25/03/2011 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 18 Mawrth 2011 i’w hateb ar 25 Mawrth 2011

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Sawl gwaith y bu'r Prif Weinidog a phob un o'i Weinidogion Cymru yn ymweld â Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ym mhob un o'r 4 blynedd diwethaf a beth oedd y rheswm dros bob un o'r ymweliadau hynny. (WAQ57342)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar frecwastau am ddim mewn ysgolion ym mhob blwyddyn ers cyflwyno'r cynllun. (WAQ57332)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wario ar frecwastau am ddim mewn ysgolion ym mhob un o’r tair blynedd nesaf. (WAQ57333)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog cyfanswm y cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cael ei wario gan ei adran ar seilwaith ym Mro Morgannwg, gan roi'r ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng 1af Ebrill 2005 a 31ain Mawrth 2010. (WAQ57352)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw fentrau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y gweill i ysgogi'r sector Awyrofod yng Nghymru. (WAQ57314)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw fentrau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y gweill i ysgogi'r sector Modurol yng Nghymru. (WAQ57315)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu unrhyw fentrau sydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y gweill i ysgogi'r sector Electronig yng Nghymru. (WAQ57316)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y buddiannau sydd wedi cronni o Raglen Adnewyddu'r Economi. (WAQ57317)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o staff a gyflogwyd i ddechrau dan Raglen Adnewyddu'r Economi, a faint o'r staff hyn sydd yn dal wedi'u cyflogi a beth yw eu dyletswyddau a'u cyflog. (WAQ57318)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau y mae wedi'u cymryd i annog busnesau i ddod i Gymru. (WAQ57319)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gymorth Llywodraeth Cynulliad Cymru i fusnesau Cymru dros y 4 blynedd diwethaf. (WAQ57320)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i leihau effaith y gwaith arfaethedig ar yr M4 ar gymudwyr. (WAQ57321)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa fecanweithiau a roddir ar waith i adfer arian grant gan fusnesau sydd naill ai'n dewis gadael Cymru neu sy'n cau i lawr. (WAQ57328)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl sector allweddol, faint o geisiadau am gymorth ariannol sydd wedi cael eu gwneud dan Raglen Adnewyddu'r Economi er mis Ionawr eleni. (WAQ57334)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl sector allweddol, faint o gymorth ariannol sydd wedi cael ei ddarparu i fusnesau dan Raglen Adnewyddu'r Economi er mis Ionawr eleni a beth oedd y cyfanswm a ddarparwyd. (WAQ57335)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl sector allweddol, faint o fusnesau y cynigwyd cymorth iddynt dan Raglen Adnewyddu'r Economi er mis Ionawr eleni a beth oedd y cyfanswm a gynigiwyd. (WAQ57336)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl etholaeth Cynulliad a rhanbarth etholiadol, faint o gymorth ariannol a gynigiwyd i fusnesau dan Raglen Adnewyddu'r Economi ers ei chreu. (WAQ57337)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn ôl etholaeth Cynulliad a rhanbarth etholiadol, faint o fusnesau y cynigiwyd cymorth iddynt dan Raglen Adnewyddu'r Economi ers ei chreu. (WAQ57338)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Faint o swyddi cyfwerth ag amser llawn a oedd yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ym mhob blwyddyn o'r trydydd Cynulliad a beth oedd y cyfanswm a dalwyd mewn costau staff bob blwyddyn. (WAQ57339)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Beth oedd y cyfanswm a dalwyd mewn tâl amrywiol i staff (hy bonysau/tâl sy'n seiliedig ar berfformiad ac eithrio taliadau goramser) yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ym mhob blwyddyn o'r Trydydd Cynulliad. (WAQ57340)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa drafodaethau diweddar y mae wedi'u cynnal a gyda phwy ynghylch y fferm abwydod melys yn Nhalacharn, sir Gaerfyrddin. (WA57341)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cynnal unrhyw astudiaethau dichonoldeb i ystyried posibilrwydd adeiladu ffordd osgoi o amgylch Dinas Powys, ac a wnaiff y Gweinidog gyhoeddi unrhyw ganfyddiadau o'r fath. (WAQ57350)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu cyfanswm y cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cael ei wario gan ei adran ar seilwaith ym Mro Morgannwg, gan roi'r ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng 1af Ebrill 2005 a 31ain Mawrth 2010. (WAQ57351)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A oedd adroddiad 'Life Assessment of Supermarket Carrier Bags' Asiantaeth yr Amgylchedd wedi cael ei ystyried yng nghyswllt penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflwyno ardoll ar ddefnyddio bagiau plastig gan adwerthwyr. (WAQ57312)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r holl sylwadau a wnaed gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i'r Grwp Strategaeth Rhwydweithiau Trydan ers ffurfio'r grwp ailgorfforedig yn 2008. (WAQ57326)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau bod cymunedau Cymru yn cael eu hystyried fel rhan o astudiaeth y Grwp Strategaeth Rhwydweithiau Trydan 'Our electricity Transmission Network: A Vision for 2020.’ (WAQ57343)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'u cyflwyno i ymgynghoriad y Grid Cenedlaethol ynghylch rhoi rhannau o'r rhwydwaith dan y ddaear eleni. (WAQ57344)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wneud o'r effaith bosibl ar economi Cymru a diwydiant twristiaeth Cymru yn sgil y cynlluniau sydd wedi'u datgelu yn ‘Our Electricity Transmission Network: A Vision for 2020’ y Grwp Strategaeth Rhwydweithiau Trydan. (WAQ57345)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau bod treftadaeth a harddwch naturiol Cymru yn cael eu hystyried fel rhan o ‘Our Electricity Transmission Network: A Vision for 2020’ y Grwp Strategaeth Rhwydweithiau Trydan. (WAQ57346)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad – gan roi dadansoddiad o'r costau – am sut mae arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru wedi cael ei wario. (WAQ57310)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi ymateb Llywodraeth Cynulliad Cymru i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol ar gyn-filwyr sy'n dioddef o anhwylder straen wedi trawma. (WAQ57311)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddosbarthu canfyddiadau cychwynnol y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Reoliadau Gwasanaethau Fferyllol y GIG i Aelodau'r Cynulliad er mwyn iddynt eu hystyried. (WAQ57313)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i leihau amseroedd aros Deintyddol ac Orthodontig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. (WAQ57322)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i adolygu'r broses recriwtio yn y GIG i sicrhau na chaiff staff eu rhoi dan ormod o bwysau pan fydd swyddi gwag. (WAQ57323)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Ysbyty Llwynhelyg. (WAQ57324)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau bod yr holl wasanaethau sy'n cael eu cynnig yn Ysbyty Llwynhelyg yn cael eu cadw. (WAQ57325)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth orthodontig yn sir Benfro ar hyn o bryd gan roi manylion faint o bobl sy'n aros. (WAQ57327)

