28/09/2009 - Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i’w hateb ar 28 Medi 2009

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Prif Weinidog

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion cost gwestai (a) yng Nghymru, (b) yn y DU heb gynnwys Cymru, (c) dramor, ar gyfer staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 2000, wedi’u dadansoddi yn ôl adran/portffolio Gweinidogion. (WAQ54821)

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Ni chesglir gwybodaeth am wariant ar westai yn ganolog ac felly nid yw'r wybodaeth ar gael heb fynd i gost anghymesur.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y gost i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn sgil defnyddio gyrwyr Gweinidogion, gan ddadansoddi hyn yn ôl costau cyflogi a chostau moduro ac ar gyfer adran/portffolio pob Gweinidog ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54822)

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Nid yw'r costau hyn ar gael fesul portffolio/adran Weinidogol.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei adran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54825)

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Y Prif Weinidog (Rhodri Morgan): Rwyf yn ymateb i'r cwestiynau uchod ar ran pob un o'r Gweinidogion.  Nodir y ffigurau ar gyfer 2008-2009 fesul Adran Weinidogol yn y tabl isod.

Ffioedd Cyfreithiol fesul Adran Weinidogol

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adran Weinidogol

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.0

Economi a Thrafnidiaeth

1.3

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.2

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.0

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1.8

Treftadaeth

0.0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.0

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.5

Cyfanswm Cyngor Cyfreithiol

3.9

Noder: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog

Dim ond ers gwneud gwelliannau i'n systemau rheolaeth ariannol y mae'n bosibl darparu'r wybodaeth uchod. Oherwydd hyn nid oes gwybodaeth debyg am flynyddoedd blaenorol ar gael.

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Faint o gyllid a ddyrennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i’r Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol arfaethedig ar gyfer addysg uwch ac ym mha flwyddyn ariannol y bydd y cynllun yn dechrau. (WAQ54809)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Mae'r Fframwaith Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Cenedlaethol yn un o'r pedwar polisi sy'n flaenoriaeth ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru a gyhoeddwyd yn fy natganiad i'r Cyfarfod Llawn ar 23 Mehefin.   Bydd y Fframwaith diwygiedig yn adeiladu ar y Cynllun Bwrsariaeth Cenedlaethol presennol ac yn golygu bod y rhai sydd â'r angen ariannol mwyaf yn cael adnoddau cyson a thryloyw sydd wedi'u targedu, yn unol â'n huchelgeisiau cenedlaethol i helpu i sicrhau bod profiad addysg uwch yn trawsnewid bywydau a rhagolygon pawb a all fanteisio arni yng Nghymru, waeth beth fo'u cefndir neu eu statws ariannol.

Mae trefniadau ar gyfer ariannu elfennau'r Fframwaith Bwrsariaethau ac Ysgoloriaethau Cenedlaethol yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, CCAUC a'r sector addysg uwch yng Nghymru.

Arrangements for funding the components of the National Bursary and Scholarship Framework is being developed in partnership with the National Union of Students, HEFCW and the higher education sector in Wales.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei hadran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54831) Trosglwyddwyd yr ateb i’r Brif Weinidog

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb i'r cwestiynau uchod ar ran pob un o'r Gweinidogion.  Nodir y ffigurau ar gyfer 2008-2009 fesul Adran Weinidogol yn y tabl isod.

Ffioedd Cyfreithiol fesul Adran Weinidogol

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adran Weinidogol

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.0

Economi a Thrafnidiaeth

1.3

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.2

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.0

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1.8

Treftadaeth

0.0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.0

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.5

Cyfanswm Cyngor Cyfreithiol

3.9

Noder: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog

Dim ond ers gwneud gwelliannau i'n systemau rheolaeth ariannol y mae'n bosibl darparu'r wybodaeth uchod. Oherwydd hyn nid oes gwybodaeth debyg am flynyddoedd blaenorol ar gael.

David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion (a) sawl cwmni yng Nghymru sydd wedi cael cymorth gan ProAct, (b) sawl swydd a ddiogelwyd ac (c) beth oedd cost hynny. (WAQ54819)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Dyma ffigurau ProAct fel yr oeddent ar 22il Medi 2009:

(a) Mae 118 o gwmnïau wedi'u cymeradwyo i gael arian gan ProAct

(b) Mae'r ffigur hwn yn cynnwys tua 6000 o unigolion.  

