31/10/2008 - Atebion a roddwyd i Aelodau ar 31 Hydref 2008

Cyhoeddwyd 06/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/06/2014

Atebion a roddwyd i Aelodau ar 31 Hydref 2008

[R] yn nodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
[W] yn nodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

Cynnwys

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn WAQ45315, a all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymateb? (WAQ52666)

Darren Millar (Gorllewin Clwyd): Yn dilyn WAQ45316, a all y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymateb? (WAQ52667)

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Edwina Hart): Lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Gronfa Ynni Ganolog yn 2006, gan ddarparu £3.1 miliwn ar gyfer cynlluniau buddsoddi ynni effeithlon.

Gosodwyd boeleri bio-màs mewn ysbytai newydd sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd a chaiff y systemau hyn a systemau ynni adnewyddadwy arall eu gwerthuso.

Nododd astudiaeth o dyrbinau gwynt ar y safle bedwar safle posibl ar gyfer ynni gwynt ac mae ymchwiliad manwl yn mynd rhagddo ar hyn o bryd yn Llwynhelyg, y safle mwyaf addawol.

Defnyddir trydan solar ffotofoltäig yn Ysbyty Bronllys sy’n gallu bodloni hanner galw’r ysbyty pan fydd yn gweithredu i’r eithaf.

Datblygwyd nifer o fentrau i hyrwyddo ynni carbon isel ac ynni adnewyddadwy gan sefydliadau’r GIG. Datblygwyd safon Gofal Iechyd BREEAM newydd sy’n cynnwys asesu perfformiad ynni cynlluniau newydd.

Caiff technolegau carbon isel eu hyrwyddo hefyd gyda nifer o gynlluniau Gwresogi ac Ynni Cyfun yn yr arfaeth, gyda’r mwyaf yn cael ei adeiladu yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladau rhestredig hanesyddol y mae awdurdodau lleol yn berchen arnynt? (WAQ52664)

Y Gweinidog dros Dreftadaeth (Alun Ffred Jones): Mae’r cylchlythyr a gyhoeddwyd yn nodi y dylai awdurdodau lleol reoli eu hadeiladau rhestredig mewn ffyrdd sy’n rhoi enghreifftiau o arfer da i berchnogion eraill. Dylent wneud pob ymdrech i gadw adeiladau hanesyddol mewn cyflwr da, ac i ddod o hyd i ddefnyddiau newydd priodol ar gyfer adeiladau sy’n eiddo i’r awdurdod na wneir defnydd gweithredol ohonynt mwyach.

Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i sicrhau bod darparwyr cyngor presennol yn parhau i gael digon o gyllid yn dilyn proses dendro’r Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol dan y strategaeth 'Gwneud Hawliau Cyfreithiol yn Realaeth yng Nghymru’? (WAQ52674)

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol (Brian Gibbons): Mae gan lawer o ddarparwyr cyngor presennol hanes cyfoethog o gyflwyno tendrau am wasanaethau a dylid cydnabod y cyfle a allai godi o’r datblygiadau hyn.

Mae’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, Cymdeithas y Cyfreithwyr a’r Gynghrair Gwasanaethau Cyngor wedi cynnal gweithdai ar Sut i Dendro, a oedd ar gael i bob darparwr. Cynigir sesiynau pellach hefyd. Trefnwyd sesiwn i’r de yng Nghaerffili ar 11eg Tachwedd 2008 - mae cynlluniau ar gyfer digwyddiad tebyg yn y gogledd ond ni chadarnhawyd y dyddiad eto.

Rydym yn ymrwymedig i broses ymgynghori barhaus wrth i gynlluniau ar gyfer CLANs ddatblygu. Cynhelir cyfarfodydd agored ym mhob ardal unwaith y bydd trafodaethau wedi datblygu i’r pwynt lle y mae gwybodaeth ddefnyddiol i’w chyflwyno a chyfle go iawn i ymgysylltu a chael barn.

Mick Bates (Sir Drefaldwyn): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud o effaith tendro cystadleuol a marchnadeiddio Gwasanaethau Cyfreithiol Cymunedol, dan strategaeth 'Gwneud Hawliau Cyfreithiol yn Realaeth yng Nghymru’ Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, ar ddyfodol gwasanaethau cynghori yng Nghymru? (WAQ52675)

Brian Gibbons: Bwriad 'Gwneud Hawliau Cyfreithiol yn Realaeth yng Nghymru’ yw darparu gwasanaeth cyngor cynhwysfawr i ddinasyddion Cymru.

Hyd yma, llywodraethwyd cyngor cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus gan leoliad darparwyr cyngor. Bellach mae’n hanfodol rhoi’r dinesydd wrth wraidd y broses o ddarparu gwasanaethau fel y gellir diwallu eu hanghenion.

Mae’n hanfodol diogelu gwasanaethau’r darparwyr cyngor gorau, cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf, yn seiliedig ar asesiad o anghenion ffurfiol ac sy’n cwmpasu proses ymgynghori agored. Rhaid i ni wneud y defnydd gorau o’r arian sydd ar gael gennym i gyflawni’r budd gorau o arian cyhoeddus yn unol â pholisïau a blaenoriaethau Llywodraeth 'Cymru’n Un’.