Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 07 Mai 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 30 Ebrill 2008
Dadl Fer
NDM3928 Janice Gregory (Ogwr): Lymffoedema - yr angen am wasanaeth gwell
NDM3929 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1) Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y gall toiledau cyhoeddus a reolir yn dda ei gael ar ansawdd bywyd trigolion lleol ac ar yr argraff a gaiff ymwelwyr ar le; a
2) Yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i gyflwyno strategaeth ar gyfer darpariaeth, lleoliad a dosbarthiad toiledau cyhoeddus a fydd yn cael ei phrif ffrydio i bob polisi trefol ar lefel strategol.
NDM3930 Helen Mary Jones (Llanelli)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Wasanaethau Eiriolaeth ar Gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2008; a
Noder: Gosodwyd Ymateb y Gweinidog y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Ebrill 2008.
Cynigion a gyflwynwyd ar 28 Chwefror 2008
NNDM3891
Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103: Yn caniatáu i Nerys Evans gyflwyno Mesur a gynigiwyd gan Aelod er mwyn gweithredu’r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 15 Chwefror 2008 dan Reol Sefydlog 23.102. Gellir gweld y wybodaeth cyn y balot trwy ymweld â’r hyperddolen ganlynol: http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/business-measures-ballot-26-06-07/business-measures-mb-31.htmGwelliannau a gyflwynwyd ar 01 Mai 2008
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM3929
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi “Yn croesawu menter Llywodraeth y Cynulliad i annog awdurdodau lleol i bennu a darparu lefel y ddarpariaeth toiledau sy’n diwallu eu hanghenion lleol eu hunain, ac i gynnwys busnesau lleol yn narpariaeth y gwasanaeth hwn.”