30/04/2015 - Cwestiynau ac Atebion Ysgrifenedig y Cynulliad

Cyhoeddwyd 24/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/05/2015

Cwestiynau Ysgrifenedig y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Ebrill 2015 i'w hateb ar 30 Ebrill 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

Rhaid cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb.  Yn ymarferol, bydd Gweinidogion yn ceisio ateb o fewn saith neu wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny.  Caiff yr atebion eu cyhoeddi yn yr iaith y maent yn cael eu darparu, gyda chyfieithiad i'r Saesneg o ymatebion a ddarperir yn Gymraeg.

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog nodi pa gostau ychwanegol sydd wedi codi o ganlyniad i waith atgyweirio a chynnal a chadw parhaus i amddiffyniad môr traeth y gogledd yn Llandudno a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yn flaenorol? (WAQ68653)

Derbyniwyd ateb ar 01 Mai 2015

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol (Carl Sargeant): Conwy County Borough Council have confirmed that the sea defence works funded by the Welsh Government at Llandudno North Shore were completed under budget. Conwy Council are responsible for any further/ongoing maintenance.

 

Gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Andrew RT Davies (Canol De Cymru):  A wnaiff y Gweinidog nodi manylion pa ganllawiau, os o gwbl, sy'n cael eu rhoi i fyrddau iechyd mewn perthynas â'r defnydd o driniaethau ysgogi trydanol gweithredol ar gyfer cleifion MS ac, os y cyhoeddwyd canllawiau o'r fath, pryd y byddant yn cael eu hadolygu? (WAQ68632)

Derbyniwyd ateb ar 5 Mai 2015


Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Mark Drakeford):
 The Neurological Conditions Delivery Plan, published in May 2014, sets out our expectation that national guidelines – such as the National Institute for Health and Care Excellence (NICE) guidelines on Functional Electrical Stimulation, issued in January 2009 – are taken into account by clinicians when exercising their professional judgement in providing the best treatment and services for patients.

The guidance does not override the responsibility of healthcare professionals and others to make decisions appropriate to the circumstances of each patient.  These decisions should be made in consultation with, and with the agreement of, the individual.