(c) Mae £15m o arian wedi'i ymrwymo i gyd

NODER:  Gan fod ceisiadau newydd yn cael eu prosesu bob dydd, mae'r ffigurau uchod yn newid drwy'r amser.

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y cynllun i bensiynwyr gael teithio am ddim ar Reilffordd Calon Cymru ar gyfer 2009/10. (WAQ54811)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Mae cynllun peilot tocynnau trên rhatach ar Reilffordd Calon Cymru wrthi'n cael ei adolygu. Mae'r adolygiad ar gam datblygedig a byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall maes o law.

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu tocynnau siwrnai gyfan ar wasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru a fyddai’n cynnwys pob gweithredwr gwasanaeth. (WAQ54818)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Mae eisoes enghreifftiau da yng Nghymru o drefniadau tocynnau ar y cyd rhwng gweithredwyr bysiau a threnau megis Tocyn Crwydro Gogledd Cymru a'r tocyn PlusBus sydd ar gael yn ehangach.  

Rwy'n awyddus i adeiladu ar yr arfer da hwn a dyna pam fy mod wedi nodi cynigion, yn fy Nghynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i gyflwyno cerdyn Hawliau Trafnidiaeth yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau bws a thrên erbyn 2014. Dylai ein cynllun geisio gwneud y defnydd gorau o dechnolegau uwch ac atebion arloesol megis ffonau symudol. Rydym yn ymchwilio i gynlluniau ar gyfer cynllun peilot i brofi cynllun tocynnau electronig integredig.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei adran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54826) Trosglwyddwyd yr ateb i’r Brif Weinidog

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb i'r cwestiynau uchod ar ran pob un o'r Gweinidogion.  Nodir y ffigurau ar gyfer 2008-2009 fesul Adran Weinidogol yn y tabl isod.

Ffioedd Cyfreithiol fesul Adran Weinidogol

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adran Weinidogol

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.0

Economi a Thrafnidiaeth

1.3

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.2

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.0

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1.8

Treftadaeth

0.0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.0

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.5

Cyfanswm Cyngor Cyfreithiol

3.9

Noder: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog

Dim ond ers gwneud gwelliannau i'n systemau rheolaeth ariannol y mae'n bosibl darparu'r wybodaeth uchod. Oherwydd hyn nid oes gwybodaeth debyg am flynyddoedd blaenorol ar gael.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru aelodau Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru, dyddiad penodi’r aelodau a hyd eu tymor. (WAQ54835)

Rhoddwyd ateb ar 30 Medi 2009

Nodir y wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani isod. Mae pob aelod gan amlaf yn gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd. Yn dilyn arfarniad personol boddhaol gellir gwahodd Aelodau i wasanaethu am gyfnodau pellach hyd at uchafswm o ddeng mlynedd.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Enw'r Aelod

Dyddiad eu hapwyntiad

Ms Valerie Barrett (cadeirydd)

15fed Mehefin 2004

Mr Jim Driscoll

1afMawrth 2000

Mr Daniel Fellows

1af Hydref 2002

Mr Annesley Wright OBE

1af Mai 2000

Ms Kerry Diamond

21ain Mawrth 2005

Mr David Williams

21ain Mawrth 2005

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei adran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54827) Trosglwyddwyd yr ateb i’r Brif Weinidog

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb i'r cwestiynau uchod ar ran pob un o'r Gweinidogion.  Nodir y ffigurau ar gyfer 2008-2009 fesul Adran Weinidogol yn y tabl isod.

Ffioedd Cyfreithiol fesul Adran Weinidogol

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adran Weinidogol

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.0

Economi a Thrafnidiaeth

1.3

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.2

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.0

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1.8

Treftadaeth

0.0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.0

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.5

Cyfanswm Cyngor Cyfreithiol

3.9

Noder: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog

Dim ond ers gwneud gwelliannau i'n systemau rheolaeth ariannol y mae'n bosibl darparu'r wybodaeth uchod. Oherwydd hyn nid oes gwybodaeth debyg am flynyddoedd blaenorol ar gael.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y gwestai a ddefnyddiodd gweision sifil Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 2000, wedi’u dadansoddi yn ôl adran/portffolio Gweinidogion. (WAQ54820)

Rhoddwyd ateb ar 15 Hydref 2009

Ysgrifennaf mewn ymateb i’r cwestiwn ysgrifenedig a ofynnoch ar gyfer un o gyfarfodydd y Cynulliad ynglŷn â manylion costau gwestai, yn ôl portffolios/adrannau Gweinidogion, a ddefnyddiwyd gan weision sifil Llywodraeth Cynulliad Cymru bob blwyddyn er 2000.

