Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 5 Tachwedd 2007 i’w hateb ar 12 Tachwedd 2007
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Aelod Gweithredol dros Ddysgu Gydol Oes yng Nghyngor Sir Caerdydd ynghylch y cynllun ad-drefnu ysgolion. (WAQ50707)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw ysgolion a gaewyd yng Nghymru er 1999 yr oedd Estyn yn eu hystyried yn llwyddiannus. (WAQ50708)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion unrhyw gyngor a roddodd ei hadran i Gyngor Sir Caerdydd ynghylch y cynigion i ad-drefnu ysgolion. (WAQ50709)
Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog roi manylion holl wariant ei hadran ym maes ymchwil a datblygu er 1999. (WAQ50702)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o (a) nyrsys ardal sy’n gweithio yn y GIG; (b) cynorthwywyr gofal iechyd cymunedol sy’n gweithio ochr yn ochr â nyrsys cymunedol a sut y mae’r darlun hwn wedi newid er 1999. (WAQ50703)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o weithwyr cefnogaeth mamolaeth a gyflogir yn y GIG a beth oedd y ffigur hwnnw ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol. (WAQ50704)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Faint o fydwragedd a gyflogir yng Nghymru yn y GIG a sut y mae hyn yn cymharu â’r 5 blwyddyn ariannol flaenorol. (WAQ50705)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Gan roi manylion pob blwyddyn ariannol er 1999, beth fu gorwariant neu tanwariant awdurdodau lleol ar wasanaethau cymdeithasol. (WAQ50706)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw’r diffyg sydd wedi cronni ar hyn o bryd ar gyfer GIG Cymru gan ystyried Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIG a Chomisiwn Iechyd Cymru. (WAQ50726)
Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd): Beth yw’r diffyg cyfredol a ragwelir ar gyfer (a) Byrddau Iechyd Lleol; (b) Ymddiriedolaethau GIG a (c) Comisiwn Iechyd Cymru. (WAQ50727)