29/02/2012 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Chwefror 2012 i’w hateb ar 29 Chwefror 2012

R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa ymchwiliadau neu asesiadau risg sydd wedi cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru i ystyried uniondeb y rheolaethau ariannol sydd ar waith mewn cyrff a noddir gan y llywodraeth neu fudiadau sy’n derbyn cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru. (WAQ59801)

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Mewn ymateb i’w llythyr â’r cyfeirnod LG/05424/12, a wnaiff y Gweinidog amlinellu pwy fydd yn arwain yr adolygiad i’r broses Gymru Gyfan ar gyfer Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol a beth yw cylch gorchwyl yr adolygiad. (WAQ59814)

Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth

Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi manylion pob dangosydd perfformiad allweddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a pherfformiad yr Ardd wrth gymharu â phob dangosydd dros y 2 flynedd diwethaf. (WAQ59813)