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr amseroedd aros ar gyfer triniaeth orthodontig yn sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd gan roi manylion faint o bobl sy'n aros. (WAQ57329)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i wella safonau hylendid mewn adeiladau cyhoeddus, yn enwedig ysbytai, ysgolion a chartrefi gofal. (WAQ57347)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oes unrhyw gynlluniau i gyflwyno prawf ar gyfer Feirws Papiloma Dynol yn Rhaglen Sgrinio Cymru ar gyfer canser ceg y groth. (WAQ57349)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatgelu cyfanswm y cyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi cael ei wario gan ei adran ar seilwaith ym Mro Morgannwg, gan roi'r ffigurau ar gyfer y cyfnod rhwng 1af Ebrill 2005 a 31ain Mawrth 2010. (WAQ57353)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cynnydd o ran cyflenwi strategaeth darllen gwefusau cenedlaethol Cymru. (WAQ57348)

Gofyn i un o gynrychiolwyr Comisiwn y Cynulliad

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gamau a gymerodd y Comisiwn ar ôl iddo ganfod bod Plaid Cymru wedi ysgrifennu ei logo mewn graffiti ar ystâd y Cynulliad y tu allan i Dy Hywel. (WAQ57330)

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i wario ym mis Mawrth 2011 yn tynnu sloganau Plaid Cymru o'r tu allan i Dy Hywel. (WAQ57331)