28/01/2009 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ionawr 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ionawr 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gynnydd sydd wedi’i wneud ar y cynnig i archwilio i weld a ellid defnyddio Cronfeydd Cydgyfeirio’r UE i redeg cystadleuaeth i ganfod y safle morlyn llanw gorau yng Nghymru ac i gefnogi’r gwaith paratoi ar gyfer adeiladu morlyn ynni’r llanw? (WAQ53161)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae dau gynllun morlyn llanw, sef Morlyn Fleming, a Morlyn Bridgewater Bay, wedi’u cynnwys ar y rhestr fer arfaethedig o brosiectau Ynni’r Llanw ar Afon Hafren i’w hystyried yn ei ail gam. Mae gennym hefyd ddiddordeb yn y potensial i ddatblygu morlyn y tu allan i Aber Afon Hafren a gobeithiwn y bydd y gwaith sydd wedi ei gynllunio ar gyfer yr ail gam hefyd yn helpu i ddangos a fyddai morlynnoedd yn ymarferol mewn lleoliadau eraill o amgylch arfordir Cymru.

At hynny, ar y cyd â DEFRA a’r SWRDA, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu arian ar gyfer rhagor o ymchwil i dechnolegau arloesol iawn y gellir eu defnyddio i ddal ynni amrediad llanw ar Afon Hafren ac mewn mannau eraill.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at dargedau TAN 8 2010? (WAQ53163)

Jane Davidson: Caiff y broses o gyflawni targedau TAN 8 ei monitro bob mis Ebrill ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn berthnasol i fis Ebrill 2008.

Mae gwybodaeth a ddarparwyd gan awdurdodau cynllunio lleol yn dangos fod 47.6MW o’r capasiti’n weithredol ers cyhoeddi’r TAN yn 2005, bod 11.7MW pellach yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd, bod 129.55MW wedi ei gymeradwyo a bod tua 768.2MW wedi’i gynnwys mewn ceisiadau a gyflwynwyd eisoes, naill ai gyda Llywodraeth y DU neu gydag awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Michael German (Dwyrain De Cymru): Yn dilyn WAQ53104, a wnaiff y Gweinidog yn awr ddarparu copi i Aelodau Cynulliad o’r adroddiad o’r adolygiad a wnaethpwyd gan Dr Chris Jones o’r cynlluniau presennol ar gyfer gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol sy’n sail i Raglen Dyfodol Clinigol Gwent? (WAQ53165)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Fe’ch cyfeiriaf at fy ateb i gwestiwn WAQ53104.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran gweithredu Canllaw Ffrwythlondeb NICE yn llawn ledled Cymru? (WAQ53172)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sy’n cael eu cymryd i symud at weithredu Canllaw Ffrwythlondeb NICE yn llawn? (WAQ53173)

Edwina Hart: Yn seiliedig ar y canllawiau a gyflwynwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) cytunwyd, at ei gilydd, mai’r ffordd decaf o weithredu gwasanaeth cyfartal ledled Cymru, o fewn yr adnoddau a oedd ar gael, oedd cynnig un cylch o driniaeth a fyddai’n amodol ar nifer o feini prawf i gleifion presennol a chleifion newydd. Gweithredwyd y meini prawf o ran mynediad i IVF ledled Cymru gan Gomisiwn Iechyd Cymru ym mis Gorffennaf 2005.

Er fy mod yn cydnabod nad yw un cylch o driniaeth IVF yn cyflawni argymhelliad NICE o dri chylch, nid yw sefyllfa gyllidebol y GIG yng Nghymru yn ei alluogi i gynyddu’r gwasanaeth ar hyn o bryd y tu hwnt i’r un cylch o driniaeth.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Sawl cylchred o IVF/ICSI a ddarperir ym mhob un o’r pedair canolfan drydyddol ledled Cymru? (WAQ53174)

Edwina Hart: Nid yw Comisiwn Iechyd Cymru, sy’n comisiynu IVF/ICSI yng Nghymru, yn meddu ar y wybodaeth hon ar y ffurf sydd ei angen arnoch.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth y Cynulliad i fesur yr effaith ar gyfraddau llwyddo ar gyfer IVF yn sgil gorfodi mabwysiadu trosglwyddo un embryo yng Nghymru oherwydd diffyg newid o’r polisi presennol o 1 cylchred ffres o IVF i weithredu canllaw clinigol NICE yn llawn a fyddai’n darparu hyd at 3 cylchred ffres? (WAQ53175)

Edwina Hart: Bydd Comisiwn Iechyd Cymru’n cynllunio ac yn monitro cleifion a ariennir gan y GIG yn unol â chanllaw Cymdeithas Ffrwythlondeb Prydain ar 'Elective Single Embryo Transfer in IVF Treatment’. Bydd Comisiwn Iechyd Cymru’n ystyried unrhyw oblygiadau sy’n codi o’r wybodaeth hon ar ei bolisi comisiynu presennol.

