04/10/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 27/09/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/09/2016

​Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 4 Hydref 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Medi 2016

NDM6106 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2016.

NDM6107 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 11.21(ii):

Yn nodi blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

'Y Rhaglen Lywodraethu'

'Rhaglen Ddeddfwriaethol 2016-17'

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 29 Medi 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6107
 
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu a'r rhaglen ddeddfwriaethol yn ennyn yr hyder na'r manylion sydd eu hangen i wella cyfleoedd bywyd pobl a chymunedau ledled Cymru.
 
2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru yn nodi agenda fwy uchelgeisiol a chynhwysfawr i Gymru yn ystod y Pumed Cynulliad.

'Rhaglen yr Wrthblaid Plaid Cymru'
 
3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at ddiffyg mesurau perfformiad yn y Rhaglen Lywodraethu a fyddai'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol a dinasyddion Cymru i werthuso cynnydd Llywodraeth Cymru o ran blaenoriaethau.
 
4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw'r Rhaglen Lywodraethu yn cyfeirio at y ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a methiant Llywodraeth Cymru i amlinellu'r mesurau y mae'n bwriadu eu cyflwyno i fynd i'r afael â chanlyniadau'r penderfyniad hwn i Gymru.
 
5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y diffyg manylion yn y Rhaglen Lywodraethu ynghylch y mesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gyflawni'r blaenoriaethau a gaiff eu hamlinellu ynddi.
 
6. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
 
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynllunio ei rhaglen ddeddfwriaethol i sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo i graffu ar filiau gan y Cynulliad Cenedlaethol.