27/06/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Mehefin 2013 i’w hateb ar 27 Mehefin 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfarwyddiadau y mae wedi’u cyflwyno i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yng nghyswllt cydgyfrifoldeb y cabinet, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â Chanol De Cymru? (WAQ64963)

Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Ieuan Wyn Jones (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog roi manylion grant a ddyfarnwyd i Glwb Mynydda Swydd Gaerhirfryn ar gyfer gwelliannau i Cae Ysgubor, Beddgelert? (WAQ64958)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ganlyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd rhwng bwrdd cyfarwyddwyr Maes Awyr Caerdydd, Prif Weinidog Cymru a hithau ar 20 Mehefin 2013? (WAQ64959)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu manylion y targedau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gosod i fwrdd cyfarwyddwyr Maes Awyr Caerdydd ar gyfer twf yn nifer y teithwyr, datblygu llwybrau, tunelledd o ran cludo nwyddau a buddsoddiad cyfalaf ar gyfer y pum mlynedd ariannol nesaf? (WAQ64960)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ64901, a wnaiff y Gweinidog ddatgelu’r dyddiad cychwynnol y gwnaeth Bws Caerdydd y cais ynghylch gwasanaeth bws cyflym i Faes Awyr Caerdydd a dyddiad neu ddyddiadau cynnal y trafodaethau hyn? (WAQ64961)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a hedfanodd i Faes Awyr Caerdydd neu ohono yn ystod ei thaith fasnach ddiweddar i Japan? (WAQ64962)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Aled Roberts (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y safonau iaith Gymraeg arfaethedig? (WAQ64964)W

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud am gost bosibl byrddau adfer addysg annibynnol yng Nghyngor Sir Fynwy a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful? (WAQ64973)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddarparu dadansoddiad o gyfanswm costau Bwrdd Adfer Addysg Annibynnol Sir Ddinbych? (WAQ64974)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y protocol, os oes un ar gael, ar gyfer staff a swyddogion cynghorau sy'n cael eu dewis i ymuno â bwrdd adfer addysg annibynnol? (WAQ64975)

Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau cost i awdurdod lleol os dewisir un o'i swyddogion i ymuno â bwrdd adfer addysg annibynnol? (WAQ64976)

Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnewch chi gadarnhau a yw Land & Lakes wedi cyflwyno cais galw i mewn ar gyfer Gwarchodfa Natur Penrhos, Caergybi, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i'r cyhoedd am y ceisiadau galw i mewn y mae'n eu cael? (WAQ64966)

Gofyn i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa gyfran o wastraff cartrefi a ailgylchwyd ymhob blwyddyn y mae ffigurau ar gael ar eu cyfer? (WAQ64965)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o gymorthfeydd galw heibio ar gyfer Glastir sydd wedi cael eu cynnal er mis Chwefror 2013, pan oeddynt i fod i gychwyn, gan nodi dyddiad a lleoliad pob cymhorthfa? (WAQ64967)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o ddigwyddiadau ar ffermydd ar gyfer Glastir sydd wedi cael eu cynnal ers diwedd Ebrill 2013, pan oeddynt i fod i gychwyn, gan nodi dyddiad a lleoliad pob digwyddiad? (WAQ64968)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Ymhob un o’r 12 mis diwethaf, a) sawl achos o TB buchol newydd mewn buchesi a ganfuwyd, b) sawl buwch a gafodd ei difa, ac c) sawl buches a osodwyd o dan gyfyngiadau symud? (WAQ64969)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Ar gyfer pob mis o gyfnod y rhaglen brechu moch daear, a) sawl i) mochyn daear a ii) brochfa gafodd ei brechu, b) sawl un gafodd ei ddifa oherwydd salwch neu anaf, ac c) beth oedd costau gweithredu’r prosiect? (WAQ64970)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau, os o gwbl, y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Defra yn ddiweddar ynghylch cywirdeb ei ystadegau cyhoeddedig am TB buchol ar gyfer Cymru? (WAQ64971)

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): Ymhob un o’r 10 mlynedd ariannol diwethaf, a) faint o wartheg sydd wedi cael eu difa oherwydd TG buchol yng Nghymru, b) sawl buches sydd wedi cael ei rhoi o dan gyfyngiadau symud ac c) faint o arian sydd wedi cael ei wario ar iawndal gwartheg? (WAQ64972)