Cynigion a Gwelliannau i’w trafod yn y Dyfodol
Cynnig heb Ddyddiad Trafod a gyflwynwyd ar 08 Chwefror 2011
NNDM4661 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 27.21, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2010-11 , a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog dros Fusnes a’r Gyllideb ac a e-bostiwyd at Aelodau’r Cynulliad ddydd Mawrth 8 Chwefror 2011.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 27, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy’n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb floc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb floc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng amcangyfrif y symiau sydd i’w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a’r symiau yr awdurdodir eu talu o’r Gronfa yn y cynnig; a
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i’w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o’r Ddeddf a’r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.