26/03/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Mawrth 2009 i’w hateb ar 26 Mawrth 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa Awdurdodau Lleol yng Nghymru sydd wedi cynnal archwiliad o ysgolion i sicrhau bod ganddynt gyfleusterau toiledau a golchi dwylo digonol. (WAQ53825)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gysylltu mewnol yn y GIG ar ôl ad-drefnu. (WAQ53826)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth y Cyfarwyddwr Therapïau a Gwasanaethau Gwyddonol. (WAQ53827)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y berthynas rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Asiantaeth Safonau Bwyd. (WAQ53828)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r achosion o E.coli yn 2005. (WAQ53829)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ceisio gweithredu’r holl argymhellion yn adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r achosion o E.coli yn 2005. (WAQ53830)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa adnoddau ychwanegol y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu darparu i sicrhau bod pob busnes bwyd yng Nghymru yn defnyddio’r dull gweithredu Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol er mwyn osgoi halogi bwyd. (WAQ53831)

Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella gofal newyddenedigol yng Ngwent. (WAQ53832)