Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Ionawr 2012 i’w hateb ar 26 Ionawr 2012
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
Lynne Neagle (Tor-faen): Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o nifer y staff a gyflogir gan Lywodraeth Cymru sy’n ennill llai na £7.20 yr awr. (WAQ59596) Tynnwyd yn ôl
Lynne Neagle (Tor-faen): Pryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi ei hymchwil i gyflog byw i bob gweithiwr yng Nghymru. (WAQ59603) Tynnwyd yn ôl
Lynne Neagle (Tor-faen): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cyflog byw yng Nghymru. (WAQ59604) Tynnwyd yn ôl
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno sgrinio newyddenedigol am MCADD a chryman-gell yng Nghymru. (WAQ59597)
David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad a swyddogaeth Fframweithiau Gwasanaeth Cenedlaethol yng Nghymru. (WAQ59598)
David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae dyraniad adnoddau’r GIG yn adlewyrchu anghenion economaidd-gymdeithasol ac iechyd yng Nghymru. (WAQ59599)
David Rees (Aberafan): Pa gyfarwyddyd a roddwyd i Fyrddau Iechyd Lleol i fynd i’r afael â gofynion ardaloedd sydd â lefelau uchel o salwch ac anghenion gofal iechyd. (WAQ59600)
David Rees (Aberafan): Pa ddefnydd strategol fydd y Gweinidog yn ei wneud o’r fersiwn diwethaf o’r Mynegai Amddifadedd Lluosog i fynd i’r afael ag anghenion gofal iechyd yng Nghymru. (WAQ59601)
David Rees (Aberafan): A oes gan y Gweinidog unrhyw gynlluniau i werthuso manteision symud o’r farchnad fewnol i gynllunio iechyd integredig yng Nghymru. (WAQ59602)