Alun Ffred Jones (Arfon): Faint o gadeiriau olwyn, cymhorthion clyw, parau o faglau, pulpudau a darnau eraill o offer meddygol sy’n cael eu dosbarthu/benthyg am ddim yng Nghymru bob blwyddyn a faint sy’n cael eu dychwelyd? (WAQ53167)

Edwina Hart: Ni chedwir y wybodaeth hon yn ganolog.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Ar gyfer pob blwyddyn er 1999, a wnaiff y Gweinidog gadarnhau sawl claf iechyd meddwl sy’n hanu o Gymru sydd wedi cael eu trin, ac sy’n cael eu trin ar hyn o bryd, y tu allan i Gymru mewn (a) unedau diogelwch isel, (b) unedau diogelwch canolig, ac (c) unedau diogelwch uchel? (WAQ53162)

Edwina Hart: Nid yw’r wybodaeth hon ar gael yn ganolog. Fodd bynnag, mae’r nifer cofnodedig o drigolion o Gymru a dderbyniwyd i ysbytai yn Lloegr lle y cafodd y claf ei drin mewn uned seiciatrig arbenigol wedi’i nodi yn y tabl canlynol. Nid yw’n bosibl dangos data fesul ysbyty unigol o ganlyniad i rai ffigurau bach iawn.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 28 Ionawr 2009

Blwyddyn derbyn

Nifer y cleifion a dderbyniwyd i ysbyty

1999

226

2000

252

2001

246

2002

269

2003

264

2004

245

2005

305

2006

201

2007

218

Ffynhonnell: Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Atebion Iechyd Cymru

Nodiadau

(a) Gan fod cyfnodau seiciatrig yn dueddol o fod yn hirdymor, a gan mai dim ond cyfnodau a gwblhawyd a dderbyniodd Atebion Iechyd Cymru, mae’n bosibl bod nifer sylweddol o gyfnodau seiciatrig cyfredol nad ydynt wedi’u cynnwys yn y data. Am hynny, efallai nad yw’r data yn adlewyrchiad gwirioneddol o nifer y cleifion seiciatrig o Gymru a dderbyniwyd i ymddiriedolaethau yn Lloegr.

(b) Mae’r data’n seiliedig ar ddata a gyflwynwyd o Loegr, ac efallai nad yw safon a chyflawnrwydd y data’n ddibynadwy.

(c) Os caiff claf ei dderbyn i uned seiciatrig mewn blynyddoedd gwahanol, caiff ei gyfrif yn y ffigurau ar gyfer pob blwyddyn gwahanol cafodd ei dderbyn.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Faint o doiledau ychwanegol sy’n hwylus i gadeiriau olwyn a fydd ar gael ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i dalu busnesau i agor eu toiledau i’r cyhoedd? (WAQ53164)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Caiff mynediad i bobl anabl ei gwmpasu gan y cynllun grant cyfleusterau cyhoeddus, ond nid wyf mewn sefyllfa i amcangyfrif faint o doiledau ychwanegol sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn fydd ar gael, oherwydd mae hyn yn dibynnu ar nifer y ceisiadau a gymeradwyir gan bob awdurdod lleol unigol a’r math o geisiadau.

Mater i’r awdurdodau lleol yn unig yw darpariaeth toiledau cyhoeddus, gan fod yr awdurdodau’n atebol yn lleol i benderfynnu lefel y gwasanaethau a ddarperir ganddynt. Nod y Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus yw gwella mynediad i doiledau preifat ar gyfer pob rhan o’r gymuned, ac un o amodau’r cynllun grant yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol fod yn fodlon bod toiledau a ddarperir gan fusnesau sy’n rhan o’r cynllun yn cyrraedd safonau derbyniol o ran diogelwch, hylendid, hygyrchedd i bobl anabl a darpariaeth i’r ddau ryw.