Mae fy swyddogion wedi dweud wrthyf nad yw gwybodaeth o’r math hwn yn cael ei chasglu’n ganolog, ac yn anffodus byddai cael hyd i’r wybodaeth yn costio gormod.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost cyflogi staff asiantaeth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn er 2000, wedi’u dadansoddi yn ôl adran/portffolio Gweinidogion. (WAQ54823)

Rhoddwyd ateb ar 15 Hydref 2009

Ysgrifennaf mewn ymateb i’r cwestiwn ysgrifenedig a ofynnoch ar gyfer un o gyfarfodydd y Cynulliad ynglŷn â manylion cost cyflogi staff asiantaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru bob blwyddyn er 2000, yn ôl portffolios/adrannau Gweinidogion.

Mae’r tabl isod yn dangos y ffigurau ar gyfer 2008-2009 yn ôl Adrannau Gweinidogion.

Costau staff asiantaeth yn ôl Adrannau Gweinidogion

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adrannau Gweinidogion

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.1

Yr Economi a Thrafnidiaeth

0.6

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.0

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.5

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

0.7

Treftadaeth

0.1

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.2

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.4

Cyfanswm

2.7

Dalier sylw: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog.

Dim ond ar ôl i’n systemau rheoli ariannol gael eu gwella’n ddiweddar y mae’n bosibl rhoi’r wybodaeth uchod. Oherwydd hynny, nid yw’r un wybodaeth ar gael ar gyfer blynyddoedd cynharach.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost cyrsiau allanol ar gyfer staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ym mhob blwyddyn ers datganoli, wedi’u dadansoddi yn ôl adran/portffolio Gweinidogion. (WAQ54824)

Rhoddwyd ateb ar 15 Hydref 2009

Ysgrifennaf mewn ymateb i’r cwestiwn ysgrifenedig a ofynnoch ar gyfer un o gyfarfodydd y Cynulliad ynglŷn â manylion costau’r cyrsiau allanol ar gyfer staff Llywodraeth Cynulliad Cymru bob blwyddyn ers datganoli, yn ôl portffolios/adrannau Gweinidogion.

Mae’r tabl isod yn dangos y ffigurau ar gyfer 2008-2009 yn ôl Adrannau Gweinidogion.

Costau Hyfforddiant yn ôl Adrannau Gweinidogion

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adrannau Gweinidogion

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.2

Yr Economi a Thrafnidiaeth

0.4

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.0

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.4

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

0.2

Treftadaeth

0.1

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.1

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol*

4.6

Cyfanswm Hyfforddiant

6.1

Dalier sylw: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog a chostau’r contract hyfforddiant corfforaethol sy’n darparu cyrsiau ar gyfer staff ar draws Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae’r wybodaeth hon ar gael ers i’r systemau rheoli ariannol gael eu gwella’n ddiweddar; yn anffodus, nid yw’r wybodaeth ar gael ar gyfer blynyddoedd cynharach.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei adran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54828) Trosglwyddwyd yr ateb i’r Brif Weinidog

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb i'r cwestiynau uchod ar ran pob un o'r Gweinidogion.  Nodir y ffigurau ar gyfer 2008-2009 fesul Adran Weinidogol yn y tabl isod.

Ffioedd Cyfreithiol fesul Adran Weinidogol

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adran Weinidogol

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.0

Economi a Thrafnidiaeth

1.3

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.2

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.0

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1.8

Treftadaeth

0.0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.0

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.5

Cyfanswm Cyngor Cyfreithiol

3.9

Noder: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog

Dim ond ers gwneud gwelliannau i'n systemau rheolaeth ariannol y mae'n bosibl darparu'r wybodaeth uchod. Oherwydd hyn nid oes gwybodaeth debyg am flynyddoedd blaenorol ar gael.

