30/01/2015 - Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 26/01/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/03/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Ionawr 2015 i'w hateb ar 30 Ionawr 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i Brif Weinidog Cymru

Eluned Parrott (Canol De Cymru): Faint o sefydliadau a gyflwynodd cais ar gyfer y contract i redeg seilwaith cefnogi'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica ar gyfer 2015-18 ac, o gofio mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais oedd mis Tachwedd 2014, pryd y bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi? (WAQ68275)

Derbyniwyd ateb ar 3 Chwefror 2015

Y Prif Weinidog o Cymru (Carywn Jones): Only one eligible bid to run the Wales for Africa grant was received. The successful bidder has been informed. No formal announcement is planned. A launch event will be held to coincide with the start of the new programme in April 2015.