Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 7 Mawrth 2012
Cynnig a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd 2011
NNDM4863
Llyr Huws Gruffydd (Gogledd Cymru)
Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yn hybu cyllid a gweithgarwch sy’n canolbwyntio ar alluogi ystod eang o ddulliau teithio cynaliadwy a charbon isel mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys Parciau Cenedlaethol.
Gellir gweld y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy
Gyda chefnogaeth:
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Chwefror 2012
Dadl Fer
NDM4929 Aled Roberts (Gogledd Cymru): “Clywch, Clywch” – Gwella Acwsteg yn yr Ystafell Ddosbarth
Mae’r ddadl fer hon yn ceisio tynnu sylw at yr anawsterau y mae plant ysgol â nam ar eu clyw yn eu hwynebu wrth geisio dilyn eu hathro mewn ystafell ddosbarth ag acwsteg wael, a chefnogi galwadau am roi mwy o ystyriaeth i acwsteg wrth ddylunio ysgolion ac ystafelloedd dosbarth newydd.
NDM4930
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu penderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu cyllid i roi’r cyfle i awdurdodau lleol Lloegr rewi’r Dreth Gyngor am yr ail flwyddyn yn olynol, ac yn nodi y bydd oddeutu 90 y cant o Gynghorau Lloegr yn defnyddio’r arian hwn i sicrhau na fydd cartrefi’n wynebu cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf.
2. Yn nodi cyhoeddiad Llywodraeth yr Alban y bydd pob awdurdod lleol yn yr Alban yn rhewi’r Dreth Gyngor ar gyfer 2012/2013, ac yn nodi ei bod wedi dechrau rhewi’r Dreth Gyngor yn 2008/2009.
3. Yn gresynu’n fawr wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i gynghorau Cymru, gan wrthod y cyfle i'r 22 awdurdod lleol rewi'r dreth gyngor.
4. Yn gresynu ymhellach yr amcangyfrifir y bydd y dreth gyngor yng Nghymru yn cynyddu bron i 2.2 y cant ar gyfartaledd dros y flwyddyn nesaf.
5. Yn mynegi siom nad yw'r rhan fwyaf o gartrefi Cymru wedi cael cymorth gyda chostau byw beunyddiol o ganlyniad i fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol i awdurdodau lleol.
NDM4931
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i gyflwyno ysgogiad ariannol cynhwysfawr ar gyfer yr economi, sy’n cynnwys buddsoddiad cyfalaf a ddaw o ffrydiau ariannu’r tu allan i’r grant bloc; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno pecyn o brosiectau cyfalaf a mesurau pellach i gefnogi busnesau ac i ddiogelu swyddi.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4930
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 1, ar ôl ‘y flwyddyn nesaf’ rhoi ‘ac yn croesawu’r £38.9 miliwn o gyllid ychwanegol i Gymru o ganlyniad.
2. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 3.
3. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Dileu pwynt 5.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y bydd cynghorau’n elwa o refeniw ychwanegol drwy fwy o weithgarwch economaidd yn eu hardaloedd, ac yn croesawu’r pecyn ysgogi economaidd gwerth £38.9 miliwn, a fydd yn ceisio darparu gweithgarwch economaidd ychwanegol.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Mawrth 2012
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4930
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 1, dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le.
2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn nodi bod y dreth gyngor yng Nghymru eisoes 19% yn is nag yn Lloegr ac y bydd yn parhau i fod yn sylweddol is eleni.
3. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwyntiau 3, 4 a 5 a rhoi’r canlynol yn eu lle:
Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu 1.3% yn rhagor o gyllid ar gyfer cynghorau yng Nghymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant nag y mae Llywodraeth y DU yn ei roi i gynghorau yn Lloegr, ac y gallai cynghorau ddefnyddio’r arian hwn mewn perthynas â rhewi’r dreth gyngor, os dymunant wneud hynny.
Yn nodi y rhagwelir, ar ôl i bob awdurdod bennu ei gyllidebau ar gyfer 2012-13, y bydd y cynnydd yn y dreth gyngor yng Nghymru yn is nag erioed.
Yn mynegi ei fod yn gresynu wrth gynlluniau Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y dreth gyngor sy’n effeithio’n negyddol ar y bobl sydd fwyaf agored i niwed.
NDM4931
1. Jane Hutt (Vale of Glamorgan)
Delete point 1 and replace with:
Notes the steps taken by the Welsh Government in bringing forward a comprehensive fiscal package to help stimulate the economy, including the provision of capital investment, both from traditional and non-traditional sources; and
1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i gyflwyno pecyn ariannol cynhwysfawr er mwyn helpu i ysgogi’r economi, gan gynnwys darparu buddsoddiad cyfalaf, o ffynonellau traddodiadol a rhai nad ydynt yn draddodiadol; a
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:
'yn cynnwys diddymu ardrethi busnes ar gyfer cwmnïau hyd at werth ardrethol o £12,000’.
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio’n agos â Llywodraeth y DU i wella economi Cymru.
4. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ym mhwynt 2, ar ôl ‘pellach’, rhoi ‘, fel gwell seilwaith a lefelau sgiliau uwch,’.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y gellid darparu ysgogiad economaidd cynhwysfawr petai gan y Cynulliad bwerau benthyca a rhagor o gyfrifoldeb ariannol, ac yn croesawu sefydlu Comisiwn Silk sy’n ymchwilio i’r posibilrwydd hwn.