27/07/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 20 Gorffennaf 2012
i’w hateb ar 27 Gorffennaf 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau’r cyfanswm a wariodd Llywodraeth Cymru ar y cyfleusterau newydd i friffio’r cyfryngau ym Mharc Cathays, ac a wnaiff hefyd gadarnhau cyfanswm y gwariant blynyddol ar gyfleusterau i’r cyfryngau ar gyfer pob un o'r pedair blynedd ariannol lawn ddiwethaf. (WAQ60988)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu cost y darllenfwrdd newydd yn y cyfleuster i friffio’r cyfryngau ym Mharc Cathays, yn ogystal â chost y plac llechen sydd â logo swyddogol y Prif Weinidog arno. (WAQ60989)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu rhestr gynhwysfawr o’r rheini a gafodd wahoddiad i agoriad swyddfa newydd Llywodraeth Cymru yn Llundain, wedi’u rhannu yn ôl a) y rheini a ddaeth i’r digwyddiad b) y rheini nad oeddent yn bresennol. (WAQ60990)

Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Gan gyfeirio at WAQ60777, ac yng ngoleuni datganiad diweddar y Gweinidog, a wnaiff amlinellu pa strwythurau a fydd ar waith i grwpiau busnes neu gymunedol lleol wneud cais am welliannau mewn darpariaeth band eang yn yr ardaloedd hynny na fydd y cyflwyno yn effeithio arnynt. (WAQ60987)

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddiffinio’r term ‘Band Eang y Genhedlaeth Nesaf’ y mae hi a’i hadran yn gweithio i’w gyflawni erbyn 2015. (WAQ60995)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yng nghyswllt ei Datganiad Cabinet Ysgrifenedig ar 19 Gorffennaf 2012 ar Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf, a wnaiff y Gweinidog nodi sut y caiff y broses ‘deialog gystadleuol’ ei gweithredu’n ymarferol a beth y mae’r ymadrodd ‘gadael y broses’ yn ei olygu o ran y cwmnïau hynny a oedd yn aflwyddiannus wrth gynnig am dendr y prosiect. (WAQ60996)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yng nghyswllt ei Datganiad Cabinet Ysgrifenedig ar 19 Gorffennaf 2012 ar Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf, a wnaiff y Gweinidog roi manylion ble yng Nghymru y mae hi wedi canfod y 4 y cant o gartrefi na fyddant wedi cysylltu erbyn 2015. (WAQ60997)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yn ei Datganiad Cabinet Ysgrifenedig ar 19 Gorffennaf 2012 ar Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf, mae'r Gweinidog yn nodi y bydd 'Ardaloedd Menter' yn cael blaenoriaeth, ond ble yn y broses gyflwyno y mae hi'n rhagweld y bydd Ardaloedd Twf Lleol Powys yn perthyn.(WAQ60998)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yng nghyswllt ei Datganiad Cabinet Ysgrifenedig ar 19 Gorffennaf 2012 ar Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf, pryd y mae’r Gweinidog yn rhagweld y caiff penderfyniad terfynol ei wneud ar y broses gyflwyno a phryd y caiff hwnnw ei gyhoeddi. (WAQ60999)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): O ran niferoedd newydd-ddyfodiaid israddedig amser llawn, pa mor agos oedd sector addysg uwch Cymru at ragori ar nifer y lleoedd a oedd ar gael yn sefydliadau Cymru yn 2011/12. (WAQ60977)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a oes cynllun tebyg i’r cynllun ‘Troops to teaching’ sy’n cael ei redeg gan Adran Addysg Llywodraeth y DU, ar gael yng Nghymru, ac os felly a wnaiff gyhoeddi datganiad amdano. (WAQ60994)

Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Russell George (Sir Drefaldwyn): Sawl darn o ohebiaeth cwyno y mae Llywodraeth Cymru wedi’i gael ers cyflwyno Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 ac a oes modd dadansoddi’r data hwnnw fesul pob gwlad yn y Deyrnas Unedig. (WAQ60978)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Faint o gyllid gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cael ei roi i awdurdodau lleol yng Nghymru i orfodi sancsiynau sydd wedi’u cynnwys yn Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 ac a oes modd dadansoddi’r data hwnnw fesul pob awdurdod lleol. (WAQ60979)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Sawl achos o dorri Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 sydd wedi digwydd hyd yn hyn ac a oes modd dadansoddi’r data hwnnw fesul trosedd a fesul ardal awdurdod lleol. (WAQ60980)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Faint o ofynion heb fod yn ariannol yn ôl disgresiwn sydd wedi cael eu cyhoeddi gan awdurdodau lleol hyd yn hyn oherwydd achosion o dorri Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 ac a oes modd dadansoddi’r data hwnnw fesul trosedd a fesul ardal awdurdod lleol. (WAQ60981)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Faint o gosbau ariannol penodedig sydd wedi cael eu cyhoeddi gan awdurdodau lleol hyd yn hyn oherwydd achosion o dorri Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 ac a oes modd dadansoddi’r data hwnnw fesul trosedd a fesul ardal awdurdod lleol. (WAQ60982)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Faint o’r cosbau ariannol penodedig sydd wedi cael eu cyhoeddi gan awdurdodau lleol am dorri Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 sydd wedi cael eu hadennill hyd yn hyn ac a oes modd dadansoddi’r data hwnnw fesul ardal awdurdod lleol. (WAQ60983)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Faint o wrthwynebiadau a gafwyd hyd yn hyn yn erbyn gweithdrefnau sancsiynau wedi’u gorfodi am dorri Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 ac a oes modd dadansoddi’r data hwnnw fesul ardal awdurdod lleol. (WAQ60984)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd hyd yma o ymdrin â hawliadau gofal ôl-weithredol, gan gynnwys dadansoddiad o’r holl hawliadau a gafodd eu datrys ym mhob un o’r pum mlynedd diwethaf, gan roi’r gost, a sawl hawliad nad ydynt wedi’u datrys eto. (WAQ60991)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A allai’r Gweinidog roi amcan o’r dyddiad y mae’n disgwyl i’r holl hawliadau gofal ôl-weithredol sy’n weddill fod wedi’u clirio. (WAQ60992)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o arian sydd wedi’i dalu hyd yma yng nghyd-destun hawliadau gofal ôl-weithredol, ac a wnaiff roi manylion yr holl arian y rhagwelir y bydd angen ei dalu ar ôl i bob hawliad o’r fath gael ei ddatrys. (WAQ60993)

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yn dilyn ei ateb i WAQ60807, a wnaiff y Gweinidog egluro pam y mae Astudiaeth Trafnidiaeth y Drenewydd, a gyhoeddwyd ar 25 Ebrill 2012, yn nodi y byddai’r gwaith adeiladu’n dechrau yn 2014 ac wrth wneud hynny, a allwch roi manylion pa amgylchiadau sydd wedi newid rhwng 25 Ebrill a 10 Gorffennaf sydd wedi arwain at ohirio'r dyddiad dechrau tan ddechrau 2015. (WAQ60971)

Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi manylion y rhesymeg a ddefnyddiodd ARUP i ddod i’r casgliad yn Astudiaeth Trafnidiaeth y Drenewydd, a gyhoeddwyd ar 25 Ebrill 2012, y byddai cam adeiladu Ffordd Osgoi’r Drenewydd yn dechrau yn 2014. (WAQ60972)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Yn dilyn ateb y Gweinidog i WAQ60807, o gofio bod cam adeiladu Ffordd Osgoi’r Drenewydd i fod i ddechrau ddiwedd 2014 / dechrau 2015, a wnaiff y Gweinidog nodi’r amgylchiadau sydd wedi arwain at symud y dyddiad dechrau at ddiwedd yr amserlen honno. (WAQ60973)

Byron Davies (Gorllewin De Cymru): Ym mha ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ‘sicrhau’ bod Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe a Chledrau’r Cymoedd yn cael eu trydaneiddio fel yr honnodd y Gweinidog yn ei ddatganiad ar 17 Gorffennaf 2012 ac a wnaiff y Gweinidog gyhoeddi’r holl ohebiaeth gysylltiedig. (WAQ60974)

Byron Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu’r manteision i Gymru yn sgîl trydaneiddio Prif Reilffordd y Great Western i Abertawe. (WAQ60975)

Byron Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi achos busnes Llywodraeth Cymru dros drydaneiddo Rheilffordd y Great Western i Abertawe. (WAQ60976)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Pryd y bydd yr Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru yn cael ei gwblhau ar gyfer pont arfaethedig newydd dros Afon Dyfi. (WAQ60985)

Russell George (Sir Drefaldwyn): Wrth ystyried datganiad y Gweinidog yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Mehefin 2012, ei fod am ofyn i’w swyddogion ystyried y dewis o ffyrdd arwain a phont newydd dros Afon Dyfi o'r cam Arweiniad ar Arfarnu a Chynllunio Trafnidiaeth Cymru, a allai'r Gweinidog ddarparu llinell amser fanwl ar gyfer pob cam o broses y prosiect arfaethedig a rhestr o’r amserau dangosol sy’n arwain at y dyddiad adeiladu ar gyfer y bont newydd. (WAQ60986)