07/03/2017 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 28/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 08/03/2017

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 7 Mawrth 2017

Cynigion a gyflwynwyd ar 7 Chwefror 2017

NNDM6236 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 7 Chwefror 2017.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:

- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.

Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2017

NDM6246 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ar gyfer 2015-16.

Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Chwefror 2017.

NDM6247 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2017 ac yn cydnabod swyddogaeth, cyfraniad a llwyddiannau menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6246

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod ansawdd ac amrywioldeb addysgu yn parhau i fod yn un o agweddau gwannaf y ddarpariaeth ar draws sectorau yn system addysg Cymru.

2. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw'r system addysg yn diwallu anghenion pob dysgwr o hyd.

3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi mai arweinyddiaeth yw'r ffactor mwyaf sy'n effeithio ar wella ysgolion ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwybodaeth fanylach ynghylch sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol, gan gynnwys ei chyllid, targedau, a sut y bydd arweinwyr yn gallu cael gafael ar ei chymorth.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 2 Mawrth 2017

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM6246

1. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at berfformiad cymharol wael yr unedau cyfeirio disgyblion a arolygwyd yn 2015-16, pan na nodwyd bod yr un ohonynt yn dangos arferion ardderchog, a gosodwyd y pedair mewn categori statudol camau dilynol, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gwendidau mewn darpariaeth, arweinyddiaeth a rheoli fel mater o frys.

NDM6247

1.  Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod menywod yn dal i gael eu tan-gynrychioli mewn swyddi arweinyddiaeth ac yn gresynu mai dim ond pedwar y cant o Brif Weithredwyr y 100 prif fusnes yng Nghymru a 31 y cant o aelodau byrddau prif gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru sy'n fenywod.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyrraedd y trothwy cydbwysedd rhwng y rhywiau, bod 40 y cant o fyrddau cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru yn fenywod, a chynyddu nifer y menywod sy'n gadeiryddion ac sydd ar banelau cynghori cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y bwlch cyflog canolrifol yr awr rhwng dynion a menywod yng Nghymru yn 2015 yn 14.6 y cant.

3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod 29 y cant o fenywod a oedd yn gweithio yng Nghymru wedi ennill llai na'r cyflog byw, o'i gymharu â 20.5 y cant o ddynion, ar sail cyflog byw o £8.25 yr awr ym mis Ebrill 2016.

4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y byddai cyfartaledd rhwng y rhywiau yng Nghymru yn gwella pe bai gwersi perthynas iach yn dod yn orfodol mewn ysgolion.