Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Chwefror 2008 i’w hateb ar 27 Chwefror 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu coladu’n ganolog nifer y digwyddiadau yn ysgolion Cymru sy’n cynnwys cyllyll. (WAQ51367)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog egluro rheswm Llywodraeth y Cynulliad dros benderfynu peidio â chynyddu’r grant gweithredwyr bysiau yn unol â chynnydd mis Hydref mewn treth tanwydd. (WAQ51380)
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu coladu’n ganolog nifer yr apwyntiadau meddygon teulu a ganslwyd. (WAQ51368)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Cynulliad Cymru at gyflwyno polyclinigau yn y DU. (WAQ51369)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o unedau o weithgarwch deintyddol ac orthodontig a gomisiynwyd yng Nghymru gan y GIG drwy gwmnïau megis Denticare neu sefydliadau preifat tebyg er Ebrill 2006. (WAQ51370)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Faint o gleifion yng Nghymru sydd wedi cael eu trin yng Nghymru gan y GIG drwy gwmnïau megis Denticare neu sefydliadau preifat tebyg er Ebrill 2006. (WAQ51371)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau twf a dirywiad practisiau GIG a phreifat yng nghyswllt darparu triniaethau deintyddol er Ebrill 2006. (WAQ51372)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyfraddau cymharol nifer y triniaethau Band 1, Band 2 a Band 3 a wnaethpwyd gan ddeintyddion yn gweithio mewn practisiau iechyd preifat a’r GIG cyn ac ar ôl Ebrill 2006. (WAQ51373)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am restri aros ar gyfer triniaethau orthodontig yng Nghymru cyn ac ar ôl Ebrill 2006. (WAQ51374)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr arbenigwyr orthodontig a gefnodd ar y GIG ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ51375)
Nicholas Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A yw’r contract deintyddion newydd a gyhoeddwyd fis Ebrill 2006 wedi arwain at gynnydd yn nifer y plant ac oedolion sydd â mynediad at driniaethau deintyddol. (WAQ51376)
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae hi a’i swyddogion wedi’u cymryd i fynd i’r afael â ffenomenon Ymwybyddiaeth Anesthetig. (WAQ51377)Gofyn i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
Irene James (Islwyn): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Islwyn. (WAQ51379)
Irene James (Islwyn): A yw Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dyrannu unrhyw arian ar gyfer adfer Sefydliad y Glowyr a Neuadd Goffa Trecelyn. (WAQ51378)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio maglau yng Nghymru. (WAQ51381)