Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Ionawr 2013 i’w hateb ar 30 Ionawr 2013
R – Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W – Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i ddefnyddio'r Gymraeg i hybu twristiaeth i Gymru. (WAQ62019)
Eluned Parrott (Canol De Cymru): A oes gan y Gweinidog ddyddiad cyhoeddi pendant i gyhoeddi cynllun cyflenwi ar gyfer ‘Gwyddoniaeth i Gymru’ fel y nodir yn ei datganiad ysgrifenedig dyddiedig 03/01/12, ac os felly, beth yw’r dyddiad. (WAQ62025)
Gofyn i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyfeiriad y mae’r Gweinidog wedi’i roi ynghylch astudiaeth cylch gwaith wedi’i diweddaru o elfen Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang y cwricwlwm. (WAQ62005)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog gadarnhau nifer y cyfarfodydd y mae wedi’u cael gyda Chomisiynydd y Gymraeg hyd yn hyn, gan gynnwys dyddiadau’r cyfarfodydd hynny a’r hyn a drafodwyd. (WAQ62018)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw’r ffigur ar gyfer nifer y disgyblion yn yr ysgolion a roddwyd ym mandiau 4 a 5 ym mis Rhagfyr 2011 ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ62023)W
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw'r ffigur ar gyfer nifer y staff addysgu yn yr ysgolion a roddwyd ym mandiau 4 a 5 ym mis Rhagfyr 2011 ar gyfer pob un o’r pum mlynedd diwethaf. (WAQ62024)W
Gofyn i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa ymrwymiadau y mae’r Gweinidog wedi’u gwneud ar y cyd â’i gyd-aelodau o NRG4SD (Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy) o ganlyniad i Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd, Doha 2012. (WAQ62004)
Gofyn i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog bennu a yw pob grant sy’n bodoli ar hyn o bryd wedi cael ei ddadansoddi yn ôl y safonau gofynnol newydd ar gyfer rheoli grantiau a ddatblygwyd gan y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau. (WAQ62013)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog bennu a yw’r safonau gofynnol newydd ar gyfer rheoli grantiau ar gael i’r rheini sy’n ymgeisio am grant o’r newydd. (WAQ62014)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog bennu a fydd y safonau gofynnol newydd ar gyfer rheoli grantiau yn cael eu hailwerthuso drwy gydol oes y grant, ac os felly, pa mor aml. (WAQ62015)
Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog bennu a fydd gofynion cyffredinol y safonau gofynnol newydd ar gyfer rheoli grantiau, fel y cyfeirir atynt yn WAQ61608, ar gael i’r cyhoedd. (WAQ62016)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser ceg y groth ymysg menywod ifanc. (WAQ62020)
Elin Jones (Ceredigion): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect Cylch Caron yn Nhregaron, Ceredigion. (WAQ62021)
Gofyn i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru): Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o gyflwr y Morglawdd yng Nghaergybi a pha drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael â Stena Ports Ltd. ynghylch ei gynnal a’i gadw a’i drwsio. (WAQ62017)
Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi’u cael gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ynglyn â diogelwch Heol Pembre y tu allan i Ysgol Pentip. (WAQ62022)W
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa gynlluniau, os o gwbl, sydd gan y Gweinidog i ganiatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru osod cyfraddau'r dreth gyngor yn uwch ar gyfer ail gartrefi. (WAQ62026)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa bwerau, os o gwbl, sydd gan y Gweinidog i ddylanwadu ar brisiau tocynnau trenau ar fasnachfraint Cymru a’r Gororau. (WAQ62027)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa ddulliau polisi sydd gan y Gweinidog sy’n gallu dylanwadau ar brisiau tocynnau bysiau yng Nghymru. (WAQ62028)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Beth yw’r effeithiau a ddisgwylir yn sgîl newidiadau’r Gweinidog i gymhorthdal bysiau ar lefel y cyllid sydd ar gael ar gyfer Bwcabus yn ystod 2013/14 a'r tu hwnt. (WAQ62029)