29/01/2009 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22ain Ionawr 2009 i’w hateb ar 29ain Ionawr 2009

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i wario ar gynghorwyr arbennig, gan gynnwys cyflogau, treuliau a’r holl gostau cysylltiedig, ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53180)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl cynghorydd arbennig y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i gyflogi ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53181)

Gofyn i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl ysgol yng Nghymru sydd ddim yn cydymffurfio â rheoliadau statudol yn ymwneud â diangfeydd tân. (WAQ53191)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Sawl ysgol yng Nghymru sydd ddim yn cydymffurfio â rheoliadau statudol yn ymwneud â mynediad ar gyfer pobl anabl. (WAQ53192)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog egluro sut y caiff ysgolion eu harchwilio’n flynyddol i asesu cyflwr yr adeiladau. (WAQ53193)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau y gallai hi fod wedi’u cael am argymhellion yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb. (WAQ53194)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Beth yw nifer cyfartalog y dyddiau y mae athrawon yn absennol oherwydd salwch ym mhob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53195)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint gaiff ei wario ar athrawon llanw pan fo athrawon yn sâl ym mhob Awdurdod Addysg Lleol yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53196)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wersi coginio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru. (WAQ53197)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael ynghylch posibilrwydd gwneud gwersi coginio’n orfodol mewn amrywiol Gyfnodau Allweddol. (WAQ53198)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y disgyblion sy’n astudio pob pwnc ar lefel TGAU a darparu ffigurau ar gyfer y nifer sy’n pasio neu’n cael gradd A* - C ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53199)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gyfran o fyfyrwyr Addysg Uwch sy’n methu â graddio neu sy’n rhoi’r gorau i’w cyrsiau’n gynnar ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer pob sefydliad Addysg Uwch er 1999. (WAQ53200)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o raddedigion sydd wedi methu â dod o hyd i gyflogaeth bum mlynedd ar ôl graddio. (WAQ53201)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gyfran o fyfyrwyr Addysg Llawn Amser sy’n methu â graddio neu sy’n rhoi’r gorau i’w cyrsiau’n gynnar ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer pob sefydliad Addysg Bellach er 1999.  (WAQ53202)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o fyfyrwyr sydd wedi graddio o sefydliadau Addysg Uwch er 1999 ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer pob sefydliad Addysg Uwch. (WAQ53203)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Faint o fyfyrwyr Addysg Bellach sy’n astudio cyrsiau’n rhan amser ac a wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer pob sefydliad Addysg Bellach ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53204)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud am nifer y swyddi i raddedigion sydd ar gael yn economi Cymru. (WAQ53190)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Mike German (Dwyrain De Cymru): A ddefnyddir canlyniadau’r ymchwiliad i effaith amgylcheddol Ffos-y-Fran fel sail i arfer gorau yn Ffos-y-Fran ei hun yn ogystal â datblygiadau glo brig eraill yn y dyfodol neu a fydd yn sail i arfer gorau ar gyfer datblygiadau i’r dyfodol yn unig.  (WAQ53185)

Lesley Griffiths (Wrecsam): Faint o ddefnydd sydd wedi’i wneud o’r grant Microgynhyrchu, fesul Awdurdod Lleol, ers i’r grant gael ei gyflwyno. (WAQ53187)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lesley Griffiths (Wrecsam): Faint o ferched sydd wedi cael y brechiad HPV dynol ym mhob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru ers iddo gael ei gyflwyno. (WAQ53186)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu ffigurau ar gyfer nifer y presgripsiynau methadone yng Nghymru ym mhob blwyddyn er 1999. (WAQ53189)

Gofyn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Lesley Griffiths (Wrecsam): Faint o bobl a gyflogir yn y diwydiant twristiaeth ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru a sut mae hwn yn cymharu â 1999. (WAQ53188)

Gofyn i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynnydd y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o ran llunio strategaeth i leihau troseddau casineb. (WAQ53182)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i bolisi’r Comisiwn Ewropeaidd ar gyflwyno tagiau adnabod electronig gorfodol ar gyfer defaid yng Nghymru yn dilyn eich cyfarfod â’r Comisiynydd Vassiliou ar y 19eg o Ionawr. (WAQ53183)

Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa newidiadau sydd wedi cael eu gwneud i bolisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyflwyno tagiau adnabod electronig gorfodol ar gyfer defaid yn dilyn eich cyfarfod â’r Comisiynydd Vassiliou ar y 19eg o Ionawr. (WAQ53184)