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yn dilyn y datganiad am driniaeth IVF yng Nghymru ar 1 Gorffennaf 2009, a wnaiff y Gweinidog amlinellu’r camau y mae’n eu cymryd i gyfrifo cost cynyddu nifer y cylchoedd triniaeth IVF/ICSI i’w gynnwys yn y gyllideb iechyd 2010-2011. (WAQ54812)

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi rhagor o fanylion am sut y bydd Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ffrwythlondeb Arbenigol yn archwilio effaith trosglwyddo un embryo ar gyfraddau llwyddiant triniaethau ffrwythlondeb a nifer y genedigaethau lluosog. (WAQ54813)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Bydd Grŵp Cynghori Arbenigol Cymru Gyfan ar Ffrwythlondeb yn cael adroddiadau gan bob uned ar y defnydd a wneir o driniaethau i drosglwyddo un embryo dethol a chyfraddau geni gefeilliaid. Mae'r Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg (HFEA) eisoes yn casglu data at gyfraddau geni gefeilliaid a chaiff data ei gymharu â data’r blynyddoedd blaenorol er mwyn nodi newidiadau sy'n digwydd yn sgîl cyflwyno triniaethau i drosglwyddo un embryo dethol.

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw holl staff y GIG yn cael cyfeiriad e-bost fel mater o drefn. (WAQ54814)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Rhoddir cyfeiriad e-bost i'r aelodau o staff hynny sy'n defnyddio cyfrifiadur wrth wneud eu gwaith.

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi cyfanswm nifer y bobl sydd wedi cael triniaeth gan ddarparwyr amgen ym mhob blwyddyn ariannol er 2003, wedi’i ddadansoddi, pan mae hynny’n bosibl, yn ôl y math o driniaeth neu arbenigedd. (WAQ54815)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Mae'r unig wybodaeth a gedwir yn ganolog am nifer y cleifion a gafodd driniaeth gan ddarparwyr amgen yn ymwneud â chleifion a gafodd driniaeth drwy Gynllun yr Ail Gynnig ers mis Ebrill 2004. Rwy'n eich cyfeirio at y tabl isod:

Cleifion a gafodd driniaeth drwy Gynllun yr Ail Gynnig gan Ddarparwyr Amgen, rhwng mis Ebrill 2004 a mis Awst 2009

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009
 
04-05

05-06

06-07

07-08

08-09

09-10*

Orthopedeg

dd/g

2,449

2,143

687

866

265

Llawdriniaeth Gyffredinol

dd/g

229

0

0

55

9

Clust, Trwyn a Gwddf

dd/g

38

0

0

23

32

Gynaecoleg

dd/g

10

0

0

0

0

Wroleg

dd/g

8

0

0

0

0

Arall

dd/g

3

0

0

33

60

Cyfanswm

4,381

2,737

2,143

687

977

366

* mis Ebrill 2009 - mis Awst 2009

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a fydd adroddiadau Grŵp Gweithredu Niwrowyddorau Gogledd Cymru, Canolbarth a De Cymru yn cael eu hanfon ati neu at y Byrddau Iechyd Lleol i’w hystyried. (WAQ54816)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd Grŵp Gweithredu Niwrowyddorau Gogledd Cymru, Canolbarth a De Cymru yn cyhoeddi eu gwaith. (WAQ54817)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Er fy mod yn disgwyl gweld copïau o'r cynlluniau gweithredu rhanbarthol ar gyfer niwrowyddorau yn fuan, y Byrddau Iechyd Lleol newydd a fydd yn datblygu'r rhain.  

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei hadran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54830) Trosglwyddwyd yr ateb i’r Brif Weinidog.

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb i'r cwestiynau uchod ar ran pob un o'r Gweinidogion.  Nodir y ffigurau ar gyfer 2008-2009 fesul Adran Weinidogol yn y tabl isod.

Ffioedd Cyfreithiol fesul Adran Weinidogol

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adran Weinidogol

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.0

Economi a Thrafnidiaeth

1.3

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.2

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.0

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1.8

Treftadaeth

0.0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.0

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.5

Cyfanswm Cyngor Cyfreithiol

3.9

Noder: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog

Dim ond ers gwneud gwelliannau i'n systemau rheolaeth ariannol y mae'n bosibl darparu'r wybodaeth uchod. Oherwydd hyn nid oes gwybodaeth debyg am flynyddoedd blaenorol ar gael.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru nifer yr achosion o blant mewn gofal fesul awdurdod lleol ar gyfer pob un o’r 5 mlynedd diwethaf. (WAQ54834)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol (Gwenda Thomas):

Mae'r tabl isod yn rhestru nifer y plant mewn gofal fesul awdurdod lleol ar 31 Mawrth yn ystod pob un o'r pum mlynedd ddiwethaf.

