307,652

415,285

Merthyr Tudful

66,250

218,411

221,173

353,809

Sir Fynwy

43,800

174,103

145,614

251,092

Castell-nedd Port Talbot

124,610

436,681

496,179

700,819

Casnewydd

115,800

465,527

490,797

852,209

Sir Benfro

54,000

255,059

206,354

436,289

Powys

83,500

316,566

312,031

381,543

Rhondda Cynon Taf

207,200

661,598

655,832

1,152,105

Abertawe

218,495

716,597

742,040

1,266,355

Bro Morgannwg

105,750

382,361

319,350

592,426

Tor-faen

110,000

370,378

339,148

515,311

Wrecsam

71,500

363,136

352,409

578,521

Nghymru

2,330,950

8,698,087

8,863,067

13,700,000

* Rhwng 1999 a 2001 rhannwyd arian Cychwyn Cadarn rhwng yr awdurodau lleol a’r awdurdodau iechyd ac mae’r ffigurau a roddir ar gyfer dyraniadau’r awdurdodau lleol yn unig.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 25 Mawrth 2009

 

Dyraniadau Cymorth

         

 

2003-04**

2004-05**

2005-06**

2006-07**

2007-08**

2008-09

Ynys Môn

869,639

931,746

950,552

1,263,325

1,337,358

1,179,992

Blaenau Gwent

1,086,306

1,163,962

1,187,369

1,800,663

1,896,583

1,737,146

Pen-y-bont ar Ogwr

1,778,465

1,884,672

1,922,360

2,343,169

2,461,185

2,244,417

Caerffili

2,597,660

2,741,712

2,796,382

3,762,958

3,938,803

3,488,387

Caerdydd

5,063,894

5,324,097

5,429,937

6,513,790

6,801,676

6,311,314

Sir Gaerfyrddin

1,830,596

1,955,375

1,994,464

2,772,635

2,908,143

2,705,224

Ceredigion

727,151

773,254

788,920

1,046,588

1,111,794

1,003,913

Conwy

1,268,751

1,345,165

1,372,162

1,786,075

1,881,399

1,616,632

Sir Ddinbych

1,176,824

1,249,355

1,274,454

1,650,963

1,740,784

1,610,538

Sir y Fflint

1,688,221

1,786,956

1,822,707

2,225,430

2,338,650

2,093,417

Gwynedd

1,278,801

1,375,435

1,403,033

1,762,586

1,856,954

1,621,342

Merthyr Tudful

1,117,089

1,201,565

1,225,717

1,651,787

1,741,642

1,551,846

Sir Fynwy

856,800

914,510

932,974

1,089,983

1,156,956

1,009,697

Castell-nedd Port Talbot

2,010,448

2,123,561

2,165,982

2,781,948

2,917,835

2,591,357

Casnewydd

2,405,749

2,586,067

2,637,652

3,358,172

3,517,530

3,258,675

Sir Benfro

1,338,066

1,428,905

1,457,562

2,021,479

2,126,392

1,948,585

Powys

1,190,712

1,278,906

1,304,591

1,535,666

1,620,792

1,388,628

Rhondda Cynon Taf

3,180,473

3,365,120

3,432,143

4,838,231

5,057,871

4,687,054

Abertawe

3,483,481

3,674,781

3,747,940

4,215,193

4,409,457

4,137,711

Bro Morgannwg

1,743,176

1,847,410

1,884,360

2,003,516

2,107,697

1,882,009

Tor-faen

1,546,543

1,653,069

1,686,167

2,090,249

2,197,964

2,059,982

Wrecsam

1,696,157

1,809,377

1,845,573

2,218,594

2,331,536

2,192,790

Nghymru

39,935,002

42,415,000

43,263,001

54,733,000

57,459,001

52,320,656

**Rhwng 2003 a 2008 roedd gofyniad i fuddsoddi o leiaf 34% o bob dyraniad yn y grŵp oedran 0-3 oed. Daeth y gofyniad hwn i ben ar 1 Ebrill 2008, gan gyd-daro â throsglwyddo thema gofal plant Cymorth i’r Grant Cynnal Refeniw.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa baratoadau y mae’r Gweinidog yn eu gwneud ar gyfer gweithredu canllawiau NICE ynghylch glawcoma a gyhoeddir ddiwedd mis Ebrill 2009? (WAQ53807)

