29/04/2008 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Ebrill 2008 i’w hateb ar 29 Ebrill 2008

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n eu cymryd i helpu prynwyr am y tro cyntaf gael eu troed ar yr ysgol eiddo, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig megis Brycheiniog a Sir Faesyfed. (WAQ51634)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddilyn y safonau model newydd ar gyfer cartrefi mewn parciau a gyhoeddwyd yn Lloegr ar 3ydd Ebrill. (WAQ51640)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sefydlu datrys anghydfodau cost isel pan fydd yr awdurdodaeth yn cael ei throsglwyddo o’r llys i’r gwasanaeth tribiwnlys eiddo preswyl ar gyfer datrys anghydfodau ar stadau cartrefi mewn parciau. (WAQ51641)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i ddiwygio’r cyfreithiau trwyddedu yng nghyswllt deddfwriaeth Cartrefi mewn Parciau i gynnwys gofyniad personol addas a phriodol ar gyfer perchnogion parciau yn nhrwyddedau’r safle. (WAQ51642)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd cyhoeddi cyfamod adran 106 model ar gyfer awdurdodau lleol a fydd yn dderbyniol i'r rheini sy'n darparu benthyciadau. (WAQ51645)

Gofyn i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa ystyriaeth y mae’r Gweinidog wedi’i rhoi i gynyddu swyddogaeth ceiropracteg y GIG. (WAQ51635)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A all y Gweinidog gadarnhau na fydd y cynlluniau cyfredol ar gyfer ail-gyflunio’r GIG yng Nghymru yn golygu y bydd gwasanaethau adsefydlu cardiaidd yn colli blaenoriaeth mewn byrddau iechyd lleol. (WAQ51636)

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae’r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod yr adnoddau a neilltuwyd gan fyrddau iechyd lleol ar gyfer gwasanaethau adsefydlu cardiaidd yn arwain at ddarparu gwasanaethau mewn termau real ar ôl ailgyflunio GIG Cymru.

Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd yr adnoddau a neilltuwyd gan fyrddau iechyd lleol ar gyfer gwasanaethau adsefydlu cardiaidd yn arwain at ddarparu gwasanaethau mewn termau real ar ôl ailgyflunio GIG Cymru. (WAQ51638)

Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y caiff y taliadau hwyr dan y Cynllun ffermio organig eu gwneud. (WAQ51639)

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu grantiau drwy’r cynllun "Pub is the Hub”, ac amlinellu pa drafodaethau y mae’r Gweinidog a’i swyddogion wedi’u cael gyda threfnwyr y cynllun ynghylch posibilrwydd ei weithredu yma yng Nghymru. (WAQ51643)

Peter Black (Gorllewin De Cymru): A yw’r Gweinidog yn bwriadu y bydd yr is-ddeddfwriaeth arfaethedig sy’n pennu bod Twbercwlosis yn glefyd at ddibenion Adran 62D Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn cael ei defnyddio i roi pŵer i fynd ar safle i arolygwyr milfeddygol ar gyfer safleoedd bywyd gwyllt er mwyn profi anifeiliaid gwyllt am TB (WAQ51644)