02/12/2008 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 02 Rhagfyr 2008

Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Tachwedd 2008

NDM4065

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 24.4

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  11 Tachwedd 2008 mewn perthynas â’r gorchymyn drafft, Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008; a

2. Yn cymeradwyo bod y gorchymyn drafft, Rheoliadau Anffurfio (Triniaethau a Ganiateir) (Cymru) (Diwygio) 2008, yn cael ei wneud yn unol ag:

a) y drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2008; a

b) y Memorandwm Esboniadol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Hydref 2008.

NDM4066

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2007-08; a

2. Yn nodi y bydd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn llunio ymateb ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru ac y bydd yn cyflwyno adroddiad yn ei gylch i’r Cynulliad Cenedlaethol erbyn 31 Mawrth 2009.

Gellir gweld y Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2007-08 ar y ddolen ganlynol:

h

ttp://www.childcom.org.uk/publications/Annual_review08_cymraeg.pdf

NDM4067

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r papur ymgynghori "Strategaeth Swyddi Gwyrdd i Gymru: Ymgynghoriad”.

E-bostiwyd copi o’r ddogfen ymgynghori ar Strategaeth Swyddi Gwyrdd i Gymru at Aelodau’r Cynulliad ar 18 Tachwedd 2008.

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mab

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Tachwedd 2008

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4066

William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu’r toriadau termau real mewn cyllid i Gomisiynydd Plant Cymru, a gynigir yng Nghyllideb Ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Gosodwyd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2008

NDM4067

1. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu cronfa swyddi gwyrdd ar draws pob portffolio er mwyn sicrhau bod digon o arian ar gael i roi’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd ar waith.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi gyda phryder bod diweithdra’n codi’n gyflymach yng Nghymru nag yn unrhyw genedl arall yn y Deyrnas Unedig ac felly’n gresynu na allodd Llywodraeth y Cynulliad gynhyrchu Strategaeth Swyddi Gwyrdd yn gynt.

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y potensial i’r sector gwyrdd dyfu yng Nghymru yn ystod y dirywiad economaidd presennol.