31/01/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 31 Ionawr 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 31 Ionawr 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai

Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw amserlen Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer adolygu TAN 8: Ynni Adnewyddadwy? (WAQ51007)

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai (Jane Davidson): Mae cytundeb 'Cymru'n Un’ yn nodi’n glir y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn adolygu TAN 8, gan adolygu’r targedau ar gyfer cael ynni o ffynonellau adnewyddadwy ar i fyny, a ddaw o amrywiol ffynonellau, yn dilyn y broses o gynhyrchu map llwybr ynni a strategaeth ynni Llywodraeth y Cynulliad.  Mae gwaith ar y gweill i gyhoeddi’r map llwybr ynni adnewyddadwy ar gyfer ymgynghoriad ym mis Chwefror. Pan fydd cyd-destun y polisi ynni cyffredinol wedi’i gwblhau, gan gynnwys unrhyw dargedau wedi’u hadolygu, bydd adolygiad o TAN 8 yn dechrau. Mae hyn yn debygol o ddigwydd ar ddechrau 2009.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): Pa adolygiad y mae’r Gweinidog wedi’i gynnal o broses benderfynu apeliadau gwrychoedd neu berthi uchel a’r amser a gymerir ar eu cyfer? (WAQ51047)

Jane Davidson:  Nid oes unrhyw adolygiad o ran y broses o wneud penderfyniad ynglŷn â chloddiau uchel ers ei gyflwyno ond, yn unol â’r ymrwymiad a roddwyd pan ddaeth y system gwyno ar waith, caiff y system gyfan ei hadolygu bum mlynedd ar ôl i’r ddeddfwriaeth berthnasol ddod i rym er mwyn asesu ei heffeithiolrwydd—h.y. yn 2009. Rhoddir ystyriaeth lawn i unrhyw gwynion a dderbynnir am apêl a rhoddir ymateb mor llawn â phosibl, er bod yn rhaid i mi bwysleisio mai’r unig ffordd o newid penderfyniad apêl yw cynnal adolygiad barnwrol o benderfyniad yr arolygydd. Mae Hedgeline wedi codi nifer o bryderon am y ffordd y mae’r system apeliadau yng Nghymru yn gweithio ac mae’r pryderon hynny wrthi’n cael eu hystyried gan fy swyddogion.

Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog restru nifer yr apeliadau cyfraith gwrychoedd neu berthi uchel a gynhaliwyd neu a wrthodwyd ers cyflwyno’r gyfraith? (WAQ51048)

Jane Davidson:  Atodir tabl sy’n darparu’r wybodaeth y gofynnoch amdani.

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 31 Ionawr 2008

Rhif Cyfeirnod

ACLl

Cyhoeddwyd

Penderfyniad

Apelydd = Perchennog neu Achwynydd?

514876

RhCT

21-Mawrth-07

Gwrthodwyd

Achwynydd

514874

RhCT

21-Mawrth-07

Gwrthodwyd

Achwynydd

514782

Trefynwy

14-Medi-06

Caniatawyd

Perchennog

514793

Abertawe

01-Tachwedd-06

Gwrthodwyd

Achwynydd

514794

Abertawe

01-Tachwedd-06

Gwrthodwyd

Achwynydd

514760

Abertawe

24-Hydref-06

Caniatawyd

Perchennog

514754

Abertawe

24-Hydref-06

Caniatawyd

Achwynydd

514853

NPT

21-Rhagfyr-06

Caniatawyd

Perchennog

514753

Bro Morgannwg

23-Mehefin-06

Caniatawyd

Perchennog

514877

Ynys Môn

20-Mawrth-07

Gwrthodwyd

Achwynydd

514768

NPT

08-Awst-06

Caniatawyd

Perchennog

514870

Caerdydd

08-Mawrth-07

Caniatawyd

Perchennog

514805

Fflint

10-Tachwedd-06

Gwrthodwyd

Achwynydd

514742

Trefynwy

23-Mehefin-06

Gwrthodwyd

Achwynydd

514761

Abertawe

25-Hydref-06

Gwrthodwyd

Achwynydd

514756

Abertawe

27-Hydref-06

Gwrthodwyd

Achwynydd

514923

Fflint

07-Mehefin-07

Caniatawyd

Perchennog

514924

Fflint

07-Mehefin-07

Caniatawyd

Perchennog

514925

Fflint

07-Mehefin-07

Caniatawyd

Perchennog

514926

Fflint

07-Mehefin-07

Caniatawyd

Perchennog

514856

Caerdydd

06-Awst-07

Caniatawyd

Perchennog

514905

Bro Morgannwg

25-Mai-07

Caniatawyd

Perchennog

514901

Caerdydd

02-Awst-07

Caniatawyd

Perchennog

514951

Caerdydd

11-Hydref-07

Caniatawyd

Perchennog

514984

Abertawe

30-Tachwedd-07

Caniatawyd

Perchennog

514875

Ceredigion

08-Mawrth-07

Caniatawyd

Perchennog

514908

Gwynedd

13-Awst-07

Gwrthodwyd

Achwynydd

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Michael German (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddarparu copi o’r holl ohebiaeth a negeseuon e-bost a anfonwyd ac a dderbyniwyd yn ystod y deuddeg mis diwethaf yng nghyswllt Prosiect Capel Soar (Neuadd Soar, Pont Morlais, Merthyr Tudful)? (WAQ51014)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Rhodri Glyn Thomas):Ymdrinir â’ch cais fel cais am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.  Bydd fy swyddogion yn cysylltu â chi yn unol â hynny.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr apeliadau cam 1 a wnaethpwyd yn erbyn dyraniadau taliad sengl ar gyfer 2007? (WAQ51022)

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig (Elin Jones): Dechreuwyd rhoi taliadau sengl ar 3 Rhagfyr 2007.  Erbyn 25 Ionawr 2008, mae dros 14,500 o ffermwyr yng Nghymru wedi cael taliad 2007 ac mae 30 o apeliadau cam 1 taliad sengl 2007 wedi’u cofnodi.