02/12/2014 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 25/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/11/2014

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 2 Rhagfyr 2014

Cynigion a gyflwynwyd ar 25 Tachwedd 2014

NDM5640 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn nodi:

a) yr effaith a gafwyd ar gaffael cyhoeddus ers lansio Datganiad Polisi Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012;

b) y bydd Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cael ei adolygu i fanteisio ar y newidiadau sydd ar fin digwydd i ddeddfwriaeth caffael yn yr UE a'r DU.

I weld Datganiad Polisi Caffael Cymru, ewch i'r linc a ganlyn: http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2012/welshprocurement/?skip=1&lang=cy

NDM5641 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu'r strategaeth camddefnyddio sylweddau 'Gweithio gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' fel y manylir arno yn adroddiad blynyddol 2014.

I weld adroddiad blynyddol 2014 ar y strategaeth camddefnyddio sylweddau, ewch i'r linc a ganlyn:

http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/safety/substancemisuse/publications/strategy0818/?skip=1&lang=cy

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 26 Tachwedd 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5640

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod:

a) yr effaith gadarnhaol y gall cynyddu cyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru ei chael ar yr economi a'r farchnad lafur;

b) cyfrifiad Gwerth Cymru y bydd pob cynnydd o 1% yng nghyfran y tendrau yn y sector cyhoeddus a gaiff eu dyfarnu i gwmnïau o Gymru yn creu 2,000 o swyddi newydd.

2. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fanteisio ar y newidiadau yn rheolau caffael yr UE ac anelu at ddyfarnu o leiaf 75% o dendrau sector cyhoeddus i gwmnïau o Gymru.

3. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu i'w gwneud yn orfodol bod sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn dilyn polisi caffael Llywodraeth Cymru.

NDM5641

1. Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi gweithwyr sydd â phroblemau mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau drwy ymyrraeth gynnar a chefnogaeth i gynnal cyflogaeth.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 27 Tachwedd 2014

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5640

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu diweddariadau rheolaidd ynghylch y broses o fabwysiadu Datganiad Polisi Caffael Cymru gan awdurdodau lleol a'r contractau y maent yn eu dyfarnu.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y gyfran isel o gontractau sy'n mynd i gwmnïau sydd â phencadlys yng Nghymru.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod cyrff cyhoeddus yn asesu'r economi leol cyn penderfynu sut y dylai contractau caffael cyhoeddus gael eu bwndelu.

NDM5641

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn llongyfarch arloeswyr therapi dibyniaeth a dulliau sy'n seiliedig ar adfer yng Nghymru.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at oedi Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno gwasanaethau haen 4 ar gyfer adsefydlu preswyl a gwasanaethau dadwenwyno cleifion mewn ysbytai ar sail gynaliadwy a thymor hir yng Nghymru.

3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu cyhoeddi adroddiad y Swyddfa Gartref 'Drugs: International Comparators' ac yn credu mai'r ffordd orau o helpu defnyddwyr cyffuriau yw drwy drin camddefnyddio sylweddau fel mater iechyd yn bennaf yn hytrach na mater troseddol.

Mae'r adroddiad hwn ar gael yn:  https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/368489/DrugsInternationalComparators.pdf  (Saesneg yn unig)