Edwina Hart: Disgwyliaf i’r GIG ystyried canllawiau clinigol NICE yn llawn, er eu bod fel arfer yn eang iawn eu natur, deallaf y gall gymryd rhywfaint o amser nes i’r canllawiau gael eu gweithredu’n llawn ledled Cymru.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa amcangyfrifon cost ar gyfer triniaeth ychwanegol y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud ar gyfer gweithredu’r canllawiau NICE ynghylch glawcoma sydd ar fin cael eu cyhoeddi? (WAQ53808)

Edwina Hart: Fel arfer, cyhoeddir canllawiau clinigol NICE gyda thempled costio sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i gyfrifo gost gweithredu’r canllawiau naill ai fesul ardal Bwrdd Iechyd Lleol unigol neu ar sail Cymru gyfan. Ystyrir y gost o weithredu canllawiau NICE wrth bennu’r dyraniad cyllidebol blynyddol ar gyfer y GIG yng Nghymru.

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog wedi’u cymryd ers cyfarfod â theuluoedd yng Nghynhadledd yr Ymgyrch Nychdod Cyhyrol fis Hydref diwethaf i sicrhau bod gwasanaeth safonol o ansawdd uchel ar gael ledled Cymru i bobl â nychdod cyhyrol a chyflyrau niwrogyhyrol cysylltiedig? (WAQ53819)

Edwina Hart: Rwy’n parhau’n ymrwymedig i sicrhau y gall pobl Cymru fanteisio ar wasanaethau arbenigol haint niwro-gyhyrol diogel a chynaliadwy o safon dda sydd wedi’u cydlynu’n dda, mor lleol â phosibl.

Mae gwasanaethau niwro-gyhyrol plant yn cael eu hystyried fel rhan o safonau Niwrowyddorau Cymru Gyfan sy’n cael eu datblygu fel rhan o’r Prosiect Gwasanaethau Arbenigol i Blant a Phobl Ifanc. Cyhoeddwyd y safonau i ymgynghori arnynt y llynedd ac mae fy swyddogion ar hyn o bryd yn terfynu’r ddogfen safonau a gaiff ei cyhoeddi’r haf hwn. Disgwyliaf i wasanaethau gael eu darparu a chyrraedd y safonau hyn.

Yn ddiweddar, gofynnais i James Steers, Cadeirydd Grŵp Adolygu Arbenigol Niwrowyddorau Cymru ailymgynnull ei grŵp o arbenigwyr i ddatblygu’r llwybrau gofal ar gyfer cyflyrau niwrolegol hirdymor, gan gynnwys cyflyrau niwro-gyhyrol fel yr argymhellwyd gan yr Adolygiad. . Bydd y llwybrau hyn yn gosod safon y gofal y gall cleifion ddisgwyl ei chael. Bydd y llwybrau yn cwmpasu gwasanaethau plant ac yn ategu’r dasg o weithredu’r safonau y cyfeiriais atynt.

O dan fy nghynlluniau ar gyfer strwythur GIG newydd, bydd saith Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) newydd yn gyfrifol am gynllunio a sicrhau gwasanaethau ar gyfer eu trigolion. Yn y dyfodol, trefnir gwasanaethau arbenigol penodol ar y cyd gan y BILlau newydd. Cyhoeddir papur ymgynghori pellach ar y mater hwnnw maes o law.

