Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 1 Rhagfyr 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Tachwedd 2015
NDM5891 Edwina Hart (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter sy'n ymwneud â'r Comisiynydd Busnesau Bach, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm rhif 2) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Hydref 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Bil Menter Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig)
NDM5892 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Menter, sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth am ardrethi annomestig gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Y Bil Menter Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig)
NDM5894 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Hydref 2015.
NDM5895 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Hydref 2015.