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Awdurdod Lleol

2005

2006

2007

2008

2009

Ynys Môn

65

70

75

75

70

Gwynedd

140

135

155

165

160

Conwy

135

140

145

160

160

Sir Ddinbych

145

145

140

130

140

Sir y Fflint

135

145

155

155

150

Wrecsam

115

115

120

120

130

Powys

130

140

140

140

140

Ceredigion

70

60

65

70

70

Sir Benfro

160

145

160

145

140

Sir Gaerfyrddin

155

175

180

190

225

Abertawe

360

405

390

395

430

Castell-nedd Port Talbot

255

260

275

285

290

Pen-y-bont ar Ogwr

225

265

290

275

255

Bro Morgannwg

195

200

190

180

175

Caerdydd

520

530

540

520

520

Rhondda Cynon Taf

370

445

440

450

440

Merthyr Tudful

170

155

175

175

160

Caerffili

300

290

290

285

315

Blaenau Gwent

195

155

145

130

125

Tor-faen

175

175

195

205

205

Sir Fynwy

70

75

65

75

110

Casnewydd

295

305

310

300

290

Cyfanswm

4,380

4,530

4,640

4,635

4,705

Ffynhonnell: Ffurflenni SSDA 903, Uned Ddata Cymru - (Noder bod y ffigurau wedi'u talgrynnu i'r pump agosaf am resymau'n ymwneud â datgelu gwybodaeth)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei adran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54833) Trosglwyddwyd yr ateb i’r Brif Weinidog

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb i'r cwestiynau uchod ar ran pob un o'r Gweinidogion.  Nodir y ffigurau ar gyfer 2008-2009 fesul Adran Weinidogol yn y tabl isod.

Ffioedd Cyfreithiol fesul Adran Weinidogol

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adran Weinidogol

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.0

Economi a Thrafnidiaeth

1.3

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.2

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.0

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1.8

Treftadaeth

0.0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.0

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.5

Cyfanswm Cyngor Cyfreithiol

3.9

Noder: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog

Dim ond ers gwneud gwelliannau i'n systemau rheolaeth ariannol y mae'n bosibl darparu'r wybodaeth uchod. Oherwydd hyn nid oes gwybodaeth debyg am flynyddoedd blaenorol ar gael.

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei hadran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54832) Trosglwyddwyd yr ateb i’r Brif Weinidog

Rhoddwyd ateb ar 07 Hydref 2009

Y Prif Weinidog: Rwyf yn ymateb i'r cwestiynau uchod ar ran pob un o'r Gweinidogion.  Nodir y ffigurau ar gyfer 2008-2009 fesul Adran Weinidogol yn y tabl isod.

Ffioedd Cyfreithiol fesul Adran Weinidogol

Atebion i Gwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad i'w hateb ar 28 September 2009

Adran Weinidogol

2008-2009

£m

Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

0.0

Economi a Thrafnidiaeth

1.3

Yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

0.2

Cyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

0.0

Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

1.8

Treftadaeth

0.0

Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

0.0

Materion Gwledig

0.1

Adrannau Corfforaethol

0.5

Cyfanswm Cyngor Cyfreithiol

3.9

Noder: mae cyfanswm yr Adrannau Corfforaethol yn cynnwys Adran y Prif Weinidog

Dim ond ers gwneud gwelliannau i'n systemau rheolaeth ariannol y mae'n bosibl darparu'r wybodaeth uchod. Oherwydd hyn nid oes gwybodaeth debyg am flynyddoedd blaenorol ar gael.

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogi menywod sy’n dioddef trais domestig a / neu rywiol ac nad oes cymorth ar gael iddynt o gronfeydd cyhoeddus. (WAQ54810)

Rhoddwyd ateb ar 05 Hydref 2009

Mae hwn yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Yn fy ymateb ar 11 Chwefror 2009 i Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant i gam-drin domestig, esboniais fod Llywodraeth y DU yn gweithio ar fanylion cynllun cymorth newydd. Mae'r gwaith hwnnw yn parhau.

Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi manylion cost y cyfreithwyr allanol a ddefnyddiodd ei adran ym mhob blwyddyn er 2000. (WAQ54829) Trosglwyddwyd yr ateb i’r Brif Weinidog