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod cleifion a chynrychiolwyr clinigol oedolion yr effeithir arnynt gan nychdod cyhyrol yn cael eu cynnwys yn y grwpiau cynllunio gweithredu ar gyfer y Gogledd a’r Canolbarth a’r De yn dilyn argymhellion yr Adolygiad Arbenigol o Wasanaethau Niwrowyddorau i Oedolion yng Nghymru y llynedd? (WAQ53820)

Edwina Hart: Gofynnais i Dr Alan Axford sefydlu grŵp i ddatblygu Cynllun Gweithredu ar gyfer elfennau De Cymru o’r argymhellion. Yn ddiweddar, cytunais ar Gadeiryddion pum ffrwd gwaith a fydd yn mynd ati i baratoi’r cynigion gweithredu manwl. Disgwyliaf i’r ffrydiau gwaith hyn geisio aelodau sy’n glinigwyr priodol a rhanddeiliaid allweddol eraill, fel y rhai sy’n cynrychioli pobl sy’n dioddef o nychdod cyhyrol, yn y dyfodol agos iawn. Bydd cyfarfodydd o’r Grwpiau yn dechrau ym mis Ebrill.

Bu Grŵp Gweithredu Niwrowyddorau Gogledd Cymru yn gweithio’n agos gyda Chynghrair Niwrolegol Cymru fel y cysylltiad â’r sector gwirfoddol. Cafodd fy Nghyfarwyddwr Rhanbarthol lythyr gan y Grŵp Nychdod Cyhyrol ac mae’n trefnu i’r Grŵp gael ei gynrychioli ar y ffrwd gwaith.   

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Faint o ffisiolegwyr clinigol sy’n ymarfer ar hyn o bryd yng Nghymru? (WAQ53822)

Edwina Hart: O 30 Medi 2008, mae 404 o ffisiolegwyr clinigol yn ymarfer yn y GIG yng Nghymru.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad sydd wedi’i wneud o’r effaith ar ddiogelwch cleifion oherwydd diffyg rheoleiddio statudol ar gyfer ffisiolegwyr clinigol? (WAQ53823)

Edwina Hart: Yn dilyn adolygiad o reoleiddio proffesiynol anfeddygol, bu gweithgor DU gyfan yn ystyried sut a phryd y dylid rheoleiddio gweithwyr iechyd proffesiynol ychwanegol. Disgwylir i’r grŵp gyflwyno ei adroddiad yn fuan a bydd yn gwneud argymhellion ar dempled i asesu pa mor briodol yw rheoleiddio grwpiau newydd yn gymesur â risg.

Irene James (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y rheini sy’n rhannol ddall yn gallu cael mynediad at eu canlyniadau profion ysbyty heb gymorth? (WAQ53824)

Edwina Hart: Cyhoeddwyd darnau amrywiol o ganllawiau i’r GIG yng Nghymru ar gynhyrchu gwybodaeth i gleifion, gan gynnwys fframwaith arfer gorau a anfonwyd yn 2002, sy’n amlygu’r angen i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n berthnasol i anghenion pobl. O gofio hyn, byddwn yn disgwyl i Ymddiriedolaethau’r GIG adolygu fformat y llythyrau a’r wybodaeth a anfonir at gleifion yn barhaus i sicrhau bod pobl yn fodlon ar yr hyn y maent yn ei gael.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Os na all awdurdod heddlu ddod i benderfyniad ynghylch gosod praesept, pwy fydd yn gwneud y penderfyniad? (WAQ53809)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mewn perthynas â phobl blwyddyn ariannol mae’n ofynnol i awdurdod heddlu wneud cyfrifiad o’i ofyniad cyllideb o dan adran 43(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Chyllid 1992. Os methodd yr awdurdod heddlu â chyfrifo gofyniad cyllideb, ni fyddai gan neb arall y grym i wneud hynny. Dim ond yr awdurdod heddlu perthnasol all gyfrifo gofyniad cyllidebol yr awdurdod heddlu.