29/04/2013 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 13/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 13/06/2014

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 22 Ebrill 2013 i’w hateb ar 29 Ebrill 2013

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Gofyn i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd ers dechrau’r pedwerydd Cynulliad i wella cyfranogiad mewn chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghanol De Cymru. (WAQ64595)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol yng Nghymru parthed darparu cyfleusterau ar gyfer chwaraeon amatur yng Nghymru, a chost cyfleusterau o’r fath. (WAQ64596)

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o fanteision cymryd rhan mewn chwaraeon i iechyd y cyhoedd, a pha gamau sy’n cael eu cymryd i hyrwyddo gweithgareddau chwaraeon ymysg oedolion yng Nghymru. (WAQ64597)

Gofyn i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog nodi nifer y gweithwyr cyfwerth ag amser llawn sy’n gweithio i Croeso Cymru, gan roi'r ffigur presennol a’r ffigurau ar gyfer pob un o’r tair blynedd ariannol diwethaf. (WAQ64594)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at ailsefydlu cyswllt rheilffordd uniongyrchol rhwng Lerpwl a Gogledd Cymru. (WAQ64598)

Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): Pa ddarpariaeth sy'n cael ei gwneud yn y setliad ariannu ar gyfer addysg ôl-16 ar gyfer cost ychwanegol adnoddau cyfrwng Cymraeg. (WAQ64593)