06/11/2007 - Cynigion â Dyddiad Trafod

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 6 Tachwedd 2007

Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Hydref 2007

NDM3702

Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Wythfed Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Gydraddoldeb a’i Chrynodeb Gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2006-2007, y gosodwyd copi ohonynt yn y Swyddfa Gyflwyno ac e-bostio i Aeoldau ar 30 Hydref 2007.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 6 Tachwedd 2007

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM3702

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi’u creu ar gyfer pob adroddiad cydraddoldeb yn y dyfodol.

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i sicrhau y caiff Rhaglen Hyfforddiant Cydraddoldeb ei darparu ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.  

3. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder ynghylch annigonolrwydd y sail dystiolaeth sydd gan Lywodraeth y Cynulliad i gynllunio dyrannu adnoddau’n llwyddiannus ar gyfer gweithwyr mudol